Yr hanes lawn am bêl-droed menywod Cymru ar BBC Cymru

Datgela un o fawrion y bêl gron, Jess Fishlock y cyfan mewn cyfweliad am ei phrofiadau a’i hamheuon am ei dyfodol yn gêm

Cyhoeddedig: 26 Mehefin 2025
Do’n i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Ro’n i’n crio gyda Mam, yn dweud ‘Dwi ddim yn meddwl y gallaf fynd trwy hyn eto.’ Roedden ni bron yna gymaint o weithiau, ac roeddwn i’n meddwl, ‘alla i ddim ‘neud hyn mwy.’
— Jess Fishlock

Mewn rhaglen ddogfen bwerus, Euro 2025: Together Stronger, mae Jess Fishlock - prif sgoriwr Cymru - a’i chyd-chwaraewyr yn adrodd hanes taith pêl-droed merched Cymru mewn ffordd nad yw erioed wedi’i wneud o’r blaen. Mae’r rhaglen yn rhan o arlwy BBC Cymru, sydd yn nodi camp hanesyddol tîm merched Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO 2025.

Bydd merched Cymru yn chwarae gyda goreuon Ewrop yn Ewro 2025. I gyrraedd yno, bu’n rhaid iddynt oresgyn sawl rhwystr a gwthio’u hunain i’r eithaf. Euro 2025: Together Stronger yw eu stori nhw o wireddu breuddwyd.

Jess Fishlock in Wales football kit with her arms stretched out to her sides running past a goal
Jess Fishlock, Wales v Kosovo 2024 (credit FAW)

Mae’r ffilm un awr, a gynhyrchwyd gan Barn Media, yn adrodd taith ryfeddol pêl-droed merched Cymru. Ond nid stori am chwaraeon yn unig sydd yma – mae am wydnwch a’r frwydr dros gydraddoldeb a chydnabyddiaeth. O fod yn dîm answyddogol, yn chware i dorfeydd bach, yn wynebu esgeulustod sefydliadol, cyfnod mae Jess Fishlock yn ei gofio fel adeg ble: “Dim ond yn bare-minimum oedden ni’n ei gael”.

Roedden nhw’n dîm oedd wedi gorfod dysgu ymdopi â cholledion a’r galar sy’n dod gyda methu. Yn y ffilm, ar ôl i’r freuddwyd chwalu yn rownd derfynol gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn erbyn y Swistir, dywedodd Helen Ward, cyn-chwaraewr Cymru a chapten Watford: “Ro’n i’n gwybod mai dyna oedd fy nghyfle olaf i gyrraedd pencampwriaeth fawr. Dyna’r tro cyntaf i mi grio dros bêl-droed, a ro’n i’n gwybod, dyna fo, y diwedd.” Roedd yr ergyd mor drom nes i Angharad James gwestiynu: “Ydyn ni byth am lwyddo i gyrraedd ein nod? Ydi o wir yn bosib?”

Two female footballers consoling another female footballer who is sat down on a football pitch looking upset. They are wearing yelow Wales away kits.
Helen Ward, Switzerland v Wales 2022 (credit: FAW)
A portrait photograph of Angharad James. The background is a dark red colour
Wales captain, Angharad James in Euro 2025: Together Stronger

Canlyniad a arweiniodd Jess Fishlock i gwestiynu ei dyfodol yn y gêm:

"Do’n i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Ro’n i’n crio gyda Mam, yn dweud ‘Dwi ddim yn meddwl y gallaf fynd trwy hyn eto.’ Roedden ni bron yna gymaint o weithiau, ac roeddwn i’n meddwl, ‘alla i ddim ‘neud hyn mwy.’”

Ond yr hyn mae Together Stronger yn ei ddangos yw sut taniodd pob colled angerdd yn y chwaraewyr i newid y system ac i greu hanes. Ac yn y pen draw, i wireddu eu breuddwyd dan arweiniad, Rheolwr, Rhian Wilkinson, gan sicrhau lle Cymru lwyfan rhyngwladol yn y Swistir yr haf hwn.

  • Bydd y ffilm yn cael ei ddarlledu ar BBC One am 10.40yh ar Ddydd Iau 3 Gorffennaf, ac ar gael i’w gwylio ar BBC iPlayer

Arlwy BBC Cymru

Darllediadau byw

Bydd darllediadau byw o bob un o gemau Cymru yn cael eu darparu gan BBC Radio Cymru ac BBC Radio Wales.

Bydd BBC One yn darlledu gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd ar y 5ed o Orffennaf.

Radio a BBC Sounds

5 of the Women's Wales squad celebrating and shouting in a montage picture with Jess Fishlock in the centre looking triumphant. The stands of Cardiff City stadium are behind them. The picture has a red hue

Yn Iconic: The Rise of the Women in Red, mae prif sgoriwr Cymru, Jess Fishlock yn ein tywys drwy stori bwerus tîm merched Cymru—taith o frwydro, o ddewrder, ac o obaith. Mewn cyfres bedair rhan, cawn glywed gan y chwaraewyr, y rheolwyr a’r arweinwyr a fu’n greiddiol i’w hymdrech i gael eu cydnabod ac i gyrraedd y brig.

Yn Feast of Football, bydd Carl Roberts ynghyd â gwesteion a chwaraewyr o dîm Cymru yn cyflwyno’r holl ddiweddariadau o’r Swistir. Bydd y podlediad dyddiol hwn ar gael ar BBC Sounds, yn ogystal a vodcast ar BBC One Wales cyn pob gêm Cymru.

Ar BBC Radio Cymru, Catrin Heledd fydd cyflwyno Creu Hanes ble bydd hi’n olrhain hanes yn tîm, ac yn siarad efo’r rhai sydd wedi bod yn rhan o’r daith dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Yr Athro Laura McAllister, Kath Morgan, Gwennan Harries a’r capten presennol Angharad James.

Ifor ap Glyn fydd yn holi beth mae’r Swisiaid wedi cyfrannu i'r byd, gan ddarganfod sawl cysylltiad Cymraeg annisgwyl yn eu hanes hefyd yn Be Wnaeth y Swisiaid i ni erioed?

Drwy gydol y bencampwriaeth, bydd podlediadau Y Coridor Ansicrwydd ac Y Panel Chwaraeon ynghyd â rhaglen Phone-In ar BBC Radio Wales yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf o'r bencampwriaeth.

Mae’r ddwy orsaf hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Urdd, i roi’r cyfle i holl ddisgyblion cynradd Cymru ddod at ei gilydd i ganu, dathlu ac ysbrydoli’r tîm Cymru cyn Ewros 2025 trwy ganu Jambori yr Urdd.

Yn ychwanegol i hyn, mae gan BBC Radio Cymru 2 restr chwarae arbennig Traciau Tîm Cymru - Ewro 2025, sydd yn cynnwys cyfraniadau gan y chwaraewyr, Ffion Morgan, Hannah Cain, a Lois Joel. Yn ogystal â chystadleuaeth sydd yn rhoi cyfle i bump o wrandawyr ennill crys a phêl-droed swyddogol Ewro 2025, ynghyd a baner Cymru BBC Radio Cymru 2. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal dros y pum diwrnod sydd yn arwain at y bencampwriaeth, gan gychwyn ar Ddydd Llun, Mehefin 30.

Cyfweliad gyda Helen Ward

Fe wnaeth BBC Cymru sgwrsio gyda Helen Ward, cyn-chwaraewr Cymru, ac un o sylwebwyr BBC Radio Wales ar gyfer Ewro 2025.

A portrait photograph of Helen Ward against a black background.
Helen Ward in Euro 2025: Together Stronger

Ble oeddet ti pan wnaeth Cymru gymhwyso i Ewro 2025?

Roeddwn i yno yn Nulyn pan wnaethon nhw gymhwyso, ac roedd yn brofiad anhygoel fod yn rhan o’r peth. Fel chwaraewr, byddai wedi bod yn rhyfeddol, ond roedd cael bod yno’n sylwebu ar ran BBC Cymru dal yn fraint ac anrhydedd llwyr. Ro ni’n ddiolchgar iawn o’r cyfle i dal deimlo yn rhan o'r peth.

Do ni methu siarad yn ystod deg munud olaf y gêm! Roedd o’n deimlad arbennig i allu rhannu'r moment gyda’r cyd-sylwebwyr eraill oedd yno, fel Mark Poyser a Kath Morgan. Moment hanesyddol rwy’n sicr yn ei drysori.

Sut ti’n teimlo am y grwp mae Cymru ynddo?

Mae gennym ni gymysgedd da iawn o chwaraewyr – cyfuniad o brofiad a thalent newydd. Mae’r grŵp yn heriol dros ben, a gyda dim ond un ar bymtheg tîm yn y bencampwriaeth, mae pob un yn gryf yn ei ffordd ei hun.

Alla i ddim dychmygu tri thîm anoddach. Ar bapur, mae’n sialens aruthrol. Ond mae’r fflam a’r angerdd yna gan Gymru, ac mae’n gyfle i ni ddangos beth allwn ni ei gyflawni ar y llwyfan rhyngwladol.

Sut wyt ti’n mesur llwyddiant?

Wrth gwrs mae cymhwyso ar gyfer y bencampwriaeth yn destun dathlu ynddo’i hun, ond nid yw’r garfan na’r tîm hyfforddi yn barod i setlo am hynny. Maen nhw'n uchelgeisiol ac mae’r garfan wedi’i hysgogi gan egni newydd a chyffro sydd wedi bod yn adeiladu ers mis Rhagfyr, yn benderfynol o ddangos gallu a phŵer tîm Cymru ar un o lwyfannau mwyaf y byd.

MER

Dilynwch am fwy

BBC Sport

More Sport

Search by Tag:

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: