Dylan Thomas season: A Poet In New York
In a new drama, screenwriter Andrew Davies and director Aisling Walsh capture the life story of Wales’s greatest poet, told through Dylan’s final weeks in New York but with a backward glance to a Cwmdonkin childhood and a turbulent life with his beloved Caitlin. The drama will be shown on BBC One Wales in April and BBC Two in May.

Andrew Davies, writer:
Dylan Thomas was an inspiration to me, growing up in South Wales and dreaming about becoming a writer. I loved the wonderful rich patterns of sound he created, I loved his humour, but most of all I was inspired by the way he conjured a childhood and adolescence very much like my own into something wonderful and extraordinary. So I was thrilled when Griff Rhys Jones and BBC Cymru Wales offered me the chance of writing a film about him.
The original idea was to write about the last week of his life and his tragic early death in New York, but I was determined that our film should celebrate his poetic achievement and show the roots of his inspiration, which stem from his childhood experiences; I also wanted to celebrate his passionate and stormy relationship with his wife Caitlin. I used lots of flashbacks, and a flowing impressionistic style. I’m so happy with the performances and the direction, and the evocative use of beautiful authentic locations. I found the whole experience very moving and I hope you will too.
Aisling Walsh, Director:
There is a book of photographs of Dylan taken in Laugharne during his last summer. These black and white photographs transport us back to that time in 1953. In some of the photographs Dylan is smiling. In others he is thoughtful, standing alone. There are some pictures where he sits with his family. Happy moments. In all of these pictures we see the landscape that influenced so much of Dylan’s later work. St John’s Hill, the estuary, the writing shed, the Boathouse and Fern Hill.
The same photographer took photographs of Dylan rehearsing in New York that autumn with the cast of Under Milk Wood. This is a different Dylan. He looks older. Something in his face tells us he’s struggling. He’s smoking heavily. In these black and white images you get a real sense of Dylan as he must have been. The 39-year-old poet at the height of his fame. You can see how he interacted with people. How he walked. How he smiled. He’s cheeky. Solemn. You can see how he’s dressed. I showed these pictures to lead actor Tom Hollander on our first meeting and we agreed that we would try and get as close to that Dylan as we could.
We both listened to Dylan’s recordings as he read his poetry and short stories and of course the famous first recording of Under Milk Wood. As we met over the weeks before filming Tom slowly started to inhabit the role. He put on weight. Grew his hair. He changed the way he walked. He wanted to transform himself utterly if he could. We had both agreed that the role required that.
Not long before filming started we went to Laugharne together. I wanted Tom to see it. In the small sitting room in the Boathouse with no one else around, Tom quietly closed the door and spoke to me in Dylan for the first time. He wanted me to hear him. I sat and listened, amazed. Later as we walked back towards the village together I dropped behind and watched Tom, heavier now, as he walked reciting Fern Hill aloud. He really had transformed himself into our Dylan Thomas.
Welsh-language version
Mewn drama newydd, mae’r sgriptiwr Andrew Davies a’r cyfarwyddwr Aisling Walsh yn crynhoi hanes bywyd bardd mwyaf Cymru - a’i ddweud drwy wythnosau olaf Dylan yn Efrog Newydd, ond gan fwrw golwg yn ôl ar blentyndod Cwmdoncyn a bywyd helbulus gyda’i annwyl Caitlin.
• BBC One Wales – Ebrill
• BBC Two – Mai
Andrew Davies, Awdur:
Bu Dylan Thomas yn ysbrydoliaeth i fi, pan oeddwn yn tyfu i fyny yn Ne Cymru ac yn breuddwydio am fod yn awdur. Roeddwn wrth fy modd â’r patrymau sain hynod gyfoethog yr oedd yn eu creu. Roeddwn yn gwirioni â’i hiwmor. Ond, yn bennaf, cefais fy ysbrydoli gan y ffordd y trodd blentyndod ac ieuenctid, a oedd yn debyg iawn i’r un a gefais i, yn rhywbeth gwych ac unigryw. Felly, roeddwn wrth fy modd pan gynigiodd Griff Rhys Jones a BBC Cymru Wales y cyfle i fi ysgrifennu ffilm amdano.
Y syniad gwreiddiol oedd ysgrifennu am wythnos olaf ei fywyd a’i farwolaeth drasig o ddisymwth yn Efrog Newydd. Ond, roeddwn yn benderfynol y byddai ein ffilm yn dathlu ei lwyddiant barddonol ac yn dangos gwreiddiau ei ysbrydoliaeth, sy’n deillio o’i brofiadau pan oedd yn blentyn. Roeddwn hefyd eisiau dathlu ei berthynas stormus a nwydus â’i wraig Caitlin. Defnyddiais lawer o ôl-fflachiadau a llif arddull argraffiadol. Rwy’n falch iawn o’r perfformiadau a’r cyfarwyddo, a’r defnydd adleisiol o leoliadau hardd, go iawn. Bu’r profiad yn emosiynol iawn i fi, ac i chithau hefyd gobeithio.
Aisling Walsh, Cyfarwyddwr:
Mae yna lyfr o luniau o Dylan a gafodd eu tynnu yn Nhalacharn yn ystod ei haf olaf. Mae’r lluniau du a gwyn yn ein tywys yn ôl i’r amser hwnnw yn 1953. Mae Dylan yn gwenu yn rhai o’r lluniau. Mewn eraill mae’n synfyfyrio, yn sefyll ar ei ben ei hun. Mae’n eistedd gyda’i deulu yn rhai o’r lluniau. Amseroedd hapus. Yn yr holl luniau hyn, gwelwn y tirwedd a ddylanwadodd ar gymaint o waith diweddarach Dylan. St John’s Hill, yr aber, y sied ysgrifennu, y Boathouse a Fern Hill.
Tynnodd yr un ffotograffydd luniau o Dylan yn ymarfer yn Efrog Newydd yn ystod yr hydref hwnnw gyda chast Under Milk Wood. Dylan gwahanol sydd yma. Mae’n edrych yn hŷn. Mae rhywbeth yn ei wyneb yn dweud wrthym ei fod yn cael amser caled. Mae’n smygu’n drwm. Yn y delweddau du a gwyn hyn cewch wir ymdeimlad o Dylan fel yr oedd, siŵr o fod, yr adeg hynny. Y bardd 39 oed ar frig ei enwogrwydd. Gallwch weld sut yr oedd yn rhyngweithio â phobl. Sut yr oedd yn cerdded. Sut yr oedd yn gwenu. Mae’n ddireidus. Yn ddwys. Gallwch weld sut yr oedd wedi gwisgo. Dangosais y lluniau hyn i’r prif actor Tom Hollander yn ein cyfarfod cyntaf ac fe wnaethom gytuno y byddem yn gwneud ein gorau glas i bortreadu’r Dylan hwnnw.
Bu’r ddau ohonom yn gwrando ar recordiadau Dylan yn darllen ei farddoniaeth a’i straeon byrion ac, wrth gwrs, y recordiad cyntaf enwog o Under Milk Wood. Wrth i ni gwrdd dros yr wythnosau cyn ffilmio, yn araf dechreuodd Tom fyw’r rôl. Magodd bwysau. Tyfodd ei wallt. Newidiodd ei gerddediad. Roedd eisiau gweddnewid ei hun yn llwyr os oedd modd. Roedd y ddau ohonom wedi cytuno bod y rôl yn mynnu hynny.
Ychydig cyn i’r ffilmio gychwyn, aethom gyda’n gilydd i Dalacharn. Roeddwn am i Tom weld y lle. Yn yr ystafell fyw fach yn y Boathouse, a neb arall o gwmpas, caeodd Tom y drws yn ddistaw a siarad â fi yng nghymeriad Dylan am y tro cyntaf. Roedd yn awyddus i fi ei glywed. Eisteddais a gwrando, yn syfrdan. Yn ddiweddarach, wrth i ni gerdded yn ôl gyda’n gilydd i’r pentref, arhosais am ychydig i wylio Tom, ac yntau bellach yn drymach, yn cerdded gan adrodd Fern Hill yn uchel. Yn sicr roedd wedi ei weddnewid ei hun yn Dylan Thomas.