Main content

Talwrn Urdd - Glan-Llyn v Llangrannog

Trydargerdd: Cyfaddefiad o sedd ôl y bws

Glan-Llyn
Ym Mwlch Tal-Llyn ar ffordd fyny mae pawb yn y cefn wedi chwydu yn fôr hyd y llawr pan aiff y bws yn ôl lawr bydd pen-llanw mawr radeg hynny

Ifan Prys - 8

Llangrannog
Bu holi ers troad Llanllwni
Pwy yffach fu wrthi, ys gwn i?
Ond mae fy nwy foch
Yn amlwg yn goch -
Ie, fi a fu'n tynnu sawl mwni.

Iwan Rhys - 8

Cwpled yn cynnwys y gair ‘Llangrannog’ a chwpled yn cynnwys y gair ‘Glan-llyn’

Glan-Llyn
Yr un, ar faes Llangrannog,
Yw’r rocyn, cwbyn a’r cóg.

Myrddin ap Dafydd

Hyder fesul diferyn,
Ennill iaith yw camp Glan-Llyn

Ifan ap Prys

8.5

Llangrannog
Fe gei ban o Langrannog
Os cei di sws gyda swog;

Na hidia – cei fynd wedyn
Law-yn-llaw â swogs Glan-llyn.

Gruffudd Antur – 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi gefais i gam eto ’leni’

Glan-Llyn
Mae'r beirniad Sioe Arddio'n fy mhen-i
Nad sythion yw'r moron sydd gen-i:
"Mae hon fel banana
A nacw'n Dŵr Pisa!" –
Mi gefais i gam eto leni.

Myrddin ap Dafydd – 8.5

Llangrannog
Mi gefais i gam eto ’leni
Ar adrodd o’r ’sgrythur, myn diawl i.
O gwrdd â mam-gu
Fe gredech chi fi
Nad oes bai arna i ’mod i’n rhegi.

Iwan Rhys – 8

Cystadleuaeth Llefaru dan Wyth

Glan-Llyn
Dwi’n mefwl ei fod yn syniad da
lhoid lhywun dan wyff al y chwyfan
I sialad am bob maff o beffau,
o chew gwycht, i stoli tlo tlwstan.

Neu sôn yn hapus am loli fawl
sy’n gyflym lowlio lawl y lôn
Neu chgodan chwyd sy’n gelfolol iawn
yn chwala tlwmped a thlombôn.

Dlo alach, chefalu am taid
sy’n chwylnu’n swnchyd dlos y che.
A nain yn gwneud bala bliff bob dyf,
cacan gli a thleiffyl i de.

Ohelwyf ma’ pawb yn dweud “O! Ciwt”
wlff fy nghlywed i’n chefalu.
A finna’n enich bob un tlo
am doli calonna wlff gystadlu.

Ond al ôl mynd adla gyda’l nos,
byddaf yn rhoi’r gora i’r cam-siarad,
a dweud fy r, fy ll, fy th yn iawn.
Ond peidiwch a dweud wlff y beilniad.

Anni Llŷn – 9.5

Llangrannog
Mae Mami’n hoffi adrodd
Fel Sioned Grug and co.
Yn g-o-r-l-e-f-a-r-u’n a-r-a-f
Neu’nrasioambelldro…

Ond dwi’n CASÁU’R perfformans
A’m llygaid syn ar led!
Sa’n well gen i just joio’r
Urdd a’r ffair a’r lemonêêêêêêêêd…

Ond Mam di’r bos yn fama
A llefaru fydda i’n frwd
Tan i’r candi fflos ci poeth a fizz
Beintio’r beirniad efo chwd!

Nia Môn – 9

Triban: Beddargraff Swog

Glan-Llyn
Roedd hon yn chwip o hogan,
Yn giamstar ar dabogan.
Ond heb y brêcs, doed dim i'w wneud,
A rhaid oedd dweud "da bo" 'chan.

Anni Llŷn – 8.5

Llangrannog
Nid oedd yn hoff o sgïo,
Marchogaeth, traeth na beicio.
Nid oedd ychwaith yn hoff o blant.
Fe redodd bant, a chwympo.

Iwan Rhys – 9

Parodi ar Ymdeithgan yr Urdd

Glan-Llyn
Dathlwn gnawd ein cyndadau
Fflabiog gewri Cymru fu
Gwyr yn gweld y sosej
Seimllyd trwy y cwmwl du,
Ar ôl llawer calorî,
Anfertholion ydym ni:
Ar y rhestrau tewion mae Cymru fry.

Saim, crisps a cârbs,
Chocs, chips a lards
Heddiw lanwo Gymru’r plant, melys ddant;
Plant gordew iawn, pob ffrij yn llawn
Codwn wydrau’n llawn o ffiss.

Bloneg gwlad sy’n goferu,
Toesymgrynu mae pob bol,
Merched mawr a llanciau
Llwythog gan golesteról
Dewch â tharten gynnes fwyn,
Hoff gacenni syml eu swyn
Siwgwr, blawd a lard di-ffrwyn Cymru Fu.

Myrddin ap Dafydd – 9.5

Llangrannog
Dathlwn fod blas yr hadau
Tshilis yn creu cyrri da;
Ffrio’r cig i’w serio,
Yna ychwanegu’r ffa.
Er bod llawer awel groes
Pobwn naan ar ôl gwneud toes.
Hen ryseitiau pysg a choes, gyrri da!

Cytgan
Saim, cig a sbeis;
O! Gyrri neis!
Hanner sglods a hanner reis, gyrri neis.
I’r plantos cu neu i Mam-gu
Cwciwn heno gyrri neis.

Bhuna – gwledd da i’r werin,
Rogan josh i’r merched doeth;
Beth am korma os nad wyt
yn hoffi cyrri poeth?
Winwns, garlleg, mewn â nhw,
Nes ein bod ni, ar fy llw,
Mewn mad-ras i fynd-i’r-lw, gyrri neis!

Iwan Rhys – 9.5

Ateb llinell ar y pryd: Awn o’r Urdd i Ffrainc am dro

Glan-Llyn
Awn o’r Urdd i Ffrainc am dro
Yn gewri i’r maes, a sgorio

Llangrannog
Awn o’r Urdd i Ffrainc am dro
Ac mi wn cawn gam yno

0.5

Cerdd ar unrhyw fesur ac a fyddai’n addas i barti llefaru: Anrhydedd

Glan-Llyn
Mae'r gwynt wedi chwalu'r lein ddillad neithiwr;
Mae'r storm drwy'r dydd ar do'n creu dwndwr
A Dad a gyhoeddodd amser te:
"Mae'n Awst – Aberdaron ydi'r lle!
Gwersylla ydi gwyliau i mi
Ers haf hirfelyn Un Naw Saith Tri!"

Ym mhen draw'r garej, mae pabell oren;
Ym mhen draw'r garej, mae stof fach felen;
Ym mhen ei thennyn, mae Mam yn dweud
"Mae gen i ormod o bethau i'w gwneud!"
Mae hi am aros, ac felly y ni:
Dwy chwaer fawr a fi a'r ci
A Dad ("Mae awyr las fan draw!")
Sy'n llwytho'r geriach yn y glaw.

"Fel y daeth Taid â fi i Lŷn,
Dyma fi'n dod â chi fy hun –
Trosglwyddo'r trysor o un i un!"
Meddai Dad gan wenu'n llydan
A gyrru ymlaen i sŵn y daran.

Mae dau o'r polion yn hanner gorwedd;
Mae sip y drws wedi colli'i ddannedd;
Anghofiwyd yr ordd i guro'r pegiau...
A'r sachau cysgu... a'r ffyrc a'r platiau.

Ond cyn y machlud, cawn lafn o heulwen;
Daw tân o'r diwedd i'r stof fach felen;
Cawn wledd o fîns dan leuad oren
A chwarae cardiau â chriw o Fôn...

Pawb ond Dad, sydd i fyny'r lôn
Yn chwilio am signal i'w fobeil ffôn.

Myrddin ap Dafydd – 9.5

Llangrannog
Anrhydedd y Ddau Frawd

Ynddo’i hun fe deimlai’n dda
am mai’r anrhydedd mwya
iddo fo – rhoddi’i fywyd
i danio gwn. Dyna i gyd.

Aros mewn rhes am un rhodd;
er ei boen fe’i derbyniodd.
Cred, drwy’i ddolur, yn burion
fod ei wlad, â’r fedal hon,
yn rhoi torch am ei orchest,
yn ei fawrhau ar ei frest.

Yn rhu’r gad, y dewra’ gŵr –
a’i frawd ei hun yn fradwr,
rhy eiddil ei wareiddiad,
rhy swil i ladd dros ei wlad,
rhy ddi-drais yr oedd i drin,
a rhy feddal i’r fyddin.

Yn dawel, ein cystwyo
wnai’i brotest ddi-orchest o;
hyd y nos clywed a wnai
y ‘na ladd’... ac fe lwyddai.

Ond ei wawdio wnaed wedyn
a cheisio diwyllio’r dyn,
a’i drïo ar brawf, druan,
yn unig, yn gonshi gwan
ar fai na all roi’i fywyd
i danio gwn. Dyna i gyd.

Tudur Dylan Jones - 10

Englyn ar y pryd: I Mistar Urdd yn 40

Glan-Llyn
Y deugeinoed a’i ganu yn ifanc
drwy hafau ei Gymru ;
‘leni’n groch a dal yn gry’,
deugain oed ei genhadu.

Llangrannog
Un o blant yr oes o’r bla’n – ydyw hwn,
ond un sy’n ddioedran
yn mynd, mynd drwy’r oriau mân
yn y rêf â Syr Ifan.

Cyfanswm
Glan-Llyn - 102
Llangrannog - 103