BBC Wales Today announces new presenting team
BBC Cymru Wales has announced its new presenting team for its flagship English-language daily news programme Wales Today.
Published: 16 May 2018

Lucy, Jen and Nick have a very important job to do in telling the stories of Wales, asking the questions that need to be asked and reaching out to new audiences from all parts of Wales
From Monday 4 June, Lucy Owen, Jennifer Jones and Nick Servini will present the main programme at 6.30pm, the lunchtime show and late bulletin on BBC One Wales. They will also deliver special reports on a range on topics, including the NHS’s 70th anniversary this summer.
English Language version
Lucy, Jen and Nick will present a full picture of the day’s news, sport and weather in studio and on location, hearing from the people making the news and challenging those in power.
Lucy Owen (pictured right)) has presented Wales Today for more than ten years and also presents BBC Wales’ consumer programme X-Ray. She says: “I’m really excited about the new line-up and about the changes that mean I will get the chance to be out and about a little more, to cover the stories that really matter to our viewers.”
Jen (centre) is a journalist and news presenter for BBC Wales. She’s worked in both Welsh and English presenting Newyddion on S4C and narrating The Crash Detectives on BBC One Wales. Jen has recently presented Wales Today on a regular basis.
Jen says: “Being one of the main presenters on Wales Today is a huge privilege and I’m delighted to be part of such a hard-working and talented team of journalists.”
Nick Servini (left) will be leaving his role as BBC Wales’ Political Editor to present Wales Today after an exceptionally significant and busy time in politics. Nick was previously BBC Wales Business Correspondent and a reporter on BBC Radio Wales’ Good Morning Wales programme.
He says: “After reporting on politics for Wales Today for many years I’m looking forward to taking up the challenge of presenting the programme. I can’t wait to join Lucy, Jen and the rest of the team on BBC One Wales’ flagship nightly news show.”
Delyth Isaac, BBC Wales Today Editor, says: “I am delighted to announce the new line-up of presenters for Wales Today. Lucy, Jen and Nick have a wealth of experience reporting and presenting. They have a very important job to do in telling the stories of Wales, asking the questions that need to be asked and reaching out to new audiences from all parts of Wales.”
GE
Welsh Language version
Tîm cyflwyno newydd ar gyfer BBC Wales Today
Heddiw mae BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi tîm cyflwyno newydd ar gyfer ei brif raglen newyddion ddyddiol yn Saesneg Wales Today. O ddydd Llun, Mehefin 4ydd, ymlaen bydd Lucy Owen, Jennifer Jones a Nick Servini yn cyflwyno’r brif raglen am 6.30pm, y rhaglen amser cinio a’r bwletin hwyr ar BBC One Wales. Byddant hefyd yn cyflwyno adroddiadau arbennig ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys pen-blwydd y GIG yn 70 oed yr haf yma.
Bydd Lucy, Jen a Nick yn cyflwyno darlun llawn o newyddion, chwaraeon a thywydd y dydd yn y stiwdio ac ar leoliad, gan glywed gan y bobl sy’n creu’r newyddion a herio’r rhai mewn grym.
Mae Lucy Owen wedi bod yn cyflwyno BBC Wales Today ers dros ddeng mlynedd ac mae hefyd yn cyflwyno’r rhaglen i ddefnyddwyr ar BBC One Wales, X-Ray.
Dywedodd: “Rydw i wir yn gyffrous am y drefn newydd ac am y newidiadau sy’n golygu y byddaf yn cael cyfle i fynd allan o gwmpas y lle i roi sylw i straeon sy’n cyfrif i’n gwylwyr ni.”
Mae Jen yn newyddiadurwraig a chyflwynydd newyddion gyda BBC Cymru Wales. Mae wedi gweithio yn y Gymraeg ac yn Saesneg gan gyflwyno Newyddion ar S4C a lleisio The Crash Detectives ar BBC One Wales. Mae Jen wedi bod yn cyflwyno Wales Today yn rheolaidd yn ddiweddar.
Dywedodd: “Mae bod yn un o brif gyflwynwyr Wales Today yn fraint enfawr ac rydw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o dîm mor weithgar a thalentog o newyddiadurwyr.”
Bydd Nick Servini yn gadael ei rôl fel Golygydd Gwleidyddol gyda BBC Cymru Wales i gyflwyno Wales Today ar ôl cyfnod eithriadol arwyddocaol a phrysur ym myd gwleidyddiaeth. Arferai Nick fod yn Ohebydd Busnes BBC Wales ac yn ohebydd gyda rhaglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales.
Dywedodd: “Ar ôl gohebu ar wleidyddiaeth i Wales Today am flynyddoedd lawer, rydw i’n edrych ymlaen at wynebu’r her o gyflwyno’r rhaglen. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Lucy, Jen a gweddill y tîm ar gyfer prif raglen newyddion nosweithiol BBC One Wales.”
Dywedodd Golygydd BBC Wales Today, Delyth Isaac: “Mae’n bleser cael cyhoeddi’r tîm newydd o gyflwynwyr ar gyfer Wales Today. Mae gan Lucy, Jen a Nick gyfoeth o brofiad o ohebu a chyflwyno. Mae ganddyn nhw swydd bwysig iawn i’w gwneud, yn adrodd straeon Cymru, yn gofyn y cwestiynau y mae’n rhaid eu gofyn ac yn estyn allan at gynulleidfaoedd newydd o bob cwr o Gymru.”
GE
