Golff Cymru: Peidiwch rhuthro i ail-agor clybiau

  • Cyhoeddwyd
Golff
Disgrifiad o’r llun,

Mae 15 o dyllau Clwb Golff Llanymynech yng Nghymru, a thri yn Lloegr

Mae'r sefydliad sy'n rheoleiddio Golff yng Nghymru wedi galw ar berchnogion clybiau Golff i beidio rhuthro i ail-agor, wedi iddi ddod i'r amlwg bod hawl ganddyn nhw wneud hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi'n gyfreithlon i ail-agor rhai clybiau golff i 'aelodau lleol.'

Gyda disgwyl i glybiau golff Lloegr gael hawl i ailagor o 13 Mai ymlaen, mae'r diffyg eglurder am y rheolau yn creu dryswch yn ôl swyddogion clybiau golff.

Neges ddryslyd

"Fy ymateb personol i ydi mai haphazard ydi'r neges wedi bod hyd yn hyn," medd Andre Lambrecht, cadeirydd Clwb Golff Caernarfon, "Y neges oeddan ni am ei gael oedd ydan ni ar agor i chwarae golff neu ydan ni wedi cau?

Clwb Golff CaernarfonFfynhonnell y llun, Clwb Golff Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Andre Lambrecht yw cadeirydd Clwb Golff Caernarfon

"Mae'r rhan fwyaf o glybiau wedi bod dan furlough, felly does dim posib ailagor clybiau ar fyr rybudd gan na fydd safon y cyrsiau ddim ar eu gorau. Mi fyddai 'chydig mwy o rybudd wedi bod yn dda."

Ailagor 'yn fuan'

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn y Senedd, dywedodd cadeirydd adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y llywodraeth, Jason Thomas, ei fod yn disgwyl y bydd clybiau'n ailagor yn fuan.

"Yr eglurhad cyfreithiol yw nad yw cyrsiau golff wedi eu cynnwys ar restr busnesau a sefydliadau sy'n gorfod parhau ar gau - dydyn nhw erioed wedi bod ar y rhestr yna", meddai Mr Thomas.

"Mesurau eraill mewn grym sydd wedi cyfyngu ar allu clybiau i agor - mesurau teithio ac yn y blaen, felly rydym wedi rhoi eglurhad o hyn ar wefan Llywodraeth Cymru. Oes angen iddyn nhw fod ar gau? Nac oes."

Ar gauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yr arwyddion 'Ar gau' yn dod i lawr mewn clybiau golff y Lloegr o ddydd Mercher ymlaen

Fe fydd hawl gan glybiau golff Lloegr ailagor o 13 Mai yn dilyn llacio rhai o gyfyngiadau cymdeithasol y wlad honno.

Does dim hawl gan bobl Cymru yrru i ymarfer corff ar hyn o bryd, fel rhan o ymateb llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19. Rhaid i'r daith fod yn yn "lleol," er nad oes awgrym am bellter taith o'r math yma.

"Yn gyfreithiol, nid oes yn rhaid iddyn nhw fod ar gau," meddai Mr Thomas.

"Rydyn ni wedi egluro ein bod am hybu pobl i wneud ymarfer corff ond yn lleol, felly rydyn ni yn disgwyl datganiad gan Golff Cymru yn fuan iawn yn dilyn ein eglurhad... achos fe allen nhw awgrymu y dylai clybiau agor er mwyn iddyn nhw sicrhau fod chwaraewyr lleol yn gallu chwarae.

Clwb ar y ffin

Mae'r drafodaeth am y gwahaniaeth barn rhwng llywodraethau Bae Caerdydd a San Steffan am lacio'r rheolau o ddiddordeb i un clwb golff yn enwedig. Mae rhannau o dir Clwb Golff Llanymynech yng Nghymru - gyda 15 twll yng Nghymru a'r 3 arall yn Lloegr.

Mae'r clwb wedi rhyddhau datganiad yn cyfleu ei siom am y "negeseuon cymysg sy'n atal y cyhoedd rhag cydymffurfio" o fewn ardal y clwb.

Er y dryswch mae Mr Lambrecht o Glwb Golff Caernarfon yn credu fod cyrsiau golff yn lefydd delfrydol ar gyfer ymarfer corff, a lle mae cadw pellter cymdeithasol yn bosib hefyd o dan y cyfyngiadau presennol:

"Mae modd plismona cyrsiau golff yn weddol dda - ac mae modd cyfyngu rownd i ddau neu dri person ar y tro, cau bynceri a dechrau rownd ar adegau gwahanol. Mae'n hawdd rheoli niferoedd hefyd gan fod angen bwcio o flaen llaw a mi allwn ni droi pobl i ffwrdd."

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Ychwanegodd: "Mi fyddai wedi bod yn dda cael rhybudd o flaen llaw am unrhyw gyhoeddiad, ond dwi'n falch fod na siarad am ailagor.

"Da ni'n lwcus am ein bod yn glwb bychan gydag aelodau ffyddlon lleol - 'dan ni ddim yn ddibynnol ar 'green fees' chwaraewyr sydd ddim yn aelodau", meddai.

Golff Cymru

Mae Golff Cymru wedi cyhoeddi cyngor i glybiau golff yn awgrymu na ddylen nhw ail-agor ar unwaith er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol y llywodraeth. Eu cyngor nhw yw na ddylai clybiau golff ail-agor yng Nghymru tan y 18fed o Fai ar y cynharaf.