BBC to boost Wales' national radio stations
BBC Cymru Wales has today announced plans for a major expansion in BBC Radio Wales coverage.

These are unprecedented times of change for Wales, and I’m delighted that this major expansion for Radio Wales on FM will ensure listeners in every part of Wales can enjoy access to our wide-ranging news, sport and entertainment programming, as well as our superb team of presenters.
It will extend the station’s availability on the FM band to an estimated 330,000 people, increasing its nationwide FM coverage in Wales from 79% to 91%.
And for the first time in its history, the broadcaster has also confirmed plans to launch a second BBC Radio Cymru schedule in peak-time - BBC Radio Cymru 2 - to provide a choice for Welsh speakers on DAB and the BBC Radio iPlayer.
The boost to BBC Radio Wales’s coverage on FM will particularly benefit listeners in North East Wales and Mid Wales. Using a small number of existing network FM frequencies, currently allocated to BBC Radio 3, the development will bring Radio Wales’s FM coverage in line with other national and network radio stations. Radio 3 will continue to be available to 92% of households in Wales on FM, and the station’s availability on DAB, television and online will be unaffected by the changes.
BBC Radio Wales Editor, Colin Paterson says: "These are unprecedented times of change for Wales, and I’m delighted that this major expansion for Radio Wales on FM will ensure listeners in every part of Wales can enjoy access to our wide-ranging news, sport and entertainment programming, as well as our superb team of presenters.”
BBC Radio Cymru 2 will provide real choice for Welsh speaking listeners as they start their day - and will be available on weekday mornings between 7am and 10am on DAB, BBC iPlayer and digital TV (subject to agreeing contractual arrangements with the relevant DAB operators in the coming months).
While BBC Radio Cymru will continue to offer a full news service in the morning, Radio Cymru 2 will offer a mix of music and entertainment. The news follows a successful trial of an alternative option for Radio Cymru listeners last year - Radio Cymru Mwy.
Betsan Powys, Editor BBC Radio Cymru says: “This is a truly historic announcement - one of the most important since Radio Cymru was established in 1977. Our listeners are some of the most loyal in Wales and the fact that we can now offer a choice of listening is incredibly exciting.”
BBC Wales has already announced plans to expand its English language television programming following new investment totalling £8.5m. This will see an additional 2-3 hours of programming every week across BBC One, BBC Two and BBC iPlayer by 2019.
Further announcements about where how the additional funding will be spent are expected shortly. Both proposals were approved following an assessment by the BBC Board.
NTW
BBC Cymru yn ehangu radio yn Gymraeg ar gyfer oriau brig y bore
- Lansio ail amserlen i BBC Radio Cymru gan gynnig dewis o raglenni i siaradwyr Cymraeg bob bore’r wythnos waith
- Y fenter “hanesyddol” yn dilyn arbrawf llwyddiannus Radio Cymru Mwy y llynedd
- Radio Cymru 2 i gynnig sioe frecwast llawn cerddoriaeth ac adloniant yn Gymraeg o 7 tan 10 bob bore’r wythnos waith ar DAB a BBC iPlayer
Mae BBC Cymru heddiw wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno ail amserlen yn y Gymraeg fydd yn darlledu yn ystod oriau brig y bore. Bydd Radio Cymru 2 ar gael i wrandawyr ar DAB a BBC iPlayer o 07:00 ymlaen, gan ddarparu dewis o wrando i siaradwyr Cymraeg wrth ddeffro’n y bore.
Daw’r cyhoeddiadau yn sgîl buddsoddiad ychwanegol o £8.5m i BBC Cymru, gyhoeddwyd ym mis Chwefror.
Bydd y sioe frecwast newydd ar Radio Cymru 2 yn cynnig adloniant a cherddoriaeth i wrandawyr, tra bydd arlwy newyddion a materion cyfoes Radio Cymru yn parhau. Y llynedd, cafwyd arbrawf ddeuddeg wythnos – Radio Cymru Mwy – a welodd nifer o gyflwynwyr gan gynnwys Caryl Parry Jones, Lisa Angharad a Carl ac Alun yn darparu sioe frecwast fywiog.
Fe ddangosodd yr adolygiad a’r ymchwil ymysg y gynulleidfa - wnaed yn sgîl yr arbrawf - fod galw am raglenni amgen ac yn dilyn buddsoddiad ychwanegol i BBC Cymru, fe fydd Radio Cymru 2 i’w chlywed ar y tonfeddi digidol ar y cyd â’r gwasanaeth cyfredol.
Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru; “Does dim dwywaith fod hwn yn un o’r datblygiadau mwyaf hanesyddol a phwysig yn natblygiad yr orsaf ers ei sefydlu ym 1977. Mae gwrandawyr Radio Cymru gyda’r gwrandawyr radio mwya’ ffyddlon yng Nghymru ac mae gallu cynnig dewis iddyn nhw ac i wrandawyr newydd yn hynod gyffrous.”
Dros y misoedd nesaf, bydd tîm golygyddol Radio Cymru yn mynd ati i ddatblygu’r rhaglen fore gyda’r bwriad o’i lansio cyn diwedd y flwyddyn.
Ar gael drwy Gymru gyfan, bydd modd gwrando ar Radio Cymru 2 drwy’r wefan, ar ap BBC iPlayer Radio ac fel dewis arall ar radio digidol DAB (yn ddibynnol ar gytundeb masnachol gyda’r darparwyr DAB perthnasol dros y misoedd nesaf) a hefyd ar lwyfannau teledu. Bydd amserlen Radio Cymru yn aros fel ag y mae ar FM ac ar DAB.
Mae BBC Cymru hefyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd BBC Radio Wales yn ymestyn ei chyrhaeddiad ar FM i gyrraedd 92% o boblogaeth Cymru. Fe fydd y datblygiad yn sicrhau bod hyd at 330,000 yn fwy o bobl yn gallu gwrando ar yr orsaf a chodi ei chyrhaeddiad ar FM a DAB o 79% to 91%. Mae cyrhaeddiad Radio Cymru eisoes yn 96%.
Mae’r darlledwr eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi mewn rhaglenni teledu yn Saesneg ar gyfer BBC One Wales, BBC Two Wales a BBC iPlayer gan gynyddu’r nifer o oriau o raglenni o Gymru o rhwng dwy a thair awr yr wythnos.
Disgwylir rhagor o gyhoeddiadau ynglŷn â sut y caiff yr arian ychwanegol ei wario yn fuan. Mae’r ddau gynllun wedi eu cymeradwyo gan Fwrdd y BBC.
NTW
