Lasagne Llysieuol - Owain Wyn Evans
Rysait

Am y lasagne:
Olew olewydd (2 lwy bwrdd)
1 pupur melyn
1 ewin o arlleg wedi’i deisio
Tun o foron.
Hanner corbwmpen wedi’i deisio
1 tun 400g o domatos mawr
Piwri tomato (2 lwy bwrdd)
Saws Wourcester (1 llwy bwrdd)
Halen a pupur I flasu.
Powdr chilli
Sage, oregano
150g Quorn Mince
Pasta lasagne.
Am y saws:
25 g o fenyn
600 ml o laeth
25g o flawd
Mwstard (llwy te)
Caws i roi ar ben y lasagne ac yn y saws.
Dull
Ar ol cynnhesu’r olew, ychwanegwch y pupur, y corwbwmpen, y Quorn a rywfaint o halen a pupur a choginiwch y cyfan am ychydig funudau.
Tynnwch y moron allan o’r dwr yn y tun, a’u torri’n ddarnau bach gyda fforc (stwnsh). Ychwanegwch y moron, a’r tomato’s or tun i gweddill y cynnhwysion a’u cymysgu’n dda. Ar ol ychydig funudau, rhowch y sawsWourcester, garlleg, chili, sage ac oregano.
Gadewch y cyfan I goginio am tua 10 munud ar gwres isel. Cymysgwch y piwri tomato gyda rywfaint o ddwr, a chymysgwch gyda’r cynnhwysion eraill.
Mae’n bryd I gwneud y saws gwyn nawr! Toddwch y menyn, gan ychwanegu’r blawd I greu roux. Coginiwch hwn am ychydig funudau. Ychwanegwch y llaeth yn ara deg, nes bod y saws yn drwchus. Ychwanegwch ymwstard a rywfaint o gaws.
Rhowch haenen o’r cymysgedd, yna haenen o basta lasagne, ac yna haenen o saws. Mae angen gwneud hwndwywaith gan orffen gyda saws gwyn a chaws ar ben y lasagne.
Coginiwch am ryw hanner awr, 200C nes bod y pasta yn feddal.