Follow Wales’ China Cup adventure with BBC Wales and S4C

With Wales taking part in the China Cup in March, fans at home will be able to follow the team with live match coverage and highlights on BBC One Wales and S4C.

Published: 2 February 2018
Wales’ journey to China is an exciting new opportunity and I’m pleased that BBC Wales and S4C will be able to take viewers with us on the adventure.
— Geoff Williams, Head of Sport, BBC Wales

Manager Ryan Giggs will be in charge of his first match as Wales take on China at the Guangxi Sports Center in Nanning, in the semi-final of the competition on Thursday, 22 March. Live match coverage will be broadcast on BBC One Wales, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, and online, with kick off at 11.35am. Extended match highlights will be featured on S4C later on the same day.

Uruguay and the Czech Republic will contest the other semi-final the following day.

The competition reaches its conclusion on Monday, 26 March, with the winners of both semi-finals facing each other in the final, while the two losing semi-finalists will play against each other in the third place play-off.

Wales’ match will be broadcast live on S4C, with English commentary also available through the red button service, with BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru and BBC online services also bringing live coverage. Kick off for the third-place play-off will be at 8.35am, while the final gets underway at 12.35pm. Extended match highlights will be shown later that day on BBC Wales television.

Clips and highlights of the games will also be available on the BBC Wales Sport and BBC Cymru Fyw websites.

BBC Wales will be producing the coverage.

Geoff Williams, Head of Sport at BBC Wales, says: “Wales’ journey to China is an exciting new opportunity and I’m pleased that BBC Wales and S4C will be able to take viewers with us on the adventure. It’s set to be an incredible experience, and as Ryan Giggs leads the national team into a game for the very first time since becoming manager - and through our television, radio and online provision - we’ll make sure that that supporters and audiences don’t miss a minute of the action.”

Sue Butler, S4C's Sports Commissioner, says: "Not everyone will be able to travel to the other side of the world to follow Wales in the China Cup, but we're delighted that we’ll be able to show the games for those at home. The China Cup will be a bit of an adventure for the national team and it's great that we can continue our support as the team enters a new era."

  • Thursday 22 March 11.35am: Semi final between Wales and China broadcast live on BBC One Wales, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru and online, with extended highlights on S4C later the same day.
  • Monday 26 March: Wales’ game will be broadcast live on S4C, with English language commentary available on the red button. Live coverage with also be available on BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru and BBC online services, and highlights will be shown on BBC Wales later the same day.

GE

Dilynwch antur Cymru yng Nghwpan Tsieina gyda S4C a BBC Cymru

Gyda thîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan Tsieina ym mis Mawrth, bydd modd i gefnogwyr adref ddilyn y tîm - diolch i becyn cynhwysfawr o gemau byw a rhaglenni uchafbwyntiau ar S4C a BBC One Wales.

Bydd Ryan Giggs yn arwain Cymru am y tro cyntaf wrth i’r Dreigiau herio Tsieina yn y Guangxi Sports Center yn Nanning, yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth, ddydd Iau, 22 Mawrth.

Bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar BBC One Wales ac ar BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac ar gael hefyd ar-lein, gyda’r gic gyntaf am 11.35yb. Fe fydd uchafbwyntiau estynedig o’r gêm i’w gweld ar S4C yn ddiweddarach ar yr un diwrnod.

Ar y diwrnod canlynol, bydd Uruguay a’r Weriniaeth Tsiec yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn y gêm rownd gynderfynol arall.

Fe fydd Cymru yn chwarae unwaith eto ddydd Llun, 26 Mawrth, wrth i’r gystadleuaeth gyrraedd ei phenllanw.

Bydd enillwyr y ddwy gêm agoriadol yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol, tra bydd y ddau dîm a gollodd yn cystadlu yn y gêm trydydd safle.

Bydd gêm Cymru yn cael ei dangos yn fyw ar S4C ac ar s4c.cymru ac i’w clywed ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac ar ei gwasanaethau ar-lein. Fe fydd cic gyntaf y gêm trydydd safle am 8.35yb, tra bydd cic gyntaf y rownd derfynol am 12.35yh.

Bydd clipiau ac uchafbwyntiau o’r gemau hefyd ar gael ar wefannau BBC Wales Sport a BBC Cymru Fyw.

Tîm cynhyrchu BBC Cymru fydd yn gyfrifol am y rhaglenni.

Dywedodd Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru: “Mae taith Cymru i Tsieina yn gyfle cyffrous newydd ac rwy’n falch fod BBC Cymru ac S4C yn gallu mynd â’r gwylwyr gyda ni ar yr antur. Mae hi’n addo bod yn brofiad arbennig wrth i Ryan Giggs arwain y tîm cenedlaethol am y tro cyntaf fel rheolwr. Trwy ein darpariaeth ar y teledu, radio ac arlein, fe wnawn ni’n siŵr nad yw’r cefnogwyr yn colli munud o’r cyffro.”

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Nid pawb fydd yn medru teithio i ben arall y byd i ddilyn Cymru yng Nghwpan Tsieina, ond rydym yn falch iawn ein bod ni’n gallu dangos y gemau i’r cefnogwyr gartref. Fe fydd hwn yn dipyn o antur i’r tîm cenedlaethol ac mae’n wych ein bod ni’n gallu parhau ein cefnogaeth gyda’r tîm yn cychwyn cyfnod newydd."

Diwedd

  • Dydd Iau Mawrth 22 11:35yb: Rownd cynderfynol rhwng Cymru a Tsieina i’w ddarlledu yn fyw ar BBC One Wales, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac arlein, gyda’r uchafbwyntiau yn cael eu dangos ar S4C yn ddiweddarach yr un diwrnod.
  • Dydd Llun Mawrth 26ain: Bydd gêm Cymru yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael ar y botwm coch. Bydd sylwebaeth hefyd ar gael ar BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac arlein, gyda’r uchafbwyntiau ar BBC Cymru yn ddiweddarach yr un diwrnod.

GE