Feeling the January blues? BBC Wales launches Welsh Happiness Day
According to official figures, Wales consistently falls behind the rest of the UK in terms of levels of happiness. So this January, across television, radio and online, BBC Wales hopes to encourage positive change and well-being with a special week of programmes beginning on Welsh Happiness Day.
Published: 15 January 2018

- 23 January will be Welsh Happiness Day across all BBC Wales’s TV, Radio and online services
- Rhod Gilbert fronts new programme about his crippling shyness
- Charlotte Church looks at mental health in science
- Alex Jones and Jason Mohammad Make Wales Happy
Kicking-off the range of programmes, Alex Jones and Jason Mohammad present Make Wales Happy (Tuesday, January 23, BBC One Wales, 8pm). Can you train your brain to be happier? Is there a happiness gene and can exercise really boost your mood? Using a range of experiments, the duo aim to discover the science behind what makes us happy, and establish how we can all become that little bit happier in our lives.
They will be aided and abetted by comedian Mike Bubbins (pictured below), who will scour the country looking for ways to make us happier, and he’ll even attempt a world record live in the studio as he tries to put a smile on the face of the nation.
Other guests include former athlete and presenter Kris Akabusi, and Dr. Bronwyn Tarr a Cognitive and Evolutionary Anthropologist and Experimental Psychologist at the University of Oxford, who will be on hand to help analyse some of the results. Dr. Tarr explains how music and dance could help boost your mood.
Dr. Tarr says: "Taking part in musical activities brings people together, whether it’s singing in a choir, going to a concert or dancing at a wedding. Music can trigger emotions and, especially when we dance, cause us to experience a burst of ‘feel good’ chemicals in the brain. When this happens in the presence of others, the result can be a potent ‘social glue’. In this way, we’re probably not so different from our social ancestors who first started making music. Like early humans, we can’t actually get by just on our own in the modern world - we rely on friendships and our community to keep us happy and help us live a long and healthy life.”
Organisations from across Wales will also be taking part in Welsh Happiness Day, offering opportunities to members of the public to partake in activities including sponsoring a dog for the day with Dogs Trust, taking part in a silent disco for that feel-good factor, visiting the University of South Wales for a free hug, or joining a flash mob choir.
BBC Radio Wales will be getting involved on Welsh Happiness Day with special guests and content throughout the day on Good Morning Wales, Jason Mohammad, Wynne Evans and Eleri Sion. There'll be singing experiments, motivational speakers and Alex Jones will be a special guest on the Jason Mohammad show. Comedian and BBC Radio Wales regular Mike Bubbins will be discovering what happiness means to the people of Wales, and he will be visiting Llandrindod Wells, one of Wales' happiest places to live.
BBC Radio Cymru will help lift your mood with a variety of lively interviews and music, and the online service BBC Cymru Fyw will be asking the people of Wales what makes them happy, as well as various online articles addressing health and well-being.
The series of television programmes continues with Rhod Gilbert: Stand up to Shyness (Wednesday, January 24, BBC One Wales, 9pm). We all know Rhod Gilbert as a larger than life comedian, but there's another Rhod Gilbert hiding not far below the surface. The real Rhod is shy, introverted, and terrified of social occasions. Can he encourage others to overcome their fear using his own version of shyness aversion therapy?
And having lived through her mother's battles with depression, Charlotte Church aims to discover if it's nature or nurture that affects our mental health in Charlotte Church: Inside My Brain (Thursday, January 25, BBC One Wales, 8pm).
Viewers and listeners can join in the conversation by using the hashtag #MakeWalesHappy #WelshHappinessDay
GJ4
Teimlo’r felan yn y Flwyddyn Newydd? BBC Cymru yn lawnsio Dydd Bydd Hapus
- Ionawr 23 bydd Dydd Bydd Hapus ar draws teledu, radio ac ar-lein BBC Cymru
- Rhod Gilbert yn cyflwyno rhaglen newydd am ei swildod
- Charlotte Church yn edrych ar wyddoniaeth iechyd meddwl
- Alex Jones and Jason Mohammad yn cyflwyno Make Wales Happy
Yn ôl ffigurau swyddogol, mae Cymru'n gyson yn syrthio y tu ôl i weddill y DU yn nhermau lefelau hapusrwydd, ond ar draws teledu, radio ac ar-lein mae BBC Cymru yn gobeithio annog newidiadau positif a lles gydag wythnos arbennig o raglenni sy'n dechrau ar Ddydd Bydd Hapus.
Yn cychwyn yr wythnos o raglenni bydd Alex Jones a Jason Mohammad yn Make Wales Happy (Dydd Mawrth, Ionawr 23, BBC One Wales, 8pm). Allwch chi hyfforddi eich ymennydd i fod yn hapusach? A oes genyn hapusrwydd ac a yw ymarfer corff yn rhoi hwb i’ch hwyliau? Trwy ystod o arbrofion, nod y ddau yw darganfod y wyddoniaeth y tu ôl i’r hyn sy’n ein gwneud yn hapus, a sefydlu sut y gallwn i gyd ddod ychydig yn hapusach yn ein bywydau.
Fe’u cynorthwyir gan y comedïwr Mike Bubbins a fydd yn teithio’r wlad i geisio dod o hyd i ffyrdd i’n gwneud yn hapus, a hyd yn oed yn ceisio torri record byd yn ei ymgais i roi gwen ar wyneb y genedl.
Mae gwesteion eraill yn cynnwys y cyn athletwr a’r cyflwynydd Kris Akabusi, a Dr. Bronwyn Tarr Anthropolegydd Gwybyddol ac Esblygiadol a Seicolegydd Arbrofol ym Mhrifysgol Rhydychen, a bydd hi wrth law i helpu esbonio rhai o'r canlyniadau. Esboniai Dr Tarr sut y gall cerddoriaeth a dawns helpu i roi hwb i’ch hwyliau
"Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol yn dod â phobl at ei gilydd, boed yn canu mewn côr, mynd i gyngerdd neu ddawnsio mewn priodas. Gall cerddoriaeth ysgogi emosiynau ac, yn enwedig pan fyddwn yn dawnsio , yn achosi i ni brofi cemegau 'teimlo'n dda' yn yr ymennydd. Pan fydd hyn yn digwydd ym mhresenoldeb pobl eraill, gall y canlyniad fod yn 'lud cymdeithasol' cryf. Yn y modd hwn, mae'n debyg nad ydym mor wahanol i'n cyndeidiau cymdeithasol a ddechreuodd gyfansoddi cerddoriaeth. Fel ein cyndeidiau rydym yn dibynnu ar gyfeillgarwch a'n cymuned i'n cadw'n hapus ac yn ein helpu i fyw bywyd hir ac iach.”
Bydd sefydliadau o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan ar Ddydd Bydd Hapus ac yn cynnig cyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol gan gynnwys noddi ci am y dydd gyda Dogs Trust, cymryd rhan mewn disgo tawel, ymweld â Phrifysgol De Cymru i gael cwtsh am ddim, neu ymuno a fflash-mob.
Bydd BBC Radio Wales yn rhoi sylw i Dydd Bydd Hapus gyda chyfranwyr a chynnwys arbennig trwy gydol y dydd ar Good Morning Wales, Jason Mohammad, Wynne Evans ac Eleri Siôn. Fe fydd arbrofion canu, siaradwyr ysgogol a bydd Alex Jones yn westai arbennig ar sioe Jason Mohammad. Bydd Mike Bubbins, comedïwr a chyfrannwr rheolaidd BBC Radio Wales, allan yn darganfod beth sy’n gwneud pobl yn hapus ac yn ymweld â Llandrindod, sydd yn un o drefi hapusaf Cymru.
Bydd BBC Radio Cymru yn codi’ch hwyliau gydol y dydd gydag amryw o gyfweliadau a cherddoriaeth fywiog, a gwasanaeth ar-lein BBC Cymru Fyw yn gofyn i bobl Cymru beth sy’n eu gwneud yn hapus, ynghyd ag erthyglau amrywiol yn edrych ar les ac iechyd.
Mae'r gyfres o raglenni'n parhau gyda Rhod Gilbert: Stand up to Shyness (Dydd Mercher, Ionawr 24, BBC One Wales, 9pm). Rydyn ni i gyd yn adnabod Rhod Gilbert fel comedïwr llawn bywyd, ond mae Rhod Gilbert arall yn cuddio o dan yr wyneb ac mae'r Rhod yma, y Rhod go iawn, yn swil ac yn ofnus o achlysuron cymdeithasol. Bydd y rhaglen yn dilyn Rhod wrth iddo gynnig ei fersiwn ei hun o therapi swildod i eraill sydd hefyd yn dioddef.
Yn dilyn brwydr ei mam gydag iselder, mae Charlotte Church yn ceisio darganfod ai natur neu feithrin sy’n effeithio ein hiechyd meddwl yn Charlotte Church: Inside My Brain (Dydd Iau, Ionawr 25, BBC One Wales, 8pm).
Gall y gwylwyr a’r grandawyr ymuno yn y sgwrs trwy ddefnyddio'r hashnod #DyddByddHapus
GJ4
