New research reveals audience of 2 million for Wales v Belgium match

New figures reveal that even more people followed Wales at Euro 2016 than was first thought.

Published: 20 July 2016
From TVs in living rooms to smartphones, and from pubs and clubs to huge fanzones, the country came together for the tournament in an unprecedented way.
— Rhodri Talfan Davies, Director, BBC Wales

English language version

Initial ‘overnight’ viewing figures for Wales v Belgium in the quarter-finals suggested that up to 1.27 million people watched the match in Wales - at the time the highest ever reported TV audience in Wales for live sport. But thanks to new research*, BBC Wales can now reveal that the total audience for the match across all broadcast outlets was actually around 2 million, or 70 percent of the total population aged 4+ in Wales.

“Thanks to Wales’ success, it’s clear that Euro 2016 quickly grew into a massive TV phenomenon here,” said Rhodri Talfan Davies, Director of BBC Wales. “From TVs in living rooms to smartphones, and from pubs and clubs to huge fanzones, the country came together for the tournament in an unprecedented way.”

As well as additional viewing via BBC iPlayer, the figure includes adults viewing 'out-of-home' - it’s estimated that almost 10 percent of all adults in Wales (250,000) watched the match in a bar or pub in Wales. Another 2 percent were watching in work or on holiday abroad - and the research suggests that as many as 75,000 adults from Wales went to France for Euro 2016 at some point during the tournament.

While the vast majority of people in Wales were watching the match on TV, 100,000 followed the match elsewhere, with roughly half of them listening to the radio and the other half glued to social media or online.

The research also shows that a significant number of people in Wales - as many as 400,000 - who were watching the match on TV, were also following it in another way at the same time - either on social media (270,000), the radio (65,000) or a website (70,000).

*Results are from a survey commissioned from Beaufort Research based on a representative sample of 610 telephone responses among adults in Wales, 3 to 5 days after the Wales v Belgium Euro 2016 quarter-final match on 1 July.

MCR

Welsh language version

YMCHWIL NEWYDD YN DATGELU BOD CYNULLEIDFA O 2 FILIWN WEDI GWYLIO CYMRU V GWLAD BELG

Mae ffigurau newydd yn dangos bod mwy o bobl nag a feddylwyd yn wreiddiol wedi dilyn Cymru yn Euro 2016.

Roedd y ffigurau gwylio ‘dros nos’ cychwynnol ar gyfer Cymru v Gwlad Belg yn y rownd go-gynderfynol yn awgrymu bod hyd at 1.27 miliwn o bobl wedi gwylio’r gêm yng Nghymru - y gynulleidfa deledu uchaf erioed yng Nghymru ar gyfer chwaraeon byw ar y pryd. Ond diolch i ymchwil newydd*, gall BBC Cymru bellach ddatgelu bod cyfanswm y gynulleidfa ar gyfer y gêm ar draws yr holl ddulliau darlledu tua 2 filiwn mewn gwirionedd, neu 70% o gyfanswm y boblogaeth 4+ oed yng Nghymru.

“Diolch i lwyddiant Cymru, mae’n amlwg bod Euro 2016 wedi tyfu’n gyflym i fod yn ffenomen teledu enfawr yma,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru. “O setiau teledu mewn ystafelloedd byw i ffonau clyfar, ac o dafarndai a chlybiau i ‘ffanbarthau’ enfawr, fe ddaeth y wlad at ei gilydd ar gyfer y bencampwriaeth mewn ffordd na welwyd o’r blaen.”

Yn ogystal â gwylio ychwanegol drwy BBC iPlayer, mae’r ffigwr yn cynnwys oedolion yn gwylio “allan-o’r-cartref” - ac fe amcangyfrifir bod bron i 10% o’r holl oedolion yng Nghymru (250,000) yn gwylio’r gêm mewn bar neu dafarn yng Nghymru. Roedd 2% arall yn gwylio yn y gwaith neu ar wyliau tramor - ac mae’r ymchwil yn awgrymu bod cymaint â 75,000 o oedolion o Gymru wedi mynd i Ffrainc ar gyfer Euro 2016 rhywbryd yn ystod y bencampwriaeth.

Tra bod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru yn gwylio’r gêm ar y teledu, roedd 100,000 yn dilyn y gêm mewn ffordd arall, gyda thua hanner yn gwrando ar y radio a’r hanner arall yn dilyn ar gyfryngau cymdeithasol neu ar-lein.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod nifer sylweddol o bobl yng Nghymru - cymaint â 400,000 - a oedd yn gwylio’r gêm ar y teledu, hefyd yn ei dilyn mewn ffordd arall yr un pryd - naill ai ar gyfryngau cymdeithasol (270,000), ar y radio (65,000) neu wefan (70,000).

*Mae’r canlyniadau o arolwg a gomisiynwyd gan Beaufort Research yn seiliedig ar sampl gynrychioliadol o 610 o ymatebion ffôn ymysg oedolion yng Nghymru, 3 i 5 diwrnod ar ôl gêm go-gynderfynol Cymru v Gwlad Belg yn Euro 2016 ar Orffennaf 1af.

MCR