BBC Cymru Wales announces package of support for Wales’ creative sector
BBC Cymru Wales has today announced a special package of support to assist independent production companies in Wales working with the broadcaster during the Coronavirus crisis.

The package - which has been shared with independent companies - includes:
- A new commissioning round launched this week for TV and radio content as well as short-form content for younger audiences
- Additional support for smaller independent companies across the UK nations - as part of an enhanced BBC Small Indie Fund
- A special fund to turbo-charge TV development projects
- A new radio development fund to support new programme ideas
The package aims to help support the sector during the current Coronavirus crisis and complements proposals being announced by BBC network television to support independent producers across the nations and regions.
Acknowledging the sector’s key role in delivering BBC Wales’ content on BBC One and Two Wales, Nick Andrews, BBC Wales’ Head of Commissioning says: “We’re taking a responsible and proactive approach to the situation with the aim of supporting the creative industry during this difficult period. The independent sector provides most of BBC Wales’s programmes, outside of news and current affairs and some of our best-loved and most entertaining programmes, so it’s in all our interests to ensure the industry can continue to thrive once the current crisis is over.”
BBC Radio Cymru’s Editor, Rhuanedd Richards, says: “At this time, the people of Wales are turning to Radio Cymru to provide good entertainment, great company and a reason to be cheerful. With the support of the sector, and thanks to the overwhelming response of our listeners, we are determined to continue to deliver a great service with as much variety in our schedule as possible.”
The Editor of BBC Radio Wales, Colin Paterson, says: “The independent sector has a strong track record of rising to creative challenges - we need that now more than ever. Radio Wales has already adapted the daily schedule, responding to the changing needs of our audiences. Opening up our programmes to new ideas will allow us to go even further, supporting independent producers and lifting the spirits of our audience.”
In a special call with sector partners on Friday, BBC Wales’ commissioning team set out a range of measures being taken by the BBC to support the sector in Wales, including:
- A new BBC Wales commissioning round launched this week looking for TV and radio programmes reflecting life during the current crisis and beyond. Given the seismic change in everyday life in Wales, the broadcaster is looking for content capturing the highs and inevitable lows of life during a pandemic as well as fresh, new ideas to bring us together as a nation or pure escapism
- A doubling of the BBC Small Indie Fund (from £1m to £2m) - managed by BBC Content - to support smaller independent companies across the UK, who are most vulnerable at this time. BBC Wales and BBC network television commissioners will work together to identify suitable companies.
- A one-off BBC Wales fund to turbo-charge TV development projects such as drama and comedy with an eye on future schedules beyond 2020
- A radio development fund to support new programme ideas across Radio Wales and Radio Cymru which can be turned around quickly for broadcast over the next few months.
- New short-form commissioning opportunities for BBC Wales social media platforms aimed at educating and entertaining audiences - particularly those under 45 years of age.
- Increased investment in BBC Wales archive content for BBC iPlayer by acquiring programming from partners in the sector. The aim is to introduce a substantial archive of great Welsh content to iPlayer over the coming weeks and months.
- A commitment by BBC Wales and network television to work closely with production companies on current projects which have been disrupted, to find supportive solutions wherever possible. This will include being flexible around delivery, and varying cash flow as appropriate on a title-by-title basis
BBC Wales has confirmed it is working in partnership with the Welsh Government’s new Creative Wales unit to identify opportunities for collaboration in supporting the wider sector.
While TV commissioning will be rolling process, the radio commissioning round will close on April 21 with ideas commissioned at the beginning of May. Nationwide restrictions on travel and social contacts will be a priority whilst considering the commissioning and delivery of any ideas.
GE
BBC Cymru Wales yn cyhoeddi pecyn cymorth i’r sector creadigol yng Nghymru
Heddiw yn wyneb yr argyfwng Coronafeirws, cyhoeddodd BBC Cymru ei fod yn lansio pecyn arbennig o gymorth i gynorthwyo’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru sy’n gweithio gyda’r darlledwr.
Mae’r pecyn - a gafodd ei ddatgelu i gwmnïau annibynnol - yn cynnwys:
Lansio rownd comisiynu newydd ar gyfer cynnwys ar y teledu a’r radio yn ogystal â chynnwys ffurf fer ar gyfer cynulleidfaoedd iau
Cymorth ychwanegol i gwmnïau annibynnol bach ledled y Deyrnas Unedig - drwy ehangu Cronfa Cwmnïau Annibynnol Bach y BBC
Cronfa arbennig i roi hwb i brosiectau datblygu teledu
Cronfa ddatblygu newydd ar gyfer radio i gefnogi syniadau am raglenni newydd.
Y gobaith yw y bydd y pecyn yn helpu i gefnogi’r sector yn ystod yr argyfwng Coronafeirws presennol. Bydd hefyd yn ategu’r cynigion sy’n cael eu cyhoeddi gan deledu rhwydwaith y BBC i gefnogi cynhyrchwyr annibynnol ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau.
Wrth gydnabod rôl allweddol y sector o ran darparu cynnwys BBC Cymru ar BBC One a Two Wales, dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: “Rydyn ni’n cymryd camau cyfrifol a rhagweithiol wrth ddelio â’r sefyllfa gyda’r bwriad o gefnogi'r diwydiant creadigol dros y cyfnod anodd hwn. Heblaw am newyddion a materion cyfoes, y sector annibynnol sy’n darparu mwyafrif helaeth rhaglenni BBC Cymru, yn cynnwys rhai o’n hoff raglenni a’r rhai mwyaf difyr, felly mae er lles pawb i sicrhau y gall y diwydiant barhau i ffynnu pan fydd yr argyfwng hwn drosodd.”
Dywedodd Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru: “Ar yr adeg hon, mae pobl Cymru yn troi at Radio Cymru i gael eu diddanu, i gael cwmni da ac i godi eu calon. Gyda chefnogaeth y sector, a diolch i ymateb anhygoel ein gwrandawyr, rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu gwasanaeth gwych gyda chymaint o amrywiaeth yn ein hamserlen â phosib.”
Dywedodd Colin Paterson, Golygydd Radio Wales: “Mae gan y sector annibynnol hanes llwyddiannus o oresgyn heriau creadigol - ac mae angen hynny arnon ni nawr yn fwy nag erioed. Mae Radio Wales eisoes wedi addasu ei amserlen ddyddiol mewn ymateb i anghenion gwahanol ein cynulleidfaoedd. Bydd cynnig cyfle i gyflwyno syniadau newydd yn ein galluogi i fynd cam ymhellach, gan gefnogi cynhyrchwyr annibynnol a chodi hwyliau ein cynulleidfa.”
Mewn galwad arbennig ddydd Gwener gyda phartneriaid yn y sector, amlinellodd tîm comisiynu BBC Cymru yr ystod o fesurau sy’n cael eu cymryd gan y BBC i gefnogi’r sector yng Nghymru, yn cynnwys:
- BBC Cymru yn lansio rownd gomisiynu newydd yr wythnos hon i chwilio am raglenni teledu a radio sy’n adlewyrchu bywyd yn ystod yr argyfwng presennol a thu hwnt. Gan fod ein bywyd beunyddiol yng Nghymru wedi newid cymaint, mae’r darlledwr yn chwilio am gynnwys sy’n codi’r llen ar yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau anochel yn ystod pandemig, yn ogystal â chwilio am syniadau newydd i ddod â ni at ein gilydd fel gwlad neu rywbeth i’n helpu i ddianc o rigol bywyd
- Dyblu Cronfa Cwmnïau Annibynnol Bach y BBC (o £1m i £2m) - sy’n cael ei rheoli gan BBC Content - er mwyn helpu cwmnïau annibynnol bach ledled y DU sy’n fregus iawn ar hyn o bryd. Bydd comisiynwyr teledu BBC Cymru a rhwydwaith y BBC yn cydweithio i adnabod cwmnïau addas
- Cronfa arbennig gan BBC Cymru i roi hwb i brosiectau teledu, megis drama a chomedi, gydag un llygad ar amserlenni’r dyfodol y tu hwnt i 2020
- Cronfa ddatblygu radio i gefnogi syniadau newydd am raglenni y gellir eu creu’n gyflym i’w darlledu dros y misoedd nesaf ar Radio Cymru a Radio Wales
- Cyfleoedd comisiynu ffurf fer newydd ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru gyda’r bwriad o addysgu a diddanu cynulleidfaoedd - yn arbennig y rheini o dan 45 oed
- Mwy o fuddsoddiad yng nghynnwys archif BBC Cymru ar BBC iPlayer drwy gael gafael ar raglenni gan bartneriaid yn y sector. Y bwriad yw cyflwyno archif sylweddol o gynnwys gwych o Gymru ar yr iPlayer dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf
- Ymrwymiad gan BBC Cymru a theledu’r rhwydwaith i weithio’n agos â chwmnïau cynhyrchu sy’n gweithio ar brosiectau presennol sydd wedi cael eu tarfu, gan geisio dod o hyd i atebion cefnogol lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Bydd hyn yn cynnwys bod yn hyblyg o ran darparu’r cynhyrchiad gorffenedig, ac amrywio llif arian fel y bo’n briodol o un teitl i’r llall
Mae BBC Cymru wedi cadarnhau ei fod yn gweithio mewn partneriaeth â Cymru Greadigol, yr uned newydd yn Llywodraeth Cymru, i ganfod cyfleoedd ar gyfer cydweithio er mwyn cefnogi’r sector ehangach.
Bydd comisiynu ar gyfer y teledu yn dal i fod yn broses benagored, ond bydd y rownd comisiynu radio yn cau ar Ebrill 21ain gyda’r syniadau’n cael eu comisiynu ddechrau mis Mai. Wrth gwrs, bydd pwyslais o hyd ar y cyfyngiadau ar deithio a chyswllt cymdeithasol wrth ddelio â’r broses gomisiynu a gwireddu syniadau.
GE
