Couch to Cardiff Half - BBC Wales brings coverage of a record year for the Cardiff Half Marathon

A record 25,000 runners have signed up to this year’s Cardiff Half Marathon and BBC Wales will be there every step of the way on Sunday, October 1, bringing both live coverage and highlights from the day’s events across all platforms, with additional live coverage on BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru and Online.

Published: 26 September 2017

English language version

Jason Mohammad will present the live television coverage as the Cardiff Half Marathon celebrates its 14th year.

Paralympics gold medallist Baroness Tanni Grey-Thompson will be commentating alongside Stuart Storey, who will be undertaking the last commentary of his long career. Welsh athletics star Christian Malcolm and Ultra Marathon runner Lowri Morgan will be reporting from around the course, which once again starts and finishes in the Civic Centre. The live coverage begins at 9.30am on BBC One Wales, while highlights from the day's events, presented by Lowri Morgan, will be shown at 10pm on BBC Two Wales.

The Cardiff University Cardiff Half Marathon, organised by Run 4 Wales, will once again be made up of elite runners, club runners, fun runners and even some hoping to be record breakers. Among the 25,000 are retired Welsh professional rugby player Gareth ‘Alfie’ Thomas and his 100 inexperienced runners, who are aiming to complete the challenge as part of Alfie’s Army.

In addition to the live television programme, BBC Radio Wales will provide additional coverage of the event. At the heart of the action will be Owen Money and Lucy Owen with reporters including Eleri Sion, Wynne Evans and Vicki Blight positioned around the course adding colour to the race coverage. BBC Radio Cymru will also be getting in on the action, with Nia Medi presenting live updates from the marathon as part of the Dewi Llwyd and Richard Rees programmes throughout the morning.

BBC Wales’s Head of Sport Geoff Williams is pleased to have the event return to BBC Wales for another year: “After the success of the last two years of coverage of the Cardiff Half Marathon, we’ve got an exciting day of programming lined up for this year’s event. We’re excited to be showing the Half Marathon live on BBC One Wales, and we’ll be bringing all of the excitement, colour and action from the race across BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru and our digital services. We wish all 25,000 competitors a good run!”

Audiences can join in the conversation around the marathon by using the hashtag #BBCCardiffHalf

GJ4

Welsh language version

O’R SOFFA I’R HANNER MARATHON – BBC CYMRU YN CYFLWYNO HOLL GYFFRO HANNER MARATHON CAERDYDD

Mae 25,000 o redwyr wedi cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd y flwyddyn hon, sef y nifer uchaf erioed i’r ras, a bydd BBC Cymru yno pob cam o’r ffordd dydd Sul, 1 Hydref. Bydd darpariaeth fyw ac uchafbwyntiau o ddigwyddiadau’r diwrnod ar draws pob platfform yn cael ei gyflwyno, gyda darpariaeth fyw ychwanegol ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Ar-lein.

Jason Mohammad fydd yn cyflwyno’r rhaglen deledu wrth i Hanner Marathon Caerdydd ddathlu ei 15fed blwyddyn. Yr enillydd paralympaidd, y Farwnes Tanni Grey-Thompason fydd yn gohebu ynghyd a Stuart Storey, a fydd yn rhoi ei ohebiaeth olaf o’i yrfa lwyddiannus. Christian Malcolm a Lowri Morgan fydd yn cyflwyno ar hyd y cwrs, sydd unwaith eto yn cychwyn a gorffen yn y Ganolfan ddinesig. Bydd y ras yn cael ei ddangos yn fyw ar BBC One Wales o 9.30am, gyda rhaglen uchafbwyntiau wedi ei gyflwyno gan Lowri Morgan yn cael ei ddangos fin nos o 10pm.

Bydd y ras, sydd wedi ei drefnu gan Rhedeg Cymru, unwaith eto yn cynnwys rhedwyr elît, rhedwyr clwb, rhedwyr hwyl a hyd yn oed rhai sy’n gobeithio torri record byd. Ymhlith y rhedwyr hefyd bydd y cyn- chwaraewr rygbi proffesiynol Gareth ‘Alfie’ Thomas gyda’i 100 o redwyr dibrofiad, sy’n gobeithio gorffen y sialens fel rhan o’r rhaglen Alfie’s Army.

Yn ogystal â'r rhaglen deledu fyw, bydd BBC Radio Wales yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar y ras i redwyr elît, a bydd Owen Money a Lucy Owen yn darlledu’n fyw o’r llinell derfyn, gyda gohebwyr wedi eu lleoli o amgylch y cwrs gan gynnwys Eleri Siôn, Wynne Evans a Vicki Blight. Bydd BBC Radio Cymru hefyd yn ei chanol hi gyda Nia Medi yn darlledu'n fyw fel rhan o raglenni Dewi Llwyd a Richard Rees trwy gydol y bore.

Mae Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru, Geoff Williams, yn falch o gael y digwyddiad yn dychwelyd i BBC Cymru am flwyddyn arall, gan ddweud: "Ar ôl llwyddiant y ddwy flynedd diwethaf o ddarlledu Hanner Marathon Caerdydd, mae gennym ddiwrnod cyffrous o raglenni wedi'i pharatoi ar gyfer y digwyddiad eleni. Rydym yn falch o fod yn dangos yr Hanner Marathon yn fyw ar BBC One Wales, a byddwn yn dod â'r holl gyffro, hwyl ac awyrgylch yr achlysur ar draws BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a'n gwasanaethau digidol. Dymunwn bob llwyddiant i’r 25,000 o redwyr! "

Gall cynulleidfaoedd ymuno yn y sgwrs am yr hanner marathon drwy ddefnyddio'r hashnod #BBCCardiffHalf

GJ4