Main content

Pwdinau Deli Elin Williams

Rysait Pwdin Tegwen a Tarten Almwnd y Deli ar raglen Bore Cothi

Tarten Almwnd

Cofiwch bod Elin yn cynghori bod modd newid y cynhwysion y ddau resait i greu 'arwydd-fywd' eich hun. E.e. ychwanegwch groen lemwn i gymysgedd y gacen almwnd a llenwi'r gacen a curd lemwn. Neu greu compote cartref ar gyfer gwaelod Pwdin Tegwen. Pob lwc!

Pwdin Tegwen

Cynhwysion:

  • Llysiau’r haf (wedi’u rhewi) neu ffrwyth tymhorol
  • Hufen dwbwl
  • Yoghurt Groegaidd
  • Siwgwr Demerera ac ychydig o Muscavado
  • Dadrewi ffrwythau'r haf/paratoi ffrwythau tymhorol a’u rhoi mewn powlen.

Chwipio hufen dwbwl a yoghurt Groegaidd tan yn drwchus. (1 rhan yoghurt Groegaidd i 1 1/2 rhan hufen).

Taenu’r gymysgedd dros y ffrwythau.

Gorchuddio’r wyneb gyda siwgwr Demerera ac ychydig siwgwr Muscovado.

Yn yr oergell tan i’r siwgwr feddalu i fewn i’r llenwad.

Tarten Almwnd y Deli

  • 100g siwgwr caster
  • 100g 'margarine' pobi
  • 1/2 llwy fwrdd extract almwnd
  • 70g almwnd man
  • 30g fflwr plaen
  • 2 wy
  • Jam - o'ch dewis chi
  • 'Flakes' almwnd
  • Ces tarten wedi'i phobi'n ddall - fe allwch chi wneud toes eich hun neu brynu ces parod.

Chwipio 100g siwgwr caster, 100g 'margarine' pobi a'r extract almwnd tan yn ysgafn a 'fluffy'

Ychwanegu 1 wy a hanner y gymysgedd almwnd man/fflwr plaen. Ei chwipio'n dda.

Ychwanegu gweddill y gymysgedd almwnd/fflwr a'r wy sy'n weddill. Ei chwipio tan bod yr holl gynhwysion wedi'u hymgorffori i'r gymysgedd.

Taenu ychydig jam - ryw 1 llwy de ar ges bach - ar y ces pestri. Dwi'n hoff o jam mafon ond ma unrhyw jam yn gwneud y tro.

Taenu'r gymysgedd almwnd ar y jam - gorchuddio'r jam fel blanced dew gan sicrhau bod yr ochrau wedi'u gorchuddio.

Ychydig o almwnd wedi'i sleisio ar y wyneb.

Ffwrn ar 180C am ryw 20 munud i darten fach - y cyfan yn dibynnu ar faint y darten.