Bryn Fôn confirmed as new addition to Pobol y Cwm cast
Following a weekend of speculation, the news that Bryn Fôn will be joining the cast of Pobol y Cwm has been confirmed on social media this morning.

Bryn is a very talented and experienced actor, so we were delighted when he accepted the chance to join us.
English Language version
The news was announced when a short video showing the popular actor and singer in the fictional village of Cwmderi was published on Pobol y Cwm’s social media pages.
Bryn, of Dyffryn Nantlle in Gwynedd, will appear on screen for the first time on the BBC’s longest-running TV soap on Monday, April 10 on S4C, as his character, Doctor Elgan Pritchard, is called to an incident at Llwyncelyn.
Looking forward to joining the series, Bryn Fôn says: “I realise how big and important it is, and such a big part Pobol y Cwm plays in lots of people’s lives all over Wales, so it’s very exciting. As someone who’s used to going from one job to the next, usually in the space of a few weeks, the thought of being involved in something for the long term is also a new experience for me.
“That’s part of the excitement, in a way - being part of creating a new character who’s going to bring a new story to Cwmderi, and who’ll bring with him a new dynamic to the village. And hopefully it’ll be exciting for the viewers too.”
Llyr Morus, Pobol y Cwm’s series producer, says: “Finally being able to announce that Bryn Fôn is joining the cast is very exciting for us as a series - after months of keeping it secret it’s a pleasure to be able to speak openly about it at last! Bryn is a very talented and experienced actor, and he’s much-loved all over Wales, so we were delighted when he accepted the chance to join us.
“Doctor Elgan Pritchard is an honest and warm character and is sure to catch the eye of some of the women of Cwmderi… but who he’s eventually drawn to and, once he’s in a relationship, will everything go smoothly - well, that remains to be seen.”
To celebrate the first appearance of one of Wales’ most popular actors and singers on Pobol y Cwm, BBC Radio Cymru will be celebrating Monday, April 10 as Bryn Fôn Day - with a number of opportunities to listen to highlights of a new extended interview with Bryn Fôn in Beti a’i Phobol on the station throughout the day.
More than 25 years since their first interview together, it will be an opportunity for Beti to try and find out more about Bryn’s new character on the soap, as well discussing various other topics for the 'actor, playwright, director, singer, composer and campaigner', as he will be introduced on the programme. The full interview will also be broadcast on Sunday, April 9.
Also during Bryn Fôn Day on Radio Cymru, brand new recordings of four songs from Bryn will be broadcast in a new acoustic session. And Tommo’s afternoon show will include a special 30-minute section dedicated to requests from listeners from Bryn Fôn’s substantial repertoire of hits.
Immediately after the broadcast of Pobol y Cwm at 8pm on Monday on S4C, there will be an exclusive interview with Bryn Fôn live on the BBC Cymru Fyw Facebook page, with Lisa Gwilym passing on selected viewers’ questions directly to him. Highlights of the interview will also be on the Lisa Gwilym evening show on Radio Cymru on Wednesday, April 12.
The news about Bryn Fôn comes hot on the heels of the recent announcement that veteran actor John Ogwen will also be joining Pobol y Cwm from Friday, April 7. The characters aren’t connected, but there’ll be an opportunity to find out more about both of them when the actors are guests on the Heno sofa on S4C on Wednesday, April 5.
MCR
Welsh Language version
Cadarnhau Bod Bryn Fôn yn Ymuno Hefo Pobol y Cwm
Yn dilyn penwythnos o ddyfalu, cafodd y newyddion bod Bryn Fôn yn ymuno hefo Pobol y Cwm ei gadarnhau ar gyfrifon cymdeithasol y gyfres y bore ’ma.
Cyhoeddwyd y newyddion gyda fideo byr yn dangos yr actor a’r canwr poblogaidd yng Nghwmderi.
Bydd Bryn, sy’n hanu o Ddyffryn Nantlle, Gwynedd, i’w weld ar y sgrîn am y tro cyntaf yn opera sebon deledu hynaf y BBC nos Lun, Ebrill 10 ar S4C, wrth i’w gymeriad, Doctor Elgan Pritchard, gael ei alw i ddigwyddiad yn Llwyncelyn.
Wrth edrych ymlaen at ymuno gyda’r gyfres, dywedodd Bryn Fôn: “Dwi’n sylweddoli pa mor fawr ydy o a pha mor bwysig, a chymaint o ran ydy Pobol y Cwm o fywydau pobl ar draws Cymru, felly mae’n gynhyrfus iawn. Fel rhywun sy’n arfer mynd o job i job, fel arfer o fewn wythnosau i’w gilydd, mae meddwl am fod ynghlwm â rhywbeth am gyfnod hir hefyd yn brofiad newydd i mi.
“Mae hynny’n rhan o’r cynnwrf, mewn ffordd - bod yn rhan o greu cymeriad newydd sy’n mynd i ddod â stori newydd i’r Cwm, a dod â rhyw ddeinamig newydd i’r pentre’. A gobeithio y bydd o’n rhywbeth cynhyrfus i’r gwylwyr.”
Dywedodd Llyr Morus, cynhyrchydd cyfres Pobol y Cwm: “Mae cael cyhoeddi o’r diwedd fod Bryn yn ymuno â’r cast yn achlysur cyffrous iawn i ni fel cyfres - yn dilyn misoedd o gadw’r gyfrinach mae’n bleser cael siarad yn agored am y peth o’r diwedd! Mae Bryn yn actor profiadol a dawnus iawn, a’i apêl yn fawr ar draws Cymru, felly roeddem yn hynod falch pan dderbyniodd y cynnig i ymuno.
“Mae Doctor Elgan Pritchard yn ddyn gonest a chynnes ac yn ennyn diddordeb nifer o ferched y Cwm… ond pwy fydd yn mynd â’i fryd, ac aiff pob dim yn esmwyth wrth i berthynas y ddau ddatblygu?”
I ddathlu ymddangosiad cyntaf un o actorion a chantorion mwyaf poblogaidd Cymru ar Pobol y Cwm, bydd dydd Llun, Ebrill 10 yn Ddiwrnod Bryn Fôn ar BBC Radio Cymru - gyda chyfleoedd arbennig drwy’r dydd i glywed pytiau o gyfweliad estynedig newydd rhwng Bryn a Beti George ar Beti a’i Phobol.
Dros chwarter canrif ers i Bryn gael ei holi gan Beti am y tro cyntaf ar y gyfres, bydd yn gyfle iddi geisio cael rhagor o fanylion ganddo am ei gymeriad newydd yng Nghwmderi, yn ogystal â holi’r “actor, dramodydd, cyfarwyddwr, canwr, cyfansoddwr ac ymgyrchydd”, fel y bydd yn cyfeirio ato ar y rhaglen, am lu o bynciau amrywiol eraill. Bydd y cyfweliad yn cael ei ddarlledu’n llawn hefyd ddydd Sul, Ebrill 9.
Hefyd ar Radio Cymru ar Ddiwrnod Bryn Fôn bydd sesiwn acwstig arbennig newydd gan Bryn yn cael ei darlledu am y tro cyntaf, gyda recordiadau newydd sbon o bedair cân. A bydd hanner awr o geisiadau am ganeuon o gatalog sylweddol Bryn Fôn yn cael eu darlledu yn ystod rhaglen Tommo yn y prynhawn.
Yn syth ar ôl darllediad Pobol y Cwm ar S4C am 8pm nos Lun, bydd cyfweliad arbennig hefo Bryn Fôn yn fyw ar gyfrif Facebook BBC Cymru Fyw, gyda Lisa Gwilym yn holi ac yn trosglwyddo rhai o gwestiynau’r gwylwyr yn uniongyrchol i Bryn. Bydd uchafbwyntiau’r cyfweliad hefyd i’w clywed ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos Fercher, Ebrill 12.
Daw’r newyddion am gymeriad newydd Bryn Fôn yn sgil y cyhoeddiad diweddar bod John Ogwen hefyd yn ymuno hefo Pobol y Cwm fel Josh nos Wener, Ebrill 7. Nid oes cysylltiad penodol rhwng y ddau gymeriad, ond bydd cyfle i glywed mwy wrth i’r ddau actor ymddangos ar soffa rhaglen Heno ar S4C nos Fercher, Ebrill 5.
MCR
