Rhuanedd Richards is new Editor of BBC Radio Cymru and Cymru Fyw
BBC Cymru Wales has announced that Rhuanedd Richards has been appointed Editor of BBC Radio Cymru and Welsh language online service, Cymru Fyw.
Published: 24 July 2018

I am delighted she is returning to BBC Wales to lead both Radio Cymru and Cymru Fyw. I know Rhuanedd is determined to build on the real successes of both services.
Announcing her appointment, Director of BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies says: “Rhuanedd is an accomplished and trusted leader with a deep understanding of Wales. She also has a real passion for radio and our Welsh language digital service - and I am delighted she is returning to BBC Wales to lead both Radio Cymru and Cymru Fyw. I know Rhuanedd is determined to build on the real successes of both services.”
Rhuanedd started her career as a journalist with BBC Wales before presenting some of the broadcaster’s flagship news and political programmes.
A former Chief Executive of Plaid Cymru, Rhuanedd has also worked as an advisor to the Welsh Government and later as Policy Advisor to the Presiding Officer of the National Assembly for Wales.
Originally from the Cynon Valley, Rhuanedd now lives in Pontypridd with her family. Her appointment follows the current Editor, Betsan Powys’s decision to step down from the role after five years.
Rhuanedd Richards says: “Raised in a non-Welsh speaking home, BBC Radio Cymru was the proof I was looking for that Welsh was a living language. In my teenage years, the station’s music programmes opened my eyes to an exciting, vibrant Welsh culture and when I started my career in journalism in the nineties, it was a real privilege to report and present on Radio Cymru. This opportunity to lead the station is incredibly exciting especially in light of Betsan’s very successful launch of the second service, BBC Radio Cymru 2 earlier this year.
“I’m also excited to be working with the BBC Cymru Fyw team - a service that offers a golden opportunity to reach new Welsh speaking audiences. My priority will be to ensure the best possible services are available in Welsh, reaching as many people as possible.”
Rhuanedd will start her new job in the autumn.
NTW
Penodi Rhuanedd Richards yn Olygydd BBC Radio Cymru a Chymru Fyw
Mae BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi mai Rhuanedd Richards fydd Golygydd newydd BBC Radio Cymru a’r gwasanaeth arlein digidol, Cymru Fyw.
Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Mae Rhuanedd yn arweinydd medrus a llwyddiannus ac mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o Gymru. Mae hi’n angerddol ynglŷn â radio a gwasanaethau digidol Cymraeg - a dwi wrth fy modd ei bod hi’n dychwelyd i BBC Cymru i arwain Radio Cymru a Cymru Fyw. Rwy’n gwybod fod Rhuanedd yn benderfynol o adeiladu ar lwyddiant y ddau wasanaeth.”
Dechreuodd Rhuanedd ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd ymlaen i gyflwyno rhai o raglenni gwleidyddol a newyddion blaenllaw y darlledwr.
Wedi hynny, aeth i ddilyn gyrfa ym Mae Caerdydd. Yn gyn-Brif Weithredwr i Blaid Cymru, bu Rhuanedd hefyd yn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ac yn ddiweddarach yn Ymgynghorydd Polisi i Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn wreiddiol o Gwm Cynon, mae Rhuanedd yn byw ym Mhontypridd gyda’i theulu. Daw’r penodiad yn sgîl cyhoeddiad y Golygydd presennol, Betsan Powys fis diwethaf ei bod yn gadael y swydd wedi pum mlynedd.
Dywed Rhuanedd Richards: “Tra’n cael fy magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, BBC Radio Cymru oedd y dystiolaeth yr oeddwn ei hangen pan yn blentyn fod y Gymraeg yn iaith fyw. Yn fy arddegau, rhaglenni cerddoriaeth yr orsaf agorodd fy llygaid i ddiwylliant Cymraeg cyffrous a hyfyw, ac wrth ddechrau fy ngyrfa newyddiadurol yn y nawdegau, braint oedd gohebu a chyflwyno ar yr orsaf. Mae’r cyfle hwn i arwain y gwasanaeth yn un cyffrous tu hwnt, a hynny’n enwedig yn dilyn llwyddiant Betsan wrth lansio’r ail orsaf, BBC Radio Cymru 2, yn gynharach eleni.
“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda thîm BBC Cymru Fyw - gwasanaeth sy’n cynnig cyfle euraidd i gyrraedd cynulleidfaoedd Cymraeg newydd. Fy mlaenoriaeth felly fydd i sicrhau bod y gwasanaethau gorau posib ar gael drwy’r Gymraeg, a’u bod yn cyrraedd cynifer o bobl ag sy’n bosib.”
Fe fydd Rhuanedd yn cychwyn ar ei swydd yn yr hydref.
NTW
