Cacennau 'Byrgyr' Lisa Dafydd
'Bun'


80g menyn
280g siwgwr man
240g blawd codi di-glwten
240ml llefrith
2 wy
Mêl
Hadau sesame
Popty : 190'C/ffan 160'C/gas 5
Cymysgwch y menyn, siwgwr a'r blawd gyda chwisg trydan.
Cymysgwch y llefrith a'r wyau mewn jwg â llaw a'u ychwanegu yn araf at y gymysgedd sych.
Rhowch y gymysgedd mewn cesys papur, tua 2/3 llawn a'u coginio am 18-20 munud
Gadwch i'r cacennau oeri cyn eu torri yn eu hanner. Toddwch y mêl a'r frwsio ar ben y cacennau a rhoi rywfaint o'r hadau ar ei ben.
'Byrgyr'
275g menyn
375g siwgwr man
4 wy
75g coco
100g blawd codi di-glwten
100g 'choc chips'
Popty : 180'C/ffan 160'C/gas 4
Pwyswch y cynhwysion i gyd, eu rhoi mewn powlen a'u cymysgu â chwisg trydan.
Rhwoch y gymysgedd mewn tin 30cm x 23cm wedi ei leinio.
Coginiwch am 40-45 munud.
Gadewch i'r gacen oeri yn y tin, ac yna ei dorri i mewn i gylchoedd yr un maint a'r cacennau fanila. (A bwytwch yr 'off-cuts'!!)
'Caws'
Sgwariau o farsipan, neu sgwariau o eisin ffondant efo tamaid lleia o liw melyn
'Sos coch'
500g siwgr eisin
160g menyn
50ml llefrith
Lliw coch
Cymysgwch y menyn a'r siwgwr eisin gan ychwanegu'r llefrith yn ara deg.
Ychwanegwch y lliw coch nes cael lliw tebyg i sos coch.
Er mwyn ei roi at ei gilydd:
Gwaelod y gacen fanila
Y 'brownie'
Y marsipan/eisin
Y 'sos coch'
Top y gacen fanila
A gallwch roi 'sos coch' ychwanegol ar ochr y blat os oes peth ar ôl!
Gallwch hefyd ddefnyddio eich hoff ryseitiau 'cupcake' a 'brownie' yn lle'r rhai uchod os dymunwch.