Main content

Torth Gig Wynnie James

Rysait Torth Gig gan Wynnie James

Torth Gig Wynnie James

Cynhwysion:

225g o gig selsig porc

225g o fins cyw iâr

1 winwnsyn mawr wedi ei dorri yn fan

1 llwy fwrdd o barsli

¾ peint o saws gwyn neu tin bach o gawl madarch neu seleri

Halen a pupur

Dull

Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn powlen fawr

Trosglwyddwch y gymysgedd i fewn i dun torth

Gadewch i’r dorth goginio mewn ffwrn am awr (180˚C, 400˚F neu marc nwy 5)

Gadewch i’r dorth oeri cyn ei dorri yn dafellau

Gweinwch gyda salad – perffaith ar gyfer swper ysgafn neu bicnic