Rysait Tarten Planhigyn wy a Chorbwmpen
Rysait Tarten Planhigyn wy a Chorbwmpen gan Ros McGarry
Ros McGarry ar raglen Bore Cothi.

Cynhwysion:
1 planhigyn wy ,
1 gorbwmpen (courgette) mawr ,
1 pupur unrhyw liw
1 winwnsyn wedi'i dorri'n fân ,
1 tun tomatos wedi'u torri,
Pinsiad o siwgr ,
4 ewin garlleg ,wedi’i falu
2 lwy de paprica mwg ,
11/2 llwy de marjarom sych,
11/2 llwy de basil sych,
2 lwy fwrdd piwrî tomato ,
11/2 lwy de tamari neu saws soia tywyll
2 lwy fwrdd o olew blodyn yr haul ,
halen môr a phupur du ,
ychydig bach o ddŵr oer os angen
Crwst
7 owns o flawd gwyn plaen
2 owns blawd polenta neu polenta wedi’i falu ( defnyddio grinder coffi )
41/2 owns o fenyn di-halen
1 wy wedi’i guro (cadwch ychydig ar ol i roi ar cyn pobi )
ychydig o ddwr oer
pinsiad halen môr
crwst ( heb glwten )
4 owns blawd polenta neu polenta wedi’i falu ( defnyddio grinder coffi )
4 owns blawd gwenith yr hydd
4 owns blawd heb glwten neu blawd reis neu blawd tatws
6 owns menyn di-halen
1 wy wedi’i guro ( cadw ychydig ar ol i roi ar cyn pobi )
ychydig o ddwr oer
pinsiad halen môr
*Byddwch yn ofalus wrth rolio allan y crwst heb glwten a defnyddio tamari nid saws soia
Dull
Dull gwneud y tarten.
Crwst
Rhidyllwch y blawd a halen mewn i fowlen
Gratiwch y menyn yn syth o’r oergell a rwbiwch mewn i’r blawd
Ychwanegwch yr wy ac ychydig bach o ddwr oer a thynnu at ein gilydd
*Byddwch yn ofalus iawn i beidio rhoi gormod o ddwr
Gorchuddiwch gyda clingfilm a rhowch yn yr oergell tra’n gwneud y llenwad
Llenwad
Torrwch yr holl lysiau yn ddarnau weddol o faint
Sleisiwch winwns yn fach
Ffriwch winwns nes yn dryloyw mewn 1 llwy fwrdd o olew
Ychwanegwch blanhigyn wy, pwmpen a phupur ac 1 llwy fwrdd o olew a choginio gyda chaead tan yn weddol feddal
Ychwanegwch berlysiau a halen a phupur a choginiwch am funud
Ychwanegwch y tomatos,siwgr, piwrî a choginio am tua 20-30mun gyda'r caead ymlaen nes yn drwchus
Cymrwch oddi’r pentan i oeri ac ychwanegu’r tamari
Gadwch i oeri cyn mae’r crwst yn cael ei roi ar ben
Llenwch 3 plat nid dysgl ffoil, 8 modfedd (bwydo 2-3) neu 2 ddisgl bastai
Rhanwch y pastai, rholiwch allan a gorchuddio’r llenw
Brwsiwch gyda’r wy sydd ar ol
Rowch yn y ffwrn @ 190-200 a phobi am 35-40 mun
Mae’r tarten yn rhewi’n dda iawn
Gweiniwch gyda thatws a salad neu llysiau gwyrdd