BBC Cymru Wales announces plans for national television debate series

BBC Wales has confirmed it plans to launch a series of national debate programmes on BBC One Wales from later this year.

Published: 7 April 2017
We expect this new programme to be compelling viewing, reflecting a real diversity of opinion across our country.
— Nick Andrews, Head of Television and iPlayer commissioning, BBC Wales

The new programme is expected to be similar in format to Question Time and Pawb a’i Farn, visiting locations across Wales to enable the public to quiz a wide range of public figures, face to face.

The programme is anticipated to air either each month or to coincide with major political developments. It will also be broadcast on radio and on the BBC News website. It is expected to launch towards the end of this year.

The news follows confirmation that the BBC is to invest an additional £8.5m per annum in programming for Wales.

BBC Wales’ Head of Television and iPlayer commissioning Nick Andrews (pictured), says: “In many ways these are unprecedented times. And it’s vital we support a national conversation at a time of such profound social and political change. We expect this new programme to be compelling viewing, reflecting a real diversity of opinion across our country - and to make a big impact on TV, radio, online and on social media.”

CM5

BBC Cymru Wales yn Cyhoeddi Cynlluniau ar Gyfer Cyfres Ddadl Deledu Genedlaethol

Mae BBC Cymru wedi cadarnhau cynllun i lansio cyfres o raglenni dadl genedlaethol ar BBC One Wales yn ddiweddarach eleni.

Disgwylir i’r rhaglen newydd fod yn debyg i fformat Question Time a Pawb a’i Farn, gan ymweld â lleoliadau ar draws Cymru i alluogi’r cyhoedd i holi amrywiaeth o wynebau cyfarwydd yn y cnawd.

Rhagwelir y bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu bob mis, neu i gyd-fynd â datblygiadau gwleidyddol mawr. Bydd hefyd yn cael ei darlledu ar radio ac ar wefan newyddion y BBC. Bydd yn cael ei lansio tua diwedd y flwyddyn.

Mae’r newyddion yn dilyn cadarnhad bod y BBC yn buddsoddi £8.5m ychwanegol y flwyddyn i raglenni i Gymru.

Dywedodd Pennaeth Comisiynu Teledu ac iPlayer BBC Cymru, Nick Andrews:

“Mae hwn yn gyfnod digyffelyb mewn cymaint o ffyrdd, ac mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi sgwrs genedlaethol ar adeg o newid cymdeithasol a gwleidyddol dwys. Rydym yn disgwyl i’r rhaglen newydd hon fod yn drawiadol - gan adlewyrchu gwir amrywiaeth barn ar draws ein gwlad - ac i greu argraff sylweddol ar deledu, radio, ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.”

CM5