Search is on for Wales' sporting best
The Wales Sport Awards are back and at midday today, nominations open to find the community sport stars of the country.

The awards are an opportunity to honour outstanding achievements in Welsh sport, from volunteers at grassroots level to elite players at the top of their game.
As well as celebrating the very best of elite sport in Wales, the awards are looking for organisations, individuals and sporting experiences that are gripping the nation at a grassroots level.
The categories for nomination are:
- Volunteer of the Year
- Community Coach of the Year
- Inspiring Young Person
- Getting Wales Active (new award)
- Organisation of the Year
- BBC Get Inspired Unsung Hero
The Wales Sport Awards, hosted jointly by Sport Wales and BBC Cymru Wales, is the country’s biggest annual celebration of elite and grassroots sport.
Lawrence Conway, Chair of Sport Wales, says: “Often, a volunteer, a coach or a programme, helps inspire someone to achieve at sport, but also to enjoy it for years to come. These awards offer the country a chance to thank those who help make Wales an active nation. We want the Awards to continue to capture the innovative, thrilling and diverse nature of Welsh sport. To do that, we need you to nominate. Let’s celebrate Welsh sport together.”
Rhodri Talfan Davies, Director, BBC Wales, says: “The awards are an opportunity to honour outstanding achievements in Welsh sport, from volunteers at grassroots level to elite players at the top of their game. As we look back over the year, we celebrate the brilliant success of individuals and groups across the nation and we’re asking people to nominate those who’ve made a real difference.”
Last year’s winner of the Young Inspiring Person category, Hannah Nolan, has fond memories of her award: “Winning felt absolutely surreal, I couldn't believe it” she said. “It was the most amazing feeling in the world and a brilliant experience with so many lovely people around supporting me and congratulating me.”
Nominations for the community awards are now open at walessportawards.co.uk where you can also find more information about the categories.
Nominations close at midday on Friday 5 October.
The Awards will take place at Celtic Manor on Tuesday 4 December.
The ceremony includes the presentation of the prestigious BBC Wales Sports Personality of the Year and Coach of the Year awards.
For more information about the event, please go to walessportawards.co.uk
SM2
Y chwilio ar droed am oreuon byd chwaraeon Cymru
Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn ôl ac am hanner dydd heddiw, mae’r enwebiadau’n agor er mwyn dod o hyd i sêr chwaraeon cymunedol y wlad.
Yn ogystal â dathlu goreuon y byd chwaraeon elitaidd yng Nghymru, mae’r gwobrau’n chwilio am sefydliadau, unigolion a phrofiadau chwaraeon sy’n cydio yn y genedl ar lawr gwlad.
Dyma’r categorïau ar gyfer cyflwyno enwebiadau:
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
- Person Ifanc Ysbrydoledig
- Gwobr Cymru Actif (gwobr newydd)
- Sefydliad y Flwyddyn
- Arwr Tawel y BBC Get Inspired
Gwobrau Chwaraeon Cymru, sy’n cael eu cynnal ar y cyd gan BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru, yw dathliad blynyddol mwyaf y wlad o chwaraeon elitaidd a llawr gwlad.
Dywedodd Lawrence Conway, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: “Yn aml, mae gwirfoddolwr, hyfforddwr neu raglen yn helpu i ysbrydoli rhywun i gyflawni mewn camp, ond hefyd i’w mwynhau am flynyddoedd i ddod. Mae’r Gwobrau hyn yn cynnig cyfle i’r wlad ddiolch i’r rhai sy’n helpu i wneud Cymru’n genedl egnïol. Rydyn ni eisiau i’r Gwobrau ddal ati i grisialu natur arloesol, wefreiddiol ac amrywiol chwaraeon yng Nghymru. I wneud hynny, rydyn ni eisiau i chi enwebu. Ac fe gawn ni ddathlu chwaraeon Cymru gyda’n gilydd.”
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales: “Mae’r gwobrau yn gyfle i dalu teyrnged i lwyddiannau anhygoel Cymru ym myd y campau, o’r gwirfoddolwyr ar lawr gwlad i’r pencampwyr sydd wedi cyrraedd yr uchelfannau. Wrth i ni edrych yn ôl dros y flwyddyn, ry’n ni’n dathlu cyflawniad anhygoel gan unigolion a grwpiau ar draws y genedl ac ry’n ni am i bobl enwebu’r rheiny sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig.”
Mae gan enillydd categori Person Ifanc Ysbrydoledig y llynedd, Hannah Nolan, atgofion melys am ei gwobr: “Roedd ennill yn deimlad cwbl swreal, doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth,” dywedodd. “Dyma’r teimlad mwyaf rhyfeddol yn y byd a phrofiad gwych gyda chymaint o bobl hyfryd o ’nghwmpas i yn fy nghefnogi i a fy llongyfarch.”
Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau cymunedol ar agor nawr ar wefan walessportawards.co.uk a chewch ragor o wybodaeth am y categorïau yma hefyd.
Mae’r enwebiadau’n cau am hanner dydd, dydd Gwener 5 Hydref.
Mae’r seremoni’n cynnwys cyflwyno gwobrau anrhydeddus Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales a Hyfforddwr y Flwyddyn.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i walessportawards.co.uk
SM2
