Main content

Enillydd Tlws Coffa Cledwyn 2015

Enillydd Tlws Coffa Cledwyn am delyneg orau’r gyfres ydi Mari George o dîm Aberhafren

Telyneg neu soned: Braint


Braint
Fe redan nhw drwy fy egni
gyda’u dyrnau brwnt
a syllaf ar ein staen jam
o gartre.
Yn sŵn briwsion
a nodau poenus piano
camaf ar ddarn o lego
a dyna hi.
Af drwy’r drws yn drwm
a’i chwalu ar gau,
at y lôn
y breuddwydiaf amdani.
Cerdded drwy’i llonyddwch
a diolch am dawelwch.
Ond daw cecru adar yr hwyr
a chic rhyw bêl o bell
i’m baglu.
A throf yn ôl
yn yr haul marw,
troi am y drws
a’r sŵn
sy’n chwilio amdana i.


Mari George