BBC, Channel 4 and S4C join forces to 'turbo-charge' factual TV production training in Wales
BBC Wales, Channel 4 and S4C have announced a new training partnership to support the development and growth of factual television production in Wales.

We want to work together to ensure Wales is well placed to meet the growing demand for high-end factual production.
English language version
The new Factual Fast-track Wales programme - which will be launched by the three broadcasters in Wales later this year - will provide tailored development and training to individuals with real potential to become series producers of the future.
The new scheme was announced at the Creative Cities Convention which is being held in Cardiff this week.
In its first year, the scheme will aim to train and develop six new series producers/show-runners in Wales - individuals with the skills and confidence to help drive factual growth in Wales.
The programme has been designed in consultation with range of leading Welsh independent producers. A bespoke package of training will be tailored to each individual, including production placements, training, mentoring and opportunities to work alongside the broadcasters’ commissioning teams.
Wales already has an enviable reputation in factual production, having produced shows such as Sun, Sea And Brides To Be, Bargain Hunt, The Ganges With Sue Perkins, The 1900 Island, The One Show, Cynefin and Drych - but the broadcasters are keen to accelerate the growth of the sector and ensure Wales has the talent to meet the growing demand for high-end skills.
Nick Andrews, BBC Wales Head of Commissioning, says: “Everybody knows Wales has become a major destination for drama. But all the broadcasters have big plans for factual too - and we want to work together to ensure Wales is well-placed to meet the growing demand for high-end factual production.”
Deborah Dunnett, Channel 4’s Nation and Regions manager, says: “We believe this new collaboration will turbocharge training in the factual sector and will develop the next generation of factual show-runners in Wales. We’re excited by the opportunity to work together because it will give each trainee a unique insight across the broadcast industry.”
Amanda Rees, S4C Director of Content, says: “S4C has had a long-term commitment to factual programming in Wales, bringing award-winning content from, and about, Wales to the screen. We’re delighted to be working with C4 and the BBC to support and develop leading executive producers who’ll continue to raise the factual game here, and pleased to be supporting talent that can work across both Welsh and English content.”
GE
Welsh language version
BBC, Channel 4 ac S4C yn ymuno i roi hwb enfawr i hyfforddiant cynhyrchu teledu ffeithiol yng Nghymru
Mae BBC Cymru, Channel 4 ac S4C wedi cyhoeddi partneriaeth hyfforddi newydd i gefnogi datblygiad a thwf cynhyrchu teledu ffeithiol yng Nghymru.
Bydd y rhaglen newydd, Llwybr Carlam Ffeithiol Cymru, yn cael ei lansio gan y tri darlledwr yng Nghymru yn nes ymlaen eleni. Bydd yn darparu datblygiad a hyfforddiant wedi'u teilwra i unigolion sy'n meddu ar botensial gwirioneddol i fod yn gynhyrchwyr cyfresi yn y dyfodol.
Cafodd y cynllun newydd ei gyhoeddi yn y Confensiwn Dinasoedd Creadigol, sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Yn ei flwyddyn gyntaf, bydd y cynllun yn anelu at hyfforddi a datblygu chwe cynhyrchydd cyfres/rhedwr sioe newydd yng Nghymru – unigolion â'r sgiliau a'r hyder i helpu i sbarduno twf ffeithiol yng Nghymru.
Mae'r rhaglen wedi cael ei dylunio drwy ymgynghori ag amrywiaeth o gynhyrchwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru. Caiff pecyn hyfforddi pwrpasol ei deilwra i bob unigolyn – gan gynnwys lleoliadau cynhyrchu, hyfforddiant, mentora a chyfleoedd i weithio ochr yn ochr â thimau comisiynu'r darlledwyr.
Mae gan Gymru eisoes enw rhagorol ym maes cynhyrchu ffeithiol – gan gynnwys rhaglenni fel Sun, Sea and Brides to Be, Bargain Hunt, The Ganges with Sue Perkins, The 1900 Island, The One Show, Cynefin a Drych – ond mae'r darlledwyr yn awyddus i gyflymu twf y sector a gwneud yn siŵr bod gan Gymru'r doniau i fodloni'r galw cynyddol am sgiliau o'r radd flaenaf.
Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: "Mae pawb yn gwybod bod Cymru yn un o'r prif leoliadau am gynhyrchiadau drama erbyn hyn. Ond mae gan bob darlledwr gynlluniau mawr ar gyfer rhaglenni ffeithiol hefyd – ac rydyn ni am weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod Cymru'n barod i fodloni'r galw cynyddol am gynhyrchu ffeithiol o'r radd flaenaf."
Yn ôl Deborah Dunnett, Rheolwr Cenhedloedd a Rhanbarthau Channel 4: "Rydyn ni'n credu bod y bartneriaeth hon yn mynd i roi hwb enfawr i hyfforddiant yn y sector ffeithiol a datblygu'r genhedlaeth nesaf o redwyr sioeau ffeithiol yng Nghymru. Mae'r cyfle i gydweithio'n destun cyffro, oherwydd bydd yn rhoi cipolwg unigryw ar y diwydiant darlledu cyfan i bob hyfforddai.”
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C: "Mae gan S4C ymrwymiad hirdymor i raglenni ffeithiol yng Nghymru, gan ddangos cynnwys arobryn o Gymru ac am Gymru ar y sgrin. Rydyn ni'n falch dros ben o gael gweithio gyda Channel 4 a'r BBC i gefnogi a datblygu cynhyrchwyr gweithredol blaenllaw a fydd yn parhau i godi'r safonau ffeithiol yma, ac yn falch o gefnogi talent sy'n gallu gweithio ar gynnwys Cymraeg a Saesneg."
GE