Music and 'Magnetism' - A celebration of Wales' pioneering female composer

Today, the rights of women and feminist causes are leading the news agenda, but at the turn of the 20th Century, a similar pioneering movement was underway. Set against the rise of the Suffragettes and calls for greater rights for women, young Welsh composer Morfydd Llwyn Owen took the musical world by storm.

Published: 5 July 2018
Nocturne is a confident, clever, spirited and quirky piece of music. I am sure that the Orchestra will relish the opportunity to play this iconic piece and celebrate the talents of this remarkable musician.
— Thomas Søndergård

To celebrate the talent of such a pivotal figure in Welsh music, on 20th July as part of BBC Proms, BBC NOW will commemorate the centenary of Morfydd Owen’s death on 7 September 1918, aged 26, by performing her music at the Royal Albert Hall conducted by Principal Conductor Thomas Søndergård. The chosen work is Nocturne, for which Morfydd was awarded the Charles Lucas Silver Medal at the Royal Academy of Music in 1913. It will be the first time that Nocturne will be included in the BBC Proms programme.

Morfydd Owen’s legacy lives on and has transcended more than just music. She moved to London in 1912 to study composition at the Royal Academy of Music, at a time when it was widely recognised to be very difficult for women to succeed and even more challenging for a provincial woman like Morfydd. However, she rose above the cultural and societal constraints of the time, making it much easier for other women to follow in her footsteps. including acclaimed female Welsh composers such as Grace Williams, who often cited Owen as her inspiration.

Morfydd Owen was the proud product of a country happy to celebrate the important role of women in the creative industries. This Welsh spirit followed her to London, where she was supported and warmly welcomed into the network of Welsh chapels and the wider London Welsh society. She was taken under the wing of Lady Herbert Lewis and David Lloyd George, who created opportunities for her to appear in concerts, and was commissioned to provide compositions by other Liberal M.P.s including Sir J. Herbert Lewis and Sir H. Haydn Jones.

By the time of her early death in 1918, Morfydd Owen, had already completed 250 pieces. Her impact on Welsh music and her influence continues to grow in popularity in Wales and internationally, with overseas performances including a Morfydd Owen Festival in Winnipeg in 1999.

Dr Rhian Davies, Artistic Director of the Gregynog Festival, who completed her PhD about the life and work of Morfydd Owen, said: "I’m delighted that Nocturne is representing Welsh composition at this year’s BBC Proms, commemorating the centenary of Morfydd Owen’s death and marking 101 years since her song For Jeannie’s Sake was performed at a Promenade Concert by Robert Radford and Frederick Kiddle in 1917.

"Morfydd was a trailblazer in every way so it’s really special and appropriate to include her in a Proms season that honours women composers.”

Thomas Søndergård, conductor for BBC NOW and BBC Proms 8, said: “I am delighted to be involved in this special event and am looking forward to performing one of Morfydd Owen’s most distinctive and original pieces of work. Nocturne is a confident, clever, spirited and quirky piece of music. I am sure that the Orchestra will relish the opportunity to play this iconic piece and celebrate the talents of this remarkable musician.”

BBC NOW performs five concerts at the BBC Proms beginning on 20 July, conducted by Thomas Søndergård and taking in music by Lili Boulanger and Welsh composer Morfydd Owen, who died in 1918. On 22 July, the orchestra performs alongside no fewer than five choirs in Mahler’s Symphony No. 8 ’Symphony of a Thousand’ which marks the last performance of Thomas Søndergård as BBC NOW’s Principal Conductor. On 27 July, Martyn Brabbins conducts a centenary celebration of Parry, alongside music by Vaughan Williams and Holst. The orchestra’s final concert at the Royal Albert Hall for the season takes in music by Dame Ethel Smyth, Dvořák and Richard Strauss on 1 August, conducted by Otto Tausk. BBC NOW joins in the annual spectacular Last Night of the Proms celebrations on 8 September with BBC Proms in the Park Wales in Colwyn Bay.

REO

Cerddoriaeth a ‘Chyfaredd’ - Dathlu cyfansoddwraig arloesol Cymru

Y dyddiau hyn mae hawliau menywod ac achosion ffeministaidd ar frig y newyddion, ond ar droad yr 20fed Ganrif, roedd ymgyrch debyg, arloesol ar y gweill. Yn ystod y cyfnod y Swffragetiaid a’r galw am ragor o hawliau i fenywod, enillodd y gyfansoddwraig ifanc o Gymru, Morfydd Llwyn Owen, galon y byd cerddorol.

Er mwyn dathlu doniau ffigur mor bwysig yng ngherddoriaeth Cymru, bydd BBC NOW yn nodi canmlwyddiant marwolaeth Morfydd Owen ar 7 Medi 1918, yn 26 mlwydd oed, drwy berfformio ei cherddoriaeth yn y Royal Albert Hall, o dan arweiniad y Prif Arweinydd Thomas Søndergård ar 20 Gorffennaf fel rhan o ddigwyddiad Proms y BBC. Y darn sydd wedi’i ddewis yw Nocturne. Enillodd Morfydd Fedal Arian Charles Lucas yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn 1913 am y gwaith hwn. Dyma fydd y tro cyntaf i Nocturne gael ei gynnwys yn rhaglen Proms y BBC.

Mae gwaith Morfydd Owen yn parhau hyd heddiw ac mae wedi mynd y tu hwnt i fwy na dim ond cerddoriaeth. Symudodd i Lundain yn 1912 i astudio cyfansoddi yn yr Academi Gerdd Frenhinol, a hynny yn ystod cyfnod lle’r oedd yn cael ei gydnabod yn eang ei bod yn anodd iawn i fenywod lwyddo, a hyd yn oed yn fwy heriol i fenyw o’r wlad fel Morfydd. Ond, llwyddodd i godi uwchlaw cyfyngiadau diwylliannol a chymdeithasol ei hoes, gan ei gwneud yn llawer haws i fenywod eraill ddilyn ei chamau, gan gynnwys cyfansoddwragedd uchel eu parch o Gymru fel Grace Williams, a oedd yn aml yn enwi Owen fel ei hysbrydoliaeth.

Roedd Morfydd Owen yn dod o wlad a oedd yn falch o ddathlu rôl bwysig menywod yn y diwydiannau creadigol. Dilynodd yr ysbryd Cymreig hwn hi i Lundain, lle cafodd gefnogaeth a chroeso cynnes gan y rhwydwaith o gapeli Cymraeg a chymdeithas ehangach Cymry Llundain. Cymerodd y Foneddiges Herbert Lewis a David Lloyd George hi o dan eu hadain, gan greu cyfleoedd iddi ymddangos mewn cyngherddau. Cafodd ei chomisiynu i lunio cyfansoddiadau gan Aelodau Seneddol Rhyddfrydol eraill, gan gynnwys Syr J. Herbert Lewis a Syr H. Haydn Jones.

Roedd Morfydd Owen wedi cwblhau 250 o ddarnau cyn ei marwolaeth gynamserol yn 1918. Mae ei heffaith ar gerddoriaeth yng Nghymru yn ogystal â’i dylanwad yn dal i ddod yn fwyfwy poblogaidd yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gyda pherfformiadau dramor yn cynnwys Gŵyl Morfydd Owen yn Winnipeg yn 1999.

Meddai Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog, a gwblhaodd PhD am fywyd a gwaith Morfydd Owen: “Rwy’n falch iawn fod Nocturne yn cynrychioli cyfansoddiadau o Gymru yn nigwyddiad Proms y BBC eleni, a hynny gan mlynedd ers marwolaeth Morfydd Owen a 101 o flynyddoedd ers i’w chân For Jeannie’s Sake gael ei pherfformio gan Robert Radford a Frederick Kiddle yn 1917.

"Roedd Morfydd yn arloeswraig ym mhob ffordd felly mae’n briodol ac yn arbennig iawn ei bod yn cael ei chynnwys mewn tymor Proms sy’n anrhydeddu cyfansoddwragedd.”

Meddai Thomas Søndergård, arweinydd BBC NOW a BBC Proms 8: “Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad arbennig hwn, ac yn edrych ymlaen at berfformio un o ddarnau mwyaf nodedig a gwreiddiol Morfydd Owen. Mae Nocturne yn ddarn o gerddoriaeth hyderus, clyfar, hynod a llawn ysbryd. Rwy’n siŵr y bydd y Gerddorfa’n mwynhau cael y cyfle i chwarae’r darn eiconig hwn a dathlu doniau’r gerddores arbennig hon.”

Bydd BBC NOW yn perfformio pum cyngerdd yn nigwyddiad Proms y BBC sy’n dechrau ar 20 Gorffennaf, o dan arweiniad Thomas Søndergård. Bydd yn cynnwys cerddoriaeth gan Lili Boulanger a’r gyfansoddwraig o Gymru, Morfydd Owen, a fu farw yn 1918. Bydd y gerddorfa’n perfformio ochr yn ochr â phum côr ar 22 Gorffennaf yn Symffoni Rhif 8 ’Symffoni o Fil’ gan Mahler. Hwn hefyd fydd y tro olaf i Thomas Søndergård berfformio fel Prif Arweinydd BBC NOW. Ar 27 Gorffennaf, bydd Martyn Brabbins yn arwain cyngerdd i ddathlu canmlwyddiant Parry, ochr yn ochr â cherddoriaeth gan Vaughan Williams a Holst. Bydd cyngerdd olaf y gerddorfa yn y Royal Albert Hall am y tymor yn cynnwys cerddoriaeth gan y Fonesig Ethel Smyth, Dvořák a Richard Strauss ar 1 Awst, o dan arweiniad Otto Tausk. Mae BBC NOW yn ymuno yn nathliadau anhygoel Noson Olaf y Proms ar 8 Medi gyda Proms yn y Parc y BBC yng Nghymru ym Mae Colwyn.

REO