Dylan Thomas season: A Poet On The Estate - Townhill Does Dylan

Can Dylan Thomas do for poetry what The Choir did for music? Dub-Poet Benjamin Zephaniah thinks so. Exclusion from school and a spell in a borstal made him indifferent to poetry until he read Dylan’s Do Not Go Gentle Into That Good Night. Now he wants to show others how poetry can turn your life around. BBC One Wales - April.

Published: 20 March 2014

Benjamin Zephaniah, Writer and Dub-Poet:

I thought of this title before I wrote a word of this piece. Some time ago I just threw Dylan Thomas in with all the other dead, white, male poets that grown-ups tried to force us to like. There’s nothing wrong with being dead, male or white, the problem was that when you’re an angry young black kid, seeking justice, and trying to find art that expresses your struggles and your pain, you just get angrier when you’re told to go away and read a poem about daffodils. I have nothing against daffodils. Some of my best friends are daffodils, but it was about priorities. My contemporaries and me went off and created Dub-Poetry, a modern form of performance poetry, and we were happy not to be associated with those dead guys.

But then two things happened to me. A friend of mine sat me down and read Do Not Go Gentle Into That Good Night to me, telling me what led up to the writing of the poem, and then I heard a relative of Dylan Thomas saying that he once used to have a writing shed and she would often hear him reading his poems out aloud.

So Dylan Thomas was a real bloke I thought, not an elitist, he had love and passion, that’s why he wrote Do Not Go Gentle Into That Good Night and he was a performance poet. He wrote with the voice in mind. He is no dead, white, male poet. He lives. I have proof. He turned me on.

Welsh-language version

A all Dylan Thomas wneud i farddoniaeth yr hyn a wnaeth The Choir i gerddoriaeth? Gall, yn ôl y Bardd Dub, Benjamin Zephaniah. Ac yntau wedi’i wahardd o’r ysgol ac wedi treulio cyfnod mewn borstal, doedd barddoniaeth yn golygu dim iddo nes iddo ddarllen Do Not Go Gentle Into That Good Night gan Dylan. Heddiw mae eisiau dangos i eraill sut y gall barddoniaeth drawsnewid eich bywyd.

• BBC One Wales, Ebrill

Benjamin Zephaniah, Awdur a Bardd Dub:

Roeddwn wedi meddwl am y teitl cyn ysgrifennu gair o’r darn hwn. Beth amser yn ôl roedd Dylan Thomas i fi yn un o’r beirdd gwrywaidd, marw, gwyn yr oedd oedolion wedi ceisio ein gorfodi i’w hoffi. Does dim byd o’i le mewn bod yn farw, yn ddyn nac yn wyn. Ond, pan ydych yn blentyn du ifanc a dig, sy’n chwilio am gyfiawnder, ac yn ceisio dod o hyd i gelfyddyd a fydd yn mynegi’ch poen a’r brwydrau yn eich bywyd, rydych yn mynd yn fwy dig byth pan fydd rhywun yn dweud wrthych am fynd i ddarllen cerdd am gennin Pedr. Does gen i ddim yn erbyn cennin Pedr. Mae rhai o’m ffrindiau gorau yn gennin Pedr. Ond roedd hyn yn ymwneud â blaenoriaethau. Aeth fy nghyfoedion a finnau ati i greu barddoniaeth Dub, math modern o farddoniaeth perfformio, ac roeddem yn hapus i beidio â chael ein cysylltu â’r dynion marw hynny.

Ond wedyn, fe ddigwyddodd dau beth i fi. Darllenodd ffrind y gerdd Do Not Go Gentle Into That Good Night i fi, a rhoi cefndir y gerdd. Wedyn, clywais berthynas i Dylan Thomas yn dweud yr arferai fod â sied ysgrifennu ac y byddai’n ei glywed yn aml yn darllen ei farddoniaeth yn uchel.

Felly, meddwn i, roedd Dylan Thomas yn ddyn go iawn, nid yn elitydd, roedd ganddo gariad ac angerdd. Dyna pam yr ysgrifennodd Do Not Go Gentle Into That Good Night ac roedd yn fardd perfformio. Roedd yn ysgrifennu â’r llais mewn golwg. Yn sicr nid yw’n fardd gwrywaidd, gwyn, marw. Mae’n fyw. Mae gen i brawf. Bu’n ysbrydoliaeth i fi.