Main content
Cheviche Draenog Y Môr Dudley
Cynhwysion
- 200g Ffiled Draenog y Môr i bob person fel prif gwrs - Heb esgyrn a chroen ac wedi ei dorri’n haenau tenau
- Zest 2 leim
- Sudd 3 leim
- Hanner winwnsyn bach coch wedi ei dorri’n fan iawn
- Hanner ewin garlleg wedi ei dorri’n fan
- 1 llwy fwrdd o olew sesame
- 2 llwy de o nam pla
- ¼ tsili heb hadau wedi ei dorri’n fan iawn, sdim rhaid defnyddio hwn!!
- Bwnsied fach o goriander wedi ei dorri’n fan
- Pupur du – i siwtio chi
- Llwy de o fel clir
Dull
1. Cymysgu holl gynhwysion y marinad mewn bowlen a’i adael i fwydo am hanner awr.
2. Arllwys haen o farinad ar waelod desgyl bas, yna gosod y tafellau o bysgod ar ben y marinad yn wastad.
3. Arllwys gweddyll y marinad dros ben y pysgod, eu orchuddio gyda papur glynu, ac yna’u adael i sefyll yn yr oergell am 20 munud i fwydo.
4. Yna gosod y Salsa o Avocado, tomato a chiwcymber ar blat mawr, gwasgaru’r Ceviche dros y salsa, a’i weini.
