William Smith wins Wales Drama Award 2016

William Smith is the winner of the Wales Drama Award 2016, it was announced at a ceremony held this evening at Yr Hen Lyfrgell in Cardiff. He will receive £10,000 and the opportunity to develop his work with BBC Cymru Wales, BBC Writersroom and National Theatre Wales.

Published: 22 November 2016
William's writing keeps you turning the pages, hooked in by skilled storytelling and great visual images
— Anne Edyvean, BBC Writersroom

English Language Version

Swansea-born William graduated from the University of Wales, Newport, with a degree in Film Studies in 2010. Since graduating he wrote the short film King Of The Castle, which was made as part of the It's My Shout scheme and broadcast on BBC Two Wales in 2011, and Lift Jockeys, a short film produced in 2014. In addition to writing in his spare time, he’s previously worked as a producer and presenter for Radio Cardiff, as well as an office administrator. He now lives in Cardiff.

The three other finalists for this year’s award were Hardey Speight, Jonathan Jones and Bethan Marlow.

The biennial Wales Drama Award for English-language writing is a collaboration between two creative leaders in drama in Wales - BBC Cymru Wales and National Theatre Wales - in close partnership with BBC Writersroom. It is both a celebration of writers in Wales and an open call to Welsh talent, whether emerging or established.

More than 250 writers, either born or based in Wales, submitted their work in July 2016, from which BBC Writersoom along with input from professional television and theatre readers drew up a shortlist of eight. From these eight writers four finalists were selected by a panel of judges, including Julie Gardner MBE, producer and co-founder of Bad Wolf; Kully Thiarai, Artistic Director of National Theatre Wales; Anne Edyvean, Head of BBC Writersoom; and Bethan Jones, Executive Producer for BBC Drama.

Anne Edyvean from BBC Writersroom says: “William's writing keeps you turning the pages, hooked in by skilled storytelling and great visual images. William is drawn to telling stories set in worlds that are in some way different to our own, but familiar enough to resonate with the audience. His settings are often, 'what if?'”

Bethan Jones, Executive Producer for BBC Drama, says: "This award is a way to ensure writers are able to afford to carve out time to write and have support to develop their work. It’s great to be able to support William Smith’s huge potential. But it also draws the industry’s attention to the potential of other voices, the shortlisted winners as well as others who didn’t quite make it through the process.”

Kully Thiarai, Artistic Director of National Theatre Wales, says: "William is a wonderful storyteller who clearly has a passion for, and a commitment to, writing rich and complex characters and narratives. He is undoubtedly a talent to watch. It will be very exciting to see what he goes on to produce, and how his win will inspire other writers in Wales in the future."

Julie Gardner MBE, producer and co-founder of Bad Wolf, says: “William Smith’s RESIDUE is a compelling study of two teens’ battle for survival in a post-apocalyptic world. The landscape is often domestic and recognisable and so the terror and danger are all the more potent. William weaves an often exciting, yet emotional tale. A genre piece with a twist!”

Notes to Editors

  • This year’s Wales Drama Award was launched in May 2016, at a live-streamed event in BBC Cymru Wales Broadcasting House. The panel discussion and Q&A were available on the BBC Writersroom website and YouTube channel.
  • Applicants were asked to submit a full-length script in any medium (min. length 30 minutes), unperformed and unproduced, and in the English language, to BBC Writersroom.
  • The Award Ceremony was held at Yr Hen Lyfrgell, Cardiff at 5.30pm on Tuesday 22 November.

BBC Cymru Wales is a centre of excellence for drama. Home to a range of celebrated productions made both in-house and by the independent sector including War and Peace, Sherlock, Doctor Who, Casualty and Pobol Y Cwm. BBC Cymru Wales drama is a major producer of drama for BBC network across television and radio as well as for BBC Wales and S4C.

National Theatre Wales has been making English-language productions in locations all over Wales, the UK, internationally and online since March 2010. It operates from a small base in Cardiff’s city centre, but works all over the country and beyond, using Wales’ rich and diverse landscape, its towns, cities and villages, its incredible stories and rich talent as its inspiration. The Welsh Government and the Arts Council of Wales are supporting National Theatre Wales.

BBC Writersroom champions new writing talent across the BBC. BBC Writersroom runs schemes targeting talent from a range of sources and works in partnerships with theatres, writers' organisations, screen agencies, and the wider cultural industries. It helps new writers develop their craft through professional training, the website and in open sessions around the country with the UK's best writing talent. 

Issued by BBC Cymru Wales Communications and National Theatre Wales

Catrin Rogers at National Theatre Wales
catrinrogers@nationaltheatrewales.org

NTW

Welsh Language Version

WILLIAM SMITH YN ENNILL GWOBR DRAMA CYMRU 2016

William Smith yw enillydd Gwobr Drama Cymru 2016. Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni a gynhaliwyd heno yn Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd. Bydd yn derbyn £10,000 a'r cyfle i ddatblygu ei waith gyda BBC Cymru, BBC Writersoom a National Theatre Wales.

Graddiodd William, a anwyd yn Abertawe, o Brifysgol Cymru, Casnewydd gyda gradd mewn Astudiaethau Ffilm yn 2010. Ers graddio mae wedi ysgrifennu ffilm fer, King of The Castle, a wnaed fel rhan o'r cynllun It's My Shout ac a ddarlledwyd ar BBC2 Cymru yn 2011, a Lift Jockeys, ffilm fer a gynhyrchwyd yn 2014. Yn ogystal ag ysgrifennu yn ei amser hamdden, mae wedi gweithio fel cynhyrchydd a chyflwynydd ar gyfer Radio Caerdydd, yn ogystal â gweinyddwr swyddfa. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Y tri arall yn y rownd derfynol ar gyfer y wobr eleni oedd Hardey Speight, Jonathan Jones a Bethan Marlow.

Mae Gwobr Drama ddwyflynyddol Cymru, am ysgrifennu yn Saesneg, yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng dau arweinydd creadigol mewn drama yng Nghymru - BBC Cymru a National Theatre Wales - mewn partneriaeth agos â BBC Writersroom. Mae'n agored i unrhyw awdur sy'n byw yng Nghymru, ac yn ddathliad o awduron yng Nghymru ac yn alwad agored am dalent Gymreig, boed yn newydd neu wedi'i sefydlu.

Gwnaeth dros 250 o awduron, wedi’u geni neu yn byw yng Nghymru, gais am y wobr ym mis Gorffennaf 2016, ac aeth BBC Writersroom, gyda darllenwyr teledu a theatr proffesiynol ati i greu rhestr fer o wyth. O’r wyth yna, dewisodd panel o feirniaid, yn cynnwys Julie Gardner MBE, cynhyrchydd a chyd-sylfaenydd Bad Wolf, Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, Anne Edyvean, Pennaeth BBC Writersoom a Bethan Jones, Cynhyrchydd Gweithredol gyda'r BBC, bedwar awdur i fynd i’r rownd derfynol.

Dywedodd Anne Edyvean o BBC Writersroom: “Mae ysgrifennu William yn eich gorfodi i droi’r dudalen, yn eich cydio gyda’i ddawn am rannu stori a chreu delweddau gweledol gwych. Mae gan William ysfa am ddweud straeon sydd wedi’u gosod mewn bydoedd sydd yn dra wahanol i’n un ni, ond sydd yn ddigon cyfarwydd i ganu cloch gyda’r gynulleidfa – yn aml, y sylfaen yw’r cwestiwn ‘Beth petai...?’

Dywedodd Bethan Jones, Cynhyrchydd Gweithredol ar gyfer y BBC: "Mae'r wobr hon yn ffordd i sicrhau y gall awduron fforddio amser i ysgrifennu a chael cymorth i ddatblygu eu gwaith. Mae'n wych i allu cefnogi potensial enfawr William Smith. Ond mae hefyd yn tynnu sylw'r diwydiant at botensial lleisiau eraill, yr enillwyr ar y rhestr fer yn ogystal ag eraill nad oedd wedi llwyddo i ddod drwy'r broses."

Meddai Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales: "Mae William yn storïwr gwych sydd yn amlwg yn angerddol dros ysgrifennu cymeriadau a naratifau cyfoethog a chymhleth, ac yn llawn ymroddiad ar gyfer gwneud hynny. Mae'n sicr yn dalent fydd yn datblygu. Bydd yn gyffrous iawn i weld yr hyn y mae'n mynd ymlaen i'w gynhyrchu, a sut y bydd ei fuddugoliaeth yn ysbrydoli ysgrifenwyr eraill yng Nghymru yn y dyfodol."

Dywedodd Julie Gardner MBE, cynhyrchydd a chyd-sylfaenydd Bad Wolf, “Mae RESIDUE gan William Smith yn astudiaeth dirdynol o frwydr dau berson ifanc i oroesi mewn byd ôl-apocalyptaidd. Mae’r tirwedd yn aml yn ddomestig a chyfforddus, ac felly mae’r ias a’r perygl yn arbennig o gryf. Mae William yn gweu stori sy’n aml yn gyffrous ond eto’n emosiynol. Darn genre gydag elfen annisgwyl!”

Cyhoeddwyd gan Adran Gyfathrebu BBC Cymru a National Theatre Wales

Nodiadau i olygyddion

  • Lansiwyd Gwobr Ddrama Cymru eleni ym mis Mai 2016, mewn digwyddiad gafodd ei ffrydio'n fyw yng Nghanolfan Ddarlledu BBC Cymru. Roedd trafodaeth y panel a sesiwn holi ac ateb ar gael ar wefan a sianel Youtube BBC Writersroom.
  • Gofynnwyd i ymgeiswyr gyflwyno sgript lawn mewn unrhyw gyfrwng (isafswm hyd o 30 munud), heb ei pherfformio na'i chynhyrchu, ac yn Saesneg, i BBC Writersroom.
  • Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd am 5.30pm ddydd Mawrth 22 Tachwedd.

Mae BBC Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer drama. Mae’n gartref i nifer o gynyrchiadau arobryn a wnaed yn fewnol a gan y sector annibynnol gan gynnwys War and Peace, Sherlock, Doctor Who, Casualty a Pobol Y Cwm. Mae drama BBC Cymru yn gynhyrchydd drama pwysig ar gyfer rhwydwaith y BBC ar draws teledu a radio, yn ogystal ag ar gyfer BBC Cymru ac S4C.

Bu National Theatre Wales yn gwneud cynyrchiadau Saesneg mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers mis Mawrth 2010. Mae'n gweithredu o swyddfa fach yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae'n gweithio ar hyd a lled y wlad a thu hwnt, gan ddefnyddio tirwedd gyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi, dinasoedd a phentrefi, ei straeon anhygoel a'i thalent gyfoethog fel ei ysbrydoliaeth. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales. nationaltheatrewales.org

Mae BBC Writersroom yn hyrwyddo talent ysgrifennu newydd ar draws y BBC. Mae ei lwyddiannau diweddar yn cynnwys The Break ar gyfer BBC Three, Boy Meets Girl gan Elliott Kerrigan, a ddaeth o gais wedi'i dargedu am dalent Comedi Traws; In The Flesh gan Dominic Mitchell, a ddaeth o Gynllun Lleisiau'r Gogledd Writersroom; a Wolfblood Debbie Moon, un o enillwyr cystadleuaeth agored CBBC ar gyfer drama newydd wreiddiol. Mae BBC Writersroom yn rhedeg cynlluniau sy'n targedu talent o amrywiaeth o ffynonellau ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â theatrau, sefydliadau awduron, asiantaethau sgrîn, a'r diwydiannau diwylliannol ehangach. Mae'n helpu awduron newydd i ddatblygu eu crefft drwy hyfforddiant proffesiynol, y wefan ac mewn sesiynau agored o amgylch y wlad gyda thalent ysgrifennu orau'r DU. www.bbc.co.uk/writersroom

Catrin Rogers yn National Theatre Wales:
catrinrogers@nationaltheatrewales.org 

NTW