Get Creative Weekend reaches new heights with Wales' largest living art installation at Pen y Fan
The Get Creative Weekend, giving people the chance to do something, make something and get creative, returns for its second year on 7-9 April. Welsh arts, cultural and voluntary organisations, groups and societies are staging events across Wales to celebrate the country’s creativity.

Wales is bursting with culture, arts and creativity, and this weekend will once again give everyone across Wales a chance to try something different
English Language version
Get Creative, a partnership with BBC Wales and Arts Council of Wales, will kick off with Heart of Wales, a mass participation spectacle on one of Wales’ most iconic mountains, on Friday, April 7. Organisers Theatr Brycheiniog have teamed up with award-winning dance and installation artist Phil Williams for a spectacular interactive project, transforming Pen y Fan into Wales’ largest living art installation.
Around 1,000 participants are expected to take part, outlining a map of Wales onto the mountainside. The project will work alongside Brecon Beacons National Park, The National Trust and teams of volunteers from local dance groups, cadets, youth theatres and the general public from across the country.
Phil Williams, choreographer, says: “I’m excited to create Heart of Wales, bringing the communities of Wales together for a mass participation arts event on the side of Pen y Fan. Creating a large scale installation of bodies in motion, we will literally be moving the mountain in what promises to be a spectacular event.”
Volunteers wanting to get involved in the Heart of Wales event can register online or email the organisers - getcreative@brycheiniog.co.uk
Get Creative also offers people the chance to take part in taster sessions at events arranged all over Wales. The centrepiece of last year’s weekend was a 20-foot-tall statue of Dame Shirley Bassey standing on the walls of Caernarfon Castle in the pose of Boadicea, the Celtic warrior queen.
One of the highlights that best summed-up the spirit of last year’s weekend was when 75-year-old Shirley from Cardiff took to the skies with NoFit State Circus.
Luc Morris from the circus recalls: “Shirley only came to tick Hula Hoop off her bucket list, but she ended up taking to the skies on our flying trapeze - an epic circus memory.
“We welcomed over 400 people of all ages and abilities through the doors of our Cardiff workshop, and it was a truly mesmerising experience to see so many people getting involved.”
Rhodri Talfan Davies, Director of BBC Wales says, “Everyone can be creative. Wales is bursting with culture, arts and creativity, and this weekend will once again give everyone across Wales a chance to try something different, to get the creative juices flowing, and to uncover something new.”
Nick Capaldi, Chief Executive of Arts Council of Wales says, "Wales is an incredibly creative country with thousands of people regularly taking part in all kinds of cultural activities. Taking part in the Arts adds to the everyday quality of life and the wellbeing of our nation. This special weekend will provide unique opportunities to celebrate the creativeness and imagination of people in communities across the country and will inspire more people to get creative."
Find out what events, activities and taster sessions are happening in your area at bbc.co.uk/getcreativewales
New activities are being added daily to the map.
You can follow the Get Creative Weekend on social media at #getcreative
Pictured: 20-foot tall statue of Dame Shirley Bassey, standing on the walls of Caernarfon Castle in the pose of Boadicea
Notes to Editors
Pictures are available here
SM
Welsh Language version
PENWYTHNOS CER I GREU YN CYRRAEDD UCHELFANNAU NEWYDD GYDA GOSODIAD CELFYDDYDOL BYW MWYAF CYMRU AR BEN Y FAN
Mae Penwythnos Cer i Greu yn rhoi cyfle i bobl wneud rhywbeth, creu rhywbeth a bod yn greadigol, ac mae’n dychwelyd am yr ail flwyddyn ar 7-9 Ebrill. Bydd mudiadau, grwpiau a chymdeithasau celfyddydol, diwylliannol a gwirfoddol o bob cwr o Gymru yn cynnal digwyddiadau i ddathlu creadigrwydd y wlad.
Mae Cer i Greu yn bartneriaeth gyda BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, a bydd yn cychwyn gyda Calon Cymru, digwyddiad arbennig gyda nifer fawr o bobl yn cymryd rhan ar un o fynyddoedd mwyaf eiconig Cymru, ddydd Gwener, 7 Ebrill. Mae’r trefnwyr, Theatr Brycheiniog wedi ymuno â Phil Williams, yr artist dawns a gosodiadau sydd wedi ennill gwobrau, i greu prosiect rhyngweithiol anhygoel a fydd yn trawsnewid Pen y Fan i fod yn un o osodiadau celfyddydol byw mwyaf Cymru.
Disgwylir y bydd oddeutu 1,000 o bobl yn cymryd rhan, gan amlinellu map o Gymru ar ochr y mynydd. Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a thimau o wirfoddolwyr o grwpiau dawns lleol, cadetiaid, theatrau ieuenctid a'r cyhoedd o bob cwr o'r wlad.
Dywed Phil Williams, y coreograffydd, “Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i greu Calon Cymru, gan ddod â chymunedau Cymru ynghyd mewn digwyddiad celfyddydol torfol ar ochr Pen y Fan. Wrth greu gosodiad mawr o gyrff ar symud, byddwn yn llythrennol yn symud y mynydd gan greu rhywbeth a fydd yn anhygoel, gobeithio.”
Os oes gwirfoddolwyr yn awyddus i fod yn rhan o ddigwyddiad Calon Cymru, gallant gofrestru ar-lein: bit.ly/heartofwales neu anfon e-bost at y trefnwyr yn getcreative@brycheiniog.co.uk
Mae Cer i Greu hefyd yn cynnig cyfle i bobl fod yn rhan o sesiynau blasu mewn digwyddiadau sydd wedi'u trefnu ledled Cymru. Canolbwynt y penwythnos y llynedd oedd cerflun 20 troedfedd o’r Fonesig Shirley Bassey yn sefyll ar waliau Castell Caernarfon mewn ystum Boadicea, y frenhines Geltaidd ryfelgar.
Un o’r uchafbwyntiau a wnaeth grynhoi naws penwythnos y llynedd orau oedd pan welwyd Shirley, menyw 75 oed o Gaerdydd, yn hedfan yn yr awyr gyda Syrcas NoFit State.
Dyma beth mae Luc Morris o’r syrcas yn ei gofio: “Dim ond dod i wneud yr Hwla yn unig wnaeth Shirley ar y cychwyn, ond rhoddodd gynnig ar hedfan yn yr awyr ar ein trapîs siglog - atgof epig yn y syrcas.
“Daeth dros 400 o bobl o bob oed a gallu drwy ddrysau ein gweithdy yng Nghaerdydd, ac roedd yn brofiad gwirioneddol gyfareddol i weld cynifer o bobl yn cymryd rhan.”
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, “Gall pawb fod yn greadigol. Mae Cymru yn llawn diwylliant, celfyddydau a chreadigrwydd, a bydd y penwythnos hwn yn rhoi cyfle unwaith eto i bawb ledled Cymru roi cynnig ar rywbeth gwahanol, i ddeffro’r awen greadigol, ac i ddod o hyd i rywbeth newydd.”
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, “Mae Cymru’n wlad eithriadol o greadigol gyda miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol o bob math yn rheolaidd. Mae cymryd rhan yn y Celfyddydau yn gwella safon byw unigolion a llesiant y genedl. Bydd y penwythnos arbennig hwn yn cynnig cyfleoedd unigryw i ddathlu creadigrwydd a dychymyg pobl mewn cymunedau o bob cwr a bydd yn sbarduno mwy o bobl i fod yn greadigol."
Mae rhagor o wybodaeth am ba ddigwyddiadau, gweithgareddau a sesiynau blasu sydd ar gael yn eich ardal yn bbc.co.uk/cerigreu
Mae gweithgareddau newydd yn cael eu hychwanegu at y map bob dydd.
Gallwch ddilyn Penwythnos Cer i Greu ar y cyfryngau cymdeithasol gyda #CeriGreu
Cyhoeddwyd gan Adran Gyfathrebu BBC Cymru
Nodyn i Olygyddion
Mae lluniau ar gael: https://myshare.box.com/v/CeriGreu
SM
