BBC National Orchestra of Wales announce 2018 tour to China
BBC National Orchestra of Wales will tour China in December 2018, giving a series of concerts with Principal Guest Conductor Xian Zhang.

To tour China with a foreign orchestra is a great opportunity for the cultural exchange of ideas and experiences
Supported by British Council China, the tour forms part of the Inspiring Women In The Arts campaign, launched on 1 February in China.
Michael Garvey, Director of BBC National Orchestra of Wales, says: “We’re delighted to be touring China with our Principal Guest Conductor Xian Zhang later in 2018. This tour is an exciting addition to BBC National Orchestra of Wales’ international plans and we’re looking forward to returning to China following our successful visit in 2012.”
Xian Zhang, Principal Guest Conductor, says: “I’m very excited to tour China with BBC NOW this year. I have conducted many Chinese orchestras, however to tour China with a foreign orchestra is a great opportunity for the cultural exchange of ideas and experiences.”
Nick Marchand, Director Arts China and North-East Asia, British Council, says: “Today we launch an Inspiring Women In The Arts campaign, a year-long programme to showcase the work of female artists and create new opportunities for leadership training, professional networking and mentorships.
"The campaign hopes to inspire our Chinese audience, sharing stories of the careers leading female artists have forged. In Xian Zhang - the first ever female titled conductor of a BBC orchestra - we have a role model we are delighted to support, as she leads Wales’ much-loved orchestra to China on a three city tour, later in the year. It’s a story we look forward to hearing!”
In September 2016 Xian Zhang assumed the position of Principal Guest Conductor of the BBC National Orchestra & Chorus of Wales. Zhang’s first season with BBC NOW culminated in a televised BBC Proms performance of Beethoven’s Ninth Symphony, anticipating the start of a two-year project devoted to the composer’s complete symphonies. Zhang is also Music Director of the New Jersey Symphony Orchestra, and Conductor Emeritus of Orchestra Sinfonica di Milano Giuseppe Verdi.
The tour will be supported by British Council China, Arts Council Wales and Wales Arts International.
BBC National Orchestra of Wales visit China in December 2018. Further details to be announced in spring 2018. For more information visit bbc.co.uk/bbcnow
JM6
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyhoeddi taith i China yn 2018
Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn teithio i China ym mis Rhagfyr 2018, gan gyflwyno cyfres o gyngherddau gyda'r Prif Arweinydd Gwadd Xian Zhang. Gyda chymorth y Cyngor Prydeinig yn China, bydd y daith yn rhan o ymgyrch Menywod Ysbrydoledig yn y Celfyddydau yn China.
Dywed Michael Garvey, Cyfarwyddwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni'n mynd i deithio i China gyda'n Prif Arweinydd Gwadd Xian Zhang yn ddiweddarach yn 2018. Mae'r daith hon yn ychwanegiad cyffrous at gynlluniau rhyngwladol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i China yn dilyn ein hymweliad llwyddiannus yn 2012.”
Dywedodd Xian Zhang, y Prif Arweinydd Gwadd “Rydw i'n llawn cyffro wrth feddwl am fynd ar daith i China gyda Cherddorfa Gymreig y BBC eleni. Rydw i wedi arwain nifer o gerddorfeydd o China, ond mae teithio i China gyda cherddorfa dramor yn gyfle gwych i gyfnewid syniadau a phrofiadau diwylliannol."
Dywedodd Nick Marchand, Cyfarwyddwr Celfyddydau China a Gogledd Ddwyrain Asia yn y Cyngor Prydeinig, "Heddiw, rydyn ni’n lansio ymgyrch Menywod Ysbrydoledig yn y Celfyddydau, sy'n rhaglen blwyddyn gron i arddangos gwaith artistiaid benyw a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth, rhwydweithio proffesiynol a mentoraethau. Mae'r ymgyrch yn gobeithio ysbrydoli ein cynulleidfa yn China, gan rannu straeon am y gyrfaoedd y mae artistiaid benywaidd blaenllaw wedi eu ffurfio. Yn Xian Zhang - yr arweinydd benyw cyntaf erioed â theitl ar un o gerddorfeydd y BBC - mae gennym fodel rôl rydyn ni’n falch iawn o’i chefnogi - wrth iddi arwain cerddorfa boblogaidd iawn Cymru i China ar daith i dair dinas yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae'n stori rydyn ni'n edrych ymlaen at ei chlywed!”
Ym mis Medi 2016, ymgymerodd Xian Zhang â swydd Prif Arweinydd Gwadd Corws a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Cyrhaeddodd tymor cyntaf Zhang gyda'r Gerddorfa ei benllanw gyda pherfformiad BBC Proms o nawfed Symffoni Beethoven ar y teledu, a oedd yn gam cyntaf prosiect dwy flynedd ar symffonïau cyflawn y cyfansoddwr. Mae Zhang hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Symffoni New Jersey, ac yn Arweinydd Emeritws Cerddorfa Sinfonica di Milano Giuseppe Verdi.
Cefnogir y daith gan y Cyngor Prydeinig yn China, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i ymweld â China ym mis Rhagfyr 2018. Rhagor o fanylion i'w cyhoeddi yn ystod gwanwyn 2018. Am ragor o wybodaeth, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
JM6
