BBC's Welsh series Caniadaeth Y Cysegr, forerunner of Songs Of Praise, celebrates 75 years
The first edition of the Welsh language hymn singing radio series Caniadaeth Y Cysegr was aired across the UK on the BBC Home Service on February 15, 1942.
Published: 30 January 2017

Caniadaeth y Cysegr is a jewel in the crown of Radio Cymru and an important part of the station’s story.
According to the Radio Times 75 years ago the first programme was presented by Idris Lewis, with singers Cantorion Llanelli, conducted by D.H. Lewis. Other radio programmes that day included Marching Songs Of Britain and Sincerely Yours Vera Lynn. The news bulletin at 5pm, Newyddion, was presented in Welsh.
1942 was dominated by the Second World War and it was the year when the BBC launched Desert Island Discs, the Queen registered for War Service and soap rationing was introduced.
Following the success of Caniadaeth Y Cysegr, a hymn singing television series was created by BBC Wales in January 1961- Dechrau Canu Dechrau Canmol. In the same year, the format was then adopted in English by the BBC in London. Caniadaeth Y Cysegr is therefore the grandmother of Songs Of Praise.
The Archbishop of Wales, Dr Barry Morgan says, “It’s good to know that Wales led the way, so far as broadcasting hymn singing is concerned. Caniadaeth Y Cysegr was almost 20 years old before Songs of Praise appeared and the combination of great singing and a deep divinity has had a positive effect on the life of our nation”.
Musician Huw Tregelles Williams, former Head of Music at BBC Wales, produced Caniadaeth Y Cysegr for a period, during his early days at the BBC. He has also presented some the programmes, as well as being an organist.
Huw says, “Caniadaeth Y Cysegr has had a great influence over the years, especially as the series - which was live at the time - gave birth to Songs Of Praise.
“Religious life in Wales has seen a dramatic change over the years, and it’s inspiring that Caniadaeth Y Cysegr’s appeal continues on the radio. This is a tribute to the current producer, who has introduced a number of fresh, new ideas, making sure the tradition is as relevant as ever to today’s Wales.”
Cedric Jones produced the series for a quarter of a century until 2012. During his time, he visited almost 500 chapels in Wales and beyond. In 1997 he was invited to Milwaukke to record the Gymanfa Ganu singing festival.
Cedric says, “It was a real thrill to see the chapels full, and singers in four part harmony enjoying the singing - knowing that the local choir masters had been rehearsing for weeks”.
In one of the recent programmes, the Welsh composer Richard Elfyn Jones compared the experience of congregational singing in Welsh and in English. He says, “I have no doubt that the Welsh heritage excels somewhat, especially in the quality of the hymns, compared to the material from other nations, including in English.”
The singing tradition in Wales has seen a remarkable change since the series started. Ceri Wyn Richards, the current producer says, “I’ve been producing Caniadaeth Y Cysegr for five years and it’s a real privilege. I am concerned, however, that the number of Cymanfa Ganu festivals is on the decrease, and the tradition of singing in SATB has weakened during my relatively short period as a producer. Although there are strongholds which respect the tradition, we’ve all got a duty - if we’re interested in the history of our hymn singing - to ensure the continuity of this important heritage”.
Radio Cymru Editor, Betsan Powys says, “Caniadaeth Y Cysegr is a jewel in the crown of Radio Cymru and an important part of the station’s story. 2017 is a milestone for Welsh language broadcasting as Radio Cymru marks its 40th year and Caniadaeth Y Cysegr celebrates 75. It’s good to know that the series has had such an influence in Wales and beyond.”
Caniadaeth Y Cysegr is broadcast on BBC Radio Cymru on Sunday afternoons at 4.30pm, online at bbc.co.uk/radiocymru and on BBC iPlayer Radio.
SM2
Caniadaeth Y Cysegr, rhagflaenydd Songs Of Praise, yn dathlu 75 mlynedd
Darlledwyd rhaglen gyntaf erioed y gyfres canu emynau Caniadaeth Y Cysegr - ar draws Prydain - ar wasanaeth radio Home Service y BBC ar Chwefror 15, 1942.
Yn ôl y wybodaeth a gyhoeddwyd 75 mlynedd yn ôl yn y Radio Times, cyflwynwyd y rhaglen gyntaf honno gan Idris Lewis, gyda Chantorion Llanelli yn canu dan arweiniad D.H. Lewis. Roedd rhaglenni radio eraill y diwrnod yn cynnwys Marching Songs Of Britain, Sincerely Yours Vera Lynn a’r bwletin Newyddion am 5pm - yn Gymraeg.
Roedd 1942 yng nghysgod yr Ail Ryfel Byd ac yn yr un flwyddyn lansiwyd Desert Island Discs gan y BBC, cofrestrodd y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Rhyfel ac fe gafodd dogni sebon ei gyflwyno.
Yn dilyn poblogrwydd Caniadaeth Y Cysegr, lansiwyd y gyfres deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol gan BBC Cymru yn Ionawr 1961. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach penderfynodd y BBC yn Llundain ddilyn y fformat yn Saesneg. Caniadaeth Y Cysegr, felly, yw mam-gu Songs Of Praise.
Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, “Mae’n dda gwybod fod Cymru ymhell ar y blaen, mor belled ag mae darlledu canu emynau yn y cwestiwn. Roedd Caniadaeth Y Cysegr bron yn ugain mlwydd oed cyn i Songs Of Praise ymddangos ac mae’r cyfuniad o ganu da a diwinyddiaeth ddofn wedi cael effaith dda ar enaid ein cenedl.”
Bu’r cerddor Huw Tregelles Williams, cyn bennaeth cerdd BBC Cymru, yn cynhyrchu Caniadaeth Y Cysegr am gyfnod, yn ystod ei ddyddiau cynnar yn y BBC. Mae hefyd wedi cyflwyno ambell raglen yn ogystal â bod yn organydd.
Dywedodd Huw, “Bu dylanwad Caniadaeth Y Cysegr yn fawr dros y blynyddoedd, yn enwedig gan i lwyddiant y darllediadau cynnar, byw bryd hynny, esgor ar Dechrau Canu Dechrau Canmol a Songs Of Praise.
“Gan fod bywyd crefyddol Cymru wedi newid cymaint dros y blynyddoedd, mae’n rhyfeddod fod apêl Caniadaeth Y Cysegr yn parhau ar y radio; mae hyn yn deyrnged i’r cynhyrchydd presennol sydd, drwy nifer o syniadau newydd, yn diwygio’r traddodiad mewn modd mwy perthnasol i’r Gymru gyfoes.”
Bu Cedric Jones yn cynhyrchu’r gyfres yn ddi-dor am chwarter canrif, tan 2012, gan ymweld â bron i 500 o gapeli yng Nghymru a thu hwnt. Yn 1997 cafodd wahoddiad i Milwaukee i recordio Cymanfa Ganu Gogledd America.
Dywedodd Cedric, a wnaeth recordio dros 1,300 o raglenni, “Pleser y gwaith oedd cael y wefr o weld y capeli yn llawn, a chantorion o bedwar llais yn mwynhau canu’r emynau, gan wybod fod arweinyddion lleol wedi ymarfer am wythnosau cyn dydd y Gymanfa”.
Yn un o raglenni diweddar Caniadaeth Y Cysegr bu’r cyfansoddwr Richard Elfyn Jones yn cymharu’r profiad o ganu cynulleidfaol yn Gymraeg a’r Saesneg. Dywedodd, “Does dim amheuaeth gen i fod ein treftadaeth Gymraeg yn rhagori rhywfaint, yn enwedig yn ansawdd yr emynau, dros gynnyrch cenhedloedd eraill, gan gynnwys y cynnyrch yn Saesneg.”
Mae’r traddodiad canu yng Nghymru wedi newid yn fawr ers dyddiau cynnar y gyfres. Meddai Ceri Wyn Richards, y cynhyrchydd presennol, “Dwi’n cynhyrchu Caniadaeth Y Cysegr ers pum mlynedd ac wrth fy modd yn gwneud. Mae’n bryder gen i, serch hynny, fy mod wedi gweld niferoedd y cymanfaoedd yn lleihau a chanu SATB yn gwanhau yn ystod fy nghyfnod cymharol fyr fel cynhyrchydd. Mae cadarnleoedd o hyd sy’n parchu’r arfer, ond mae’n ddyletswydd arnom ni gyd, sydd â diddordeb yn ein hanes emynyddol i sicrhau parhâd y traddodiad pwysig hwn.
“Credaf mai un ffordd o wneud hyn yw creu archif sain gynhwysfawr, fel bod ein plant a phlant ein plant yn gyfoethocach o wybod beth yw sain, sŵn ac emosiwn canu emynau mewn pedwar llais ar ei orau.”
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, “Mae Caniadaeth Y Cysegr yn un o berlau Radio Cymru ac yn dal i chwarae rhan bwysig yn hanes yr orsaf. Mae 2017 yn garreg filltir yn hanes darlledu Cymraeg wrth i Radio Cymru ddathlu’r deugain a Chaniadaeth Y Cysegr yn dathlu 75 mlynedd. Mae’n braf gwybod bod y gyfres wedi cael cymaint o ddylanwad yng Nghymru a thu hwnt.”
Darlledir Caniadaeth y Cysegr ar BBC Radio Cymru ar brynhawniau Sul am 4.30pm ac ar wefan bbc.co.uk/radiocymru a BBC iPlayer Radio.
SM2
