Main content

Amgylchiadau Anodd

Mae'r rhaglen hon yn son am freuddwydion gwlyb

Hyd: 11:53

Mae Gabriel (13) yn breuddwydio am y merched yn y grŵp a'i athrawes, ac yn deffro mewn panig i ddarganfod ei fod wedi cael breuddwyd wlyb. Mae Gabriel a Tony (13) yn sleifio allan gyda'i gynfas ac yn mynd â hi i'r olchfa, lle maen nhw'n gweld Llion (13). Mae Llion wedi cael yr un broblem ond dydy e ddim mor bryderus â Gabriel. Mae Tony'n teimlo allan ohoni - dydy e erioed wedi cael breuddwyd wlyb ond mae'n smalio ei fod wedi.

Ar ôl i Tony bwyso arno, mae Gabriel yn datgelu pwy oedd yn ei freuddwyd. Ar yr union adeg honno, mae Monica'n cerdded heibio ac yn clywed ychydig o'r sgwrs, gan wneud iddi feddwl fod Gabriel yn ffansïo un o'r merched. Mae Monica (11) yn perswadio Lara (12) ac Akira (12) i'w helpu hi i hyrwyddo cyngerdd band Max (16). Er gwaethaf ei hymdrechion i ymddwyn yn ddidaro, mae Lara wastad yn gwneud rhywbeth sy'n profi i Max mai hi ydy ei ffan fwyaf.

Cyn y cyngerdd, mae Gabriel yn derbyn cyngor Llion, ac mae Tony'n teimlo'n well. Mae Lara'n sylweddoli pwy yn union oedd ym mreuddwyd Gabriel, ond mae hi'n cadw ei gyfrinach. Wedi'r cyfan, mae hi'n gwybod beth ydy teimlo embaras...

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gellir defnyddio'r stori hon i gychwyn trafodaeth am freuddwydion gwlyb. Mae’r bennod wedi’i llunio i apelio at grŵp mor eang â phosibl ac mae hefyd yn arf defnyddiol i asesu faint yn union mae grŵp cymysg o fechgyn a merched yn ei wybod am freuddwydion gwlyb. Mae'r stori'n canolbwyntio ar yr agweddau emosiynol, yn hytrach na'r rhai corfforol. Nid oes unrhyw ddelweddau na lluniau o freuddwydion gwlyb (er hynny, fe welir staeniau ar y gynfas gwely mewn un olygfa) ac ni ddefnyddir unrhyw eiriau bratiaith/slang. Cawn ddisgrifiad o freuddwydion gwlyb gan un o’r bechgyn sy’n darllen y wybodaeth o wefan iechyd ar y we (mae’n ddisgrifiad y byddech yn ei ddarllen mewn geiriadur).

Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy’r bennod yn addas.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

• gofyn am gymorth a chyngor personol

a deall:

• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• deall yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.