BBC Cymru Wales unveils 2019 general election coverage
BBC Wales has unveiled its plans for coverage of the 2019 General Election - including live debates on TV and radio, brand new podcasts and a comprehensive results service on election night.

With so much to discuss in the run-up to polling day, BBC Wales will have all our expert correspondents and presenters on hand to make sense of the unfolding campaign and give voters all the information they need to make their choice.
Highlights include:
- BBC Wales Live will host two primetime election debates on BBC One Wales as they invite voters from across Wales to put their questions to Welsh politicians
- Special editions of S4C’s Pawb a’i Farn and BBC Radio Cymru’s Hawl i Holi will take the political temperature
- BBC Wales will quiz all the main party leaders in Wales across Radio Wales, Radio Cymru, Sunday Politics Wales and BBC News online
- Comprehensive digital coverage on BBC News online and Cymru Fyw
- A new BBC Radio Wales podcast, The Leaders Lounge, will bring together former leaders of the political parties in Wales to discuss the unfolding election campaign
- BBC Wales will provide a full overnight results service across BBC One Wales, S4C, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, BBC News online and BBC Cymru Fyw
As well as the special programming, BBC Wales will be providing comprehensive daily campaign coverage - led by BBC Wales Political Editor Felicity Evans and Welsh Affairs Editor Vaughan Roderick - across BBC One Wales, S4C, Radio Cymru, Radio Wales and the BBC’s mobile and online services.
Garmon Rhys, BBC Wales Head of News, says: “For news, views and analysis on this year’s General Election, BBC Wales will once again be right at the heart of the debate.
“With so much to discuss in the run-up to polling day, BBC Wales will have all our expert correspondents and presenters on hand to make sense of the unfolding campaign and give voters all the information they need to make their choice.”
BBC Wales Live Election Debate
Join the BBC Wales Live team for two live debates as they put the burning questions to a panel of politicians. The first debate takes place in Pembrokeshire on Tuesday 26 November with the second on Tuesday 3 December from North Wales.
Election night coverage on BBC One Wales and Radio Wales
After the polls close, join Bethan Rhys Roberts as the results of the General Election unfold and the political landscape becomes clearer. The programme, also available on BBC Radio Wales, will feature live results, expert views and interviews with the successful and losing candidates.
Election night coverage on S4C and Radio Cymru
Follow the latest news and results on December 12 and into December 13 with Dewi Llwyd as he brings viewers on S4C and listeners to BBC Radio Cymru up to date. Expert guests will provide their views and analysis as the results unfold.
BBC News online
BBC Wales’ online election coverage will offer political news and analysis on desktop, mobile, tablet, the BBC News and BBC Cymru Fyw apps, as well as on social media. The online coverage will include the day’s news as well as explainers and a spotlight on the important issues.
On election night, services will offer multimedia live pages, results, rumours and expert analysis and we will be reflecting the latest developments across Wales on the @WalesPolitics Twitter account.
BBC Wales Today (BBC One Wales) and Newyddion (S4C)
Throughout the election campaign, our daily news programmes will be following the journey to the polls, visiting the main battlegrounds and lifting the lid on some of the day’s political headlines.
BBC Radio Wales’s The Leaders Lounge Podcast
Bringing former leaders of the political parties in Wales together, this weekly podcast presented by former BBC Wales political Editor, Betsan Powys will analyse the week’s events. The panel will include former First Minister and former Leader of Welsh Labour Carwyn Jones AM, former leader of Plaid Cymru Leanne Wood AM, former Welsh Conservatives Leader Andrew RT Davies AM and Lord German former leader of the Welsh Liberal Democrats and former Deputy First Minister, as well as others. The podcast will be available on BBC Sounds.
BBC Radio Wales
BBC Radio Wales’s news programmes will have all the news from the campaign trail from day one. BBC Radio Wales Breakfast will be setting the day’s agenda, analysing the top news stories as they break and interviewing the politicians and Gareth Lewis will be analysing the day’s events on the way home on the Drive programme.
The weekly episode of Sunday Supplement will have comprehensive and in-depth discussion and analysis with Vaughan Roderick, while Jason Mohammad and Dot Davies will give audiences a voice every weekday morning on their phone-in programmes. In addition, listeners will have their chance to put their questions directly to each of the party leaders in Wales.
BBC Radio Cymru
BBC Radio Cymru’s new Specialist Reporter, Garry Owen will be reflecting on the electoral battle, visiting communities across Wales as well as taking the political pulse in Scotland, England and Northern Ireland.
The station’s new lunchtime news programme, Dros Ginio will feature in-depth interviews with key spokespeople from each party while Post Cyntaf and Post Prynhawn will be featuring the day’s main stories and pivotal events, while focussing on different constituencies and their hot topics.
Hawl i Holi will have a special election programme on 26 November.
A new weekly podcast - Llond bol o Bleidleisio - featuring the Radio Cymru news team and a host of special guests will be analysing the major news stories of the week.
Campaign coverage on S4C
Pawb a’i Farn will be live on Monday 2 December on S4C.
NTW
BBC Cymru yn cyhoeddi rhaglenni etholiad cyffredinol 2019
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi’r arlwy o raglenni fydd yn rhoi sylw i Etholiad Cyffredinol 2019 - gan gynnwys rhaglenni trafod byw ar deledu a radio, podlediadiadau newydd a rhaglenni canlyniadau cynhwysfawr ar noson yr etholiad.
Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys:
- Bydd BBC Wales Live yn cynnal dwy drafodaeth etholiadol fyw yn ystod yr oriau brig ar BBC One Wales ac yn gwahodd pleidleiswyr i ofyn cwestiynau i wleidyddion Cymreig
- Bydd rhifynnau arbennig o Pawb a’i Farn ar S4C a Hawl i Holi ar BBC Radio Cymru i drafod y materion hollbwysig
- Bydd BBC Cymru yn rhoi’r cwestiynau pwysig ger bron arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru ar Radio Cymru, Radio Wales, Sunday Politics Wales ac ar-lein
- Sylw digidol cynhwysfawr ar BBC Cymru Fyw a BBC News online
- Bydd podlediad newydd i BBC Radio Wales, The Leaders Lounge yn dod â chyn arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ynghyd i drafod yr ymgyrch etholiadol wrth iddo ddatblygu
- Bydd BBC Cymru yn darparu gwasanaeth canlyniadau llawn ar BBC One Wales, S4C, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, BBC Cymru Fyw a BBC News online
Yn ogystal â’r rhaglenni arbennig, bydd BBC Cymru hefyd yn darparu sylw dyddiol i’r ymgyrchu gwleidyddol - dan law Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick a Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, Felicity Evans - ar BBC One Wales, S4C, Radio Cymru, Radio Wales a gwasanaethau ar-lein a symudol y BBC.
Dywed Garmon Rhys, Pennaeth Newyddion BBC Cymru: “Am y newyddion diweddara’ a dadansoddi treiddgar ar hynt a helynt yr Etholiad Cyffredinol, fe fydd BBC Cymru unwaith eto yng nghanol y trafod.
“Gyda chymaint i’w drafod yn yr wythnosau’n arwain at yr etholiad, bydd ein cyflwynwyr a’n gohebwyr dihafal yma i roi’r holl ddigwyddiadau o dan y chwyddwydr a rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol i’r pleidleiswyr cyn iddynt benderfynu lle i daro eu croes.”
BBC Wales Live Election Debate
Ymunwch â thîm BBC Wales Live ar gyfer dwy ddadl, wrth iddynt daflu cwestiynau at banel o wleidyddion. Cynhelir y ddadl gyntaf yn Sir Benfro nos Fawrth, 26ain o Dachwedd gyda’r ail ar nos Fawrth, 3ydd o Ragfyr o Ogledd Cymru.
Noson yr etholiad ar BBC One Wales a Radio Wales
Gyda’r blychau pleidleisio wedi cau, ymunwch â Bethan Rhys Roberts wrth i ganlyniad yr Etholiad Cyffredinol ddod yn gliriach. Fe fydd y rhaglen, sydd hefyd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales yn cynnwys canlyniadau byw, barn yr arbenigwyr a chyfweliadau gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus.
Noson yr etholiad ar S4C a Radio Cymru
Dilynwch y newyddion a’r canlyniadau diweddara’ dros nos o Ragfyr y 12fed i’r 13eg gyda Dewi Llwyd. Bydd arbenigwyr gwleidyddol yn gwmni iddynt ar S4C a Radio Cymru gan ddadansoddi’r canlyniadau wrth iddynt ddod i law.
Ar-lein
Bydd gwasanaethau ar-lein BBC Cymru yn cynnig sylw cynhwysfawr ar gyfrifiadur, ffôn symudol, tabled ac ap BBC News a BBC Cymru Fyw yn ogystal â’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd y sylw ar-lein yn cynnwys newyddion y dydd yn ogystal â darnau’n egluro a chraffu ar y materion o bwys.
Dros nos, wedi’r etholiad, bydd Cymru Fyw yn cynnig diweddariad byw gan gynnwys y canlyniadau, y sïon diweddara’ a dadansoddiad arbenigol gan adlewyrchu’r digwyddiadau o bob cwr o Gymru.
BBC Wales Today (BBC One Wales) a Newyddion (S4C)
Drwy gydol yr ymgyrch etholiadol, bydd ein rhaglenni newyddion dyddiol yn dilyn y daith i’r blwch pleidleisio, gan ymweld â’r etholaethau allweddol a chraffu ar benawdau gwleidyddol y dydd.
Podlediad BBC Radio Wales; The Leaders Lounge
Daw’r podlediad newydd hwn â rhai o gyn-arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ynghyd, gyda chyn-Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys yn y gadair i drafod digwyddiadau’r wythnos. Ar y panel fydd cyn Brif Weinidog Cymru a chyn Arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones AC, cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC, cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AC a’r Arglwydd German, cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a chyn Ddirprwy Brif Weinidog yn ogystal ag eraill. Bydd y podlediad ar gael ar BBC Sounds.
BBC Radio Wales
Bydd rhaglenni newyddion BBC Radio Wales yn dod â holl newyddion yr ymgyrch i’r gwrandawyr o’r cychwyn cyntaf. Bydd BBC Radio Wales Breakfast yn gosod agenda’r dydd, dadansoddi’r penawdau a chyfweld â’r gwleidyddion a bydd Gareth Lewis yn dadansoddi digwyddiadau’r dydd ar y ffordd adre ar y rhaglen Drive.
Yn wythnosol bydd Sunday Supplement yn cynnwys trafodaeth gynhwysfawr a manwl gyda Vaughan Roderick tra bydd Jason Mohammad a Dot Davies yn rhoi llwyfan i’r gynulleidfa bob bore’r wythnos. Yn ogystal caiff y gwrandawyr gyfle i daflu cwestiynau’n uniongyrchol at arweinwyr y pleidiau yng Nghymru.
BBC Radio Cymru
Daw Gohebydd Arbennig newydd BBC Radio Cymru, Garry Owen â’r newyddion diweddara’ o faes y gad gwleidyddol wrth iddo deithio cymunedau Cymru a thu hwnt gan ymweld â’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Bydd rhaglen newydd amser cinio‘r orsaf, Dros Ginio yn cynnwys cyfweliadau manwl gyda llefarwyr allweddol o bob plaid, gyda’r Post Cyntaf a’r Post Prynhawn yn rhoi llwyfan i brif straeon y dydd a digwyddiadau pwysig, tra’n craffu ar wahanol etholaethau a’u pynciau llosg.
Bydd gan Hawl i Holi raglen etholiadol arbennig ar Dachwedd y 26ain.
Bydd podlediad wythnosol newydd, Llond bol o Bleidleisio gyda chriw ystafell newyddion Radio Cymru a gwesteion arbennig yn dadansoddi straeon mawr yr etholiad.
S4C
Bydd Pawb a’i Farn yn darlledu’n fyw ddydd Llun, 2il o Ragfyr ar S4C.
NTW
