Main content

Golwythion Porc Gyda Pupurau Coch

Mae'r ryseit yma yn syml gan ddefnyddio dim ond dau brif gynhwysyn. Mae'r pupurau yn rhoi blas melys a sur sy'n torri trwy cyfoeth y golwythion porc yn berffaith. Mae'r ryseit yn hawdd ac felly yn addas ar gyfer pryd cyflym da. Fel gyda pob cig, mae'r ansawdd yn gwella trwy adael y cig gael amser i orffwys ar ol cael ei goginio. Nid oes angen llawr o gyfeilianau i weini gyda'r ryseit ond mae tatws newydd wedi ei malu'n ysgafn gyda menyn yn dda neu tatws dull Boulangere yn ychwanegiad blasus ac efallai ychydig o asbaragws wedi eu coginio ar radell neu gennin wedi'u brwysio (braised) gyda stoc llysiau ac ychydig o fenyn.

Ar gyfer 2 berson:

2 golwyth porc tua 200g yr un
Olew olewydd
2 ewin o arlleg gyda'r croen ymlaen ond wedi eu malu'n ysgafn
Tusw bach o teim

Ar gyfer y pupurau melys a sur:


Olew olewydd
1 nionyn coch wedi ei sleisio
2 pupur coch heb yr hadau ac wedi ei sleisio'n denau
Halen y mor a pupur du wedi'i falu'n fres
Llwy fwrdd o siwgr gwyn man
3 llwy fwrdd o finegr gwin coch
Tusw bach o ddail frenhinllys (basil)

Dull
1. Paratoi'r pupur ar nionyn gyntaf yna cynhesu ychydig o olew olewydd mewn padell ffrio fawr. Ychwanegu'r pupur a'r nionyn gyda halen, pupur a'r siwgr a'u coginio ar wres uchel am 4-5 munud hyd nes maen't yn feddal ac wedi lliwio. (os yw'r gwres rhy isel mae'r llysiau'n berwi yn lle ffrio)


2. Ychwanegu'r finegr a gadael iddo fyrlymu am funud neu ddwy. Troi'r gwres i lawr ac ychwanegu llwy fwrdd o olew olewydd a'i goginio am 2-3 munud yn ychwanegol.


3. Ychwanegu y dail brenhinllys wedi eu rhwygo a'u coginio am 30 eiliad cyn troi'r gwres i ffwrdd ac ardywalltu'r cyfan i ddysgl i drwytho.


4. Glanhau'r badell yn barod ar gyfer y porc.


5. I arbed y golwythion gyrlio i fyny wrth eu coginio dylid torri i mewn I'r brasder gyda cyllell finiog pob rhyw 3-4 cm i ddyfnder o tua 5mm


6. Cyn eu coginio dylid rhoi digon o halen a pupur ar y cig gan eu gwthio i mewn i'r cnawd.


7. Ar ol cynhesu'r badell ar wres uchel, ychwanegu ychydig o olew yna'r golwythion, y teim a'r garlleg a'u ffrio hyd nes mae'r golwythion wedi troi'n frown, yna eu troi drosodd a gwneud 'ru'n fath eto a chwthio'r garlleg a'r teim o dan y cig.


8. Tua diwedd y coginio ychwanegu 3 darn o fenyn tua maint cneuen Ffrengig a brasteru'r cig gyda'r menyn i gyflymu'r coginio ac i gadw'r cig yn llaith.


9. Cyn eu codi o'r badell gwasgu'r garlleg i mewn i'r cig a rhoi'r teim are eu gwyneb


10. Gadael i'r cig orffwys mewn lle cynnes am 5-10 munud gan ddefnyddio llwy i roi'r menyn dros y cig bob hyn a hyn i'w rwystro rhag sychu allan.


11. Gweini'r golwython gyda'r cymysgedd pupur coch a peth o'u sudd oddi tanynt.