BBC Wales announces cutting-edge technology and training package to support new city centre broadcast centre

As building on BBC Wales’ new broadcast centre in Central Square, Cardiff continues apace, the broadcaster has announced it will link-up to one of the city’s major sporting landmarks. It is also launching a groundbreaking trainee scheme for 250 individuals wanting to learn more about working for the BBC.

Published: 7 July 2017
This is a very significant investment by BBC Wales in creating 250 development opportunities, giving those who may not have considered a career with us in the past a real flavour of how we operate and familiarise themselves with the organisation.
— Rhodri Talfan Davies, Director of BBC Wales

BBC Wales’ HQ and the Principality Stadium will be linked by fibre optic underground cables meaning enhanced coverage for audiences as live pictures will be fed back directly to the broadcast centre. The underground cables will also ensure Sport and News teams have instant access to images as they unfold in the stadium.

With only nine months of building remaining before the technical fit-out starts, plans for cutting-edge technology, including a Virtual Reality-enabled studio and Augmented Reality capabilities are now in place. The building in Central Square will also be the first major BBC building to use Live IP Technology, ensuring BBC Wales is flexible and ready for the requirements of the future.

The technical fit-out will begin in April 2018 and is expected to take around 18 months. BBC staff will begin the move to the new building in the autumn of 2019 and it will be fully operational in 2020.

Last week, BBC Wales announced the biggest single investment in content in over 20 years leading to the creation of 40 new jobs at BBC Wales, including 25 additional journalist posts, new specialist correspondents to lead in-depth news coverage, including Brexit and expanded television and online news coverage.

As part of this commitment to strengthen Welsh journalism, BBC Wales has also announced plans to provide new training opportunities to over 250 people over the next two years, including an additional 20 full time, paid trainee and apprenticeship placements with the organisation. The development scheme will focus on attracting people from under-represented communities, putting them through an intensive training programme designed by the BBC Academy, and giving them a great understanding of what BBC Wales can offer them as an employee.

Rhodri Talfan Davies, Director of BBC Wales says: “We’re building careers for the future. The additional places will be available from 2018, which means the skills within the workforce will be even stronger when we relocate to Central Square. Combined with the cutting-edge technology installed on site, this will be a great place to work.

“This is a very significant investment by BBC Wales in creating 250 development opportunities, giving those who may not have considered a career with us in the past a real flavour of how we operate and familiarise themselves with the organisation.”

NTW

Notes to Editors

  • The new BBC Wales broadcast centre will be roughly half the size of the current Llandaff sites and less expensive to operate on a like-for-like basis.
  • The new broadcast centre will be expected to meet the highest BREEAM environmental standard.
  • The introduction of IP will enable BBC Wales to use their facilities at Central Square more flexibly. Unlike SDI, data and signals can flow in every direction, which means different devices dotted around the building will be able to recognise and ‘talk’ to each other. This will mean, for example, an IP-enabled microphone can be controlled by any sound desk anywhere in the building, and any TV gallery could control any IP-enabled camera.
  • BBC Wales moved into its current headquarters in autumn 1966.
  • An independent report - by international creative economy experts BOP Consulting in 2015 - said that Wales will benefit from an economic boost of more than £1 billion over the next decade as a result of BBC Wales’ relocation to Cardiff city centre. The report outlines both the direct and indirect impact of the broadcaster’s HQ move.

BBC Cymru yn cyhoeddi technoleg flaengar a phecyn hyfforddiant i gefnogi canolfan ddarlledu newydd

Wrth i waith adeiladu ar Ganolfan Ddarlledu BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd barhau, mae’r darlledwr wedi cyhoeddi y bydd cyswllt uniongyrchol rhwng y Ganolfan ag un o adeiladau pwysicaf y ddinas. Y mae hefyd yn lansio cynllun hyfforddi sy’n torri tir newydd ar gyfer 250 o unigolion sydd eisiau gwybod mwy am weithio i’r BBC.

Bydd cyswllt ffeibr optig tanddaearol rhwng pencadlys BBC Cymru a Stadiwm y Principality yn golygu y bydd lluniau byw gael eu hanfon yn uniongyrchol i’r ganolfan ddarlledu. Bydd y gwifrau tanddaearol hefyd yn sicrhau fod timoedd Newyddion a Chwaraeon yn cael lluniau’n uniongyrchol wrth i’r ddrama ddatblygu yn y stadiwm.

Gyda phrin naw mis o adeiladu yn weddill cyn i’r gwaith o osod y cyfarpar technoleg gychwyn, mae cynlluniau i’r cyfarpar hwnnw fod ar flaen y gad, gan gynnwys stiwdio gyda gallu rhithwir (virtual reality) a reality estynedig (augmented reality). A’r adeilad yn y Sgwâr Canolog fydd adeilad cyntaf y BBC i ddefnyddio technoleg IP Byw, gan sicrhau fod BBC Cymru yn hyblyg ac yn barod i ymateb i anghenion y dyfodol.

Fe fydd y gwaith o osod y cyfarpar technolegol yn cychwyn ym mis Ebrill 2018 ac mae disgwyl iddo gymryd oddeutu 18 mis i’w gwblhau. Bydd staff y BBC yn dechrau ar y gwaith o symud i’r adeilad newydd yn hydref 2019 gyda’r disgwyl i’r adeilad fod yn gwbl weithredol yn 2020.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd BBC Cymru y buddsoddiad mwyaf ers 20 mlynedd mewn rhaglenni i Gymru gan arwain at greu 40 swydd newydd, gan gynnwys 25 swydd newyddiadurol, gohebwyr arbenigol newydd i sicrhau sylw manwl i straeon mawr gan gynnwys Brexit a mwy o newyddion arlein ac ar deledu.

Fel rhan o’r ymrwymiad yma i gryfhau newyddiaduraeth Gymreig, mae BBC Cymru hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau hyfforddi newydd ar gyfer dros 250 o unigolion dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys 20 prentisiaeth newydd, cyflogedig gyda’r sefydliad. Fe fydd y cynllun datblygu yn canolbwyntio ar ddenu unigolion o gymunedau sy’n cael eu tan-gynrychioli, gyda rhaglen hyfforddi ddwys wedi ei llunio gan BBC Academy ac yn rhoi’r ddealltwriaeth iddynt o’r hyn y gall BBC Cymru ei gynnig iddynt fel cyflogwr.

Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “’Da ni’n adeiladu gyrfaoedd i’r dyfodol. Fe fydd y cyfleoedd ychwanegol ar gael o flwyddyn nesaf sy’n golygu y bydd sgiliau’r gweithlu hyd yn oed yn gryfach wrth i ni adleoli i’r Sgwâr Canolog. Wedi ei gyfuno gyda thechnoleg flaengar, fe fydd yn le apelgar iawn i weithio.

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan BBC Cymru sy’n creu 250 o gyfleoedd hyfforddi, gan roi blas go iawn i’r rheiny sydd efallai heb gysidro gyrfa gyda ni yn y gorffennol gael gweld sut ‘da ni’n gweithio a dod i adnabod y sefydliad.”

NTW

Nodiadau i Olygyddion

  • Fe fydd canolfan ddarlledu newydd BBC Cymru oddeutu hanner maint y safle presennol yn Llandaf ac yn rhatach i’w weithredu o gymharu’r ddau.
  • Mae disgwyl i’r ganolfan ddarlledu newydd gyrraedd safon amgylcheddol BREEAM o’r radd flaenaf.
  • Bydd cyflwyno IP yn sicrhau fod modd i BBC Cymru ddefnyddio’r cyfleusterau yn y Sgwâr Canolog yn fwy hyblyg. Yn wahanol i SDI, mae modd i ddata a signalau dreiddio i bob cyfeiriad, sy’n golygu fod dyfeisiadau gwahanol o amgylch yr adeilad yn gallu adnabod a ‘siarad’ efo’i gilydd. Golyga hyn, er enghraifft fod modd rheoli microffon sydd â gallu IP o unrhyw ddesg sain, unrhyw le yn yr adeilad ac y gall unrhyw galeri teledu reoli unrhyw gamera sydd â gallu IP.
  • Symudodd BBC Cymru i’w bencadlys presennol yn Llandaf yn hydref 1966.
  • Dywed adroddiad anibynnol yn 2015 - gan gwmni o arbenigwyr rhyngwladol ar yr economi greadigol, BOP Consulting - y byddai Cymru ar ei hennill o fwy nag £1biliwn dros y ddegawd nesaf o ganlyniad i adleoliad BBC Cymru i ganol dinas Caerdydd. Mae’r adroddiad yn amlinellu effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol adleoli’r pencadlys.