Reshaped BBC Wales board completed with two latest appointments
BBC Wales has appointed Sian Gwynedd as the new Head of Content Production and Richard Thomas as Head of Digital and Marketing. The appointments complete the broadcaster’s Board of Management.
Published: 12 December 2016

Sian and Richard already have enviable track records of achievement at BBC Wales. Each will continue to bring their strengths and talents to the Board, to help realise BBC Wales’ ambitious plans for the future.
Both are appointments into newly-created roles, as part of BBC Wales’ drive for flatter structures to speed up decision making and boost collaboration.
As Head of Content Production, Sian Gwynedd will drive collaboration and development across the production community as well as taking on a wide portfolio of responsibilities. She will further develop a number of areas including the partnership with S4C, an industry-leading approach to production talent, on-screen diversity and BBC Wales’ network radio output.
As Head of Digital and Marketing, Richard Thomas will lead the development of a range of innovative digital and interactive products for audiences in Wales, the UK and further afield, as well as helping audiences navigate BBC Wales content across TV, radio and online. Working with multi-skilled teams, he will lead the development of integrated campaigns, on-screen creative, digital content production, brand strategy, audience insight, communications and scheduling.
Both Gwynedd and Thomas will also work closely with the project team leading on the new broadcast centre in Cardiff’s Central Square, ensuring the move delivers new, collaborative and engaging ways of working as well as best value for production teams and licence fee payers.
BBC Wales Director, Rhodri Talfan Davies, says: “Sian and Richard already have enviable track records of achievement at BBC Wales. Each will continue to bring their strengths and talents to the Board, to help realise BBC Wales’ ambitious plans for the future.”
Sian Gwynedd says: “These are exciting, challenging times and I’m really looking forward to working right across BBC Wales, as well as strengthening our partnership with S4C. Making sure we reflect contemporary Wales will be central to making sure we remain relevant to our audiences now and in the future.”
Richard Thomas says: “It’s a privilege to take on this new challenge, with a world of opportunity for the new department to explore. We’ll be a critically important production and audience focused department playing a vital role, especially with younger audiences. We’ll also be at the forefront of BBC Wales’ response to the constantly changing media landscape where audience preferences and tastes are changing at such a rapid pace. And to keep up with this change - and move ahead of it - I’m determined that we’ll have an unrelenting focus on innovation and creativity.”
KSD
Bwrdd BBC Cymru ar ei newydd wedd yn gyflawn yn dilyn y ddau benodiad diweddaraf
Mae BBC Cymru wedi penodi Sian Gwynedd yn Bennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru a Richard Thomas yn Bennaeth Marchnata a Digidol. Mae’r penodiadau yn golygu fod Bwrdd Rheoli’r darlledwr yn gyflawn.
Mae’r penodiadau i’r swyddi newydd yma yn rhan o gynllun BBC Cymru i greu strwythur mwy syml fydd yn cyflymu penderfyniadau ac annog cydweithio.
Fel Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys bydd Sian Gwynedd yn gyrru partneriaeth a datblygiad ar draws y gymuned gynhyrchu yn ogystal ag ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau. Bydd Sian yn parhau i adeiladu ar y bartneriaeth gydag S4C, datblygu fframwaith uchelgeisiol ar gyfer datblygiad talent cynhyrchu, sicrhau bod BBC Cymru yn cyrraedd y targedau amrywiaeth ar yr awyr, a chefnogi datblygiad rhaglenni radio rhwydwaith.
Fel Pennaeth Digidol a Marchnata, bydd Richard Thomas yn arwain ar y gwaith o gynorthwyo cynulleidfaoedd i ddod o hyd i gynnwys BBC Cymru ar draws platfformau darlledu, gan gynnwys ymgyrchoedd, deunydd creadigol ar y sgrin, creu cynnwys digidol, strategaeth brand, mewnwelediad cynulleidfaol, cyfathrebu ac amserlennu.
Bydd Sian a Richard hefyd yn gweithio’n agos gyda’r tîm sy’n arwain ar y ganolfan ddarlledu newydd yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd gan sicrhau fod fframwaith mewn lle i hwyluso cydweithio pellach ac i sicrhau gwerth am arian i dimau cynhyrchu a’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded.
Dywed Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Mae Sian a Richard yn barod wedi cyflawni cymaint yn ystod eu hamser yn BBC Cymru. Bydd y ddau yn parhau i ddod a’u cryfderau a’u talentau i’r Bwrdd, gan helpu BBC Cymru i gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.”
Dywed Sian Gwynedd: “Dyma amser cyffrous a heriol tu hwnt ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ar draws BBC Cymru yn ogystal â chryfhau’r bartneriaeth efo S4C. Mae sicrhau ein bod yn cyfleu’r Gymru gyfoes yn ganolog i sicrhau ein bod yn parhau yn berthnasol i’n cynulleidfaoedd, ‘rwan ac i’r dyfodol.”
Dywed Richard Thomas: “Mae’n fraint cael ymgymryd â’r sialens yma, gyda chymaint o gyfleoedd i’r adran newydd eu darganfod. Byddwn yn adran gynhyrchu holl bwysig, gyda ffocws ar y gynulleidfa, yn enwedig cynulleidfaoedd ifanc. Byddwn hefyd yn rhan flaenllaw o ymateb BBC Cymru i’r tirwedd darlledu, sy’n newid yn barhaol wrth i ddewisiadau a chwaeth cynulleidfaoedd newid mor sydyn. Ac er mwyn cadw i fyny efo’r newid – a symud gam o’i flaen – dwi’n benderfynol y byddwn yn sicrhau ffocws ar arloesedd a chreadigrwydd.”
KSD
