Cwmbran coach Vicki Randall is BBC Wales Sport's Unsung Hero 2016
A volunteer netball and football coach from Cwmbran, who has encouraged more than 200 girls to play sport every week, has today been named as BBC Wales Sport’s Unsung Hero for 2016.
Published: 25 November 2016

Vicki has given so much to so many, volunteering all her free time. She has had a massive impact in raising levels of participation in sport for girls and women in South East Wales. Vicki really is an Unsung Hero.
PE teacher Vicki Randall, 29, set up Cwmbran Youth netball club in 2009 with just five girls. It now has 14 teams. Three players have recently been selected for Wales’ under 17 squad. She also organises a weekly ‘netball tots’ club for children aged between one and five.
Vicki also runs Risca Netball Club, managing all five of their teams in the South East Wales League.
She turned to coaching after being forced to give up playing netball and football because of injury. She has had nine operations on her knee and has continued to coach, sometimes on crutches or in a wheelchair.
Vicki also set up Cwmbran Celtic Ladies football team in 2012, guiding them to promotion to the Welsh Premier league two years later. She also started a reserve team to encourage women to take up the sport.
She typically spends four evenings a week coaching sport after work, often more than one session per evening. At weekends, she spends most Saturdays organising netball matches and tournaments, before devoting up to seven hours on a Sunday to her football teams.
Vicki was nominated by Ann Daley from Pontypool whose daughter plays netball with Cwmbran Youth.
Ann Daley says: “Vicki has given so much to so many, volunteering all her free time. She has had a massive impact in raising levels of participation in sport for girls and women in South East Wales. Vicki really is an Unsung Hero.”
Vicki’s achievement will be recognised at the Wales Sport Awards 2016 on Monday 5 December at Hoddinott Hall in Cardiff, where she will share the stage with the night’s other big winners including Coach of the Year, Team of the Year and the prestigious BBC Wales Sports Personality of the Year.
Fans can watch the Wales Sport Awards 2016 live from 7.30pm on Monday 5 December at bbc.co.uk/sportwales and also on BBC iPlayer and the Red Button. The event will also be live on BBC Radio Wales.
The Wales Sport Awards is an event, organised in partnership by BBC Wales and Sport Wales. It aims to recognise the best achievements at elite and community level in Welsh sport.
Notes to Editors
- As the winner of the BBC Wales award, Vicki has now been included on a 15-person shortlist for the UK-wide BBC Get Inspired Unsung Hero award. The other contenders have been chosen by local panels from the BBC’s 12 English Regions, BBC Scotland and BBC Northern Ireland. The overall winner will be announced during the BBC Sports Personality of the Year programme on Sunday, 18 December in Birmingham.
- The BBC Get Inspired Unsung Hero award celebrates people from around the UK who volunteer their time and effort to help people participate in sport.
- There is a continuing need for more unsung heroes in sport in Wales and across the UK. For more inspiration and information about how to get involved, go to bbc.co.uk/getinspired
AC3
Yr hyfforddwraig o Gwmbrân Vicki Randall yw Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru 2016
Mae hyfforddwraig pêl-rwyd a phêl-droed gwirfoddol o Gwmbrân, sydd wedi annog dros 200 o ferched ifanc i chwarae’r gêm bob wythnos, wedi ei henwi heddiw (Dydd Gwener 25 Tachwedd 2016) yn Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru 2016.
Sefydlodd yr athrawes Ymarfer Corff Vicki Randall, 29, glwb pêl-rwyd Ieuenctid Cwmbrân yn 2009, gyda dim ond 5 o enethod. Nawr mae gan y clwb 14 tîm. Mae tair o’r chwaraewyr wedi eu dewis yn ddiweddar ar gyfer sgwad Cymru dan 17 oed. Mae hi hefyd yn trefnu clwb wythnosol ‘netball tots’ ar gyfer plant rhwng 1 a 5 oed.
Mae Vicki hefyd yn rhedeg Clwb Pêl-droed Rhisga, gan reoli pob un o’u timau yng Nghynghrair De Ddwyrain Cymru.
Trodd Vicky at hyfforddi ar ôl cael ei gorfodi i roi heibio chwarae pêl-rwyd a phêl-droed oherwydd anaf. Mae wedi cael naw llawdriniaeth ar ei phen-glin ac wedi parhau i hyfforddi, weithiau ar faglau neu mewn cadair olwyn.
Hefyd sefydlodd Vicki dîm pêl-droed y ‘Cwmbrân Celtic Ladies yn 2012, gan eu harwain i ennill dyrchafiad i Brif Gynghrair Cymru ddwy flynedd yn ddiweddarach. Hefyd dechreuodd dîm wrth-gefn i annog menywod i ymgymryd â’r gamp.
Fel arfer bydd yn treulio pedair noson yr wythnos yn hyfforddi chwaraeon ar ôl bod yn y gwaith, weithiau’n cynnal mwy nac un sesiwn bob nos. Ar benwythnosau bydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i Sadyrnau yn trefnu gemau a thwrnameintiau pêl-rwyd, cyn rhoi hyd at saith awr ar ddydd Sul i’w thimau pêl-droed.
Enwebwyd Vicki gan Ann Daley o Bont-y-pŵl y mae ei merch yn chwarae pêl-rwyd gydag Ieuenctid Cwmbrân.
Dywedodd Ann Daley: “Mae Vicki wedi rhoi gymaint i gynifer o bobl, gan wirfoddoli ei holl amser rhydd. Mae wedi cael effaith anferth o ran cynyddu lefelau cyfranogaeth mewn chwaraeon ar gyfer genethod a menywod yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae Vicki yn Arwr Tawel go iawn.”
Bydd llwyddiant Vicki yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2016 ar Ddydd Llun 5 Rhagfyr yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd, lle bydd yn rhannu’r llwyfan gydag enillwyr mawr eraill y noson gan gynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn, Tîm y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Gall cefnogwyr wylio Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 yn fyw o 7.30pm ymlaen nos Lun 5 Rhagfyr ar bbc.co.uk/sportwales a hefyd ar BBC iPlayer a’r Botwm Coch. Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Wales.
Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn ddigwyddiad a drefnir mewn partneriaeth gan BBC Cymru a Chwaraeon Cymru. Mae’n anelu at gydnabod y cyflawniadau chwaraeon gorau ar lefel elité a chymunedol yng Nghymru.
Nodiadau i Olygyddion
- Ar ôl ennill gwobr BBC Cymru, mae Vicki bellach wedi cael ei chynnwys ar restr fer o 15 ar gyfer gwobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC 2016 ar draws y DU. Mae’r cystadleuwyr eraill wedi eu dewis gan baneli lleol yn 12 Rhanbarth Saesnig y BBC, BBC Scotland a BBC Northern Ireland. Bydd yr enillydd a ddaw i’r brig yn cael ei gyhoeddi yn ystod rhaglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ddydd Sul, 18 Rhagfyr yn Birmingham.
- Mae gwobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC yn dathlu pobl o bob rhan o’r DU sy’n gwirfoddoli’u hamser a’u hymdrech i gynorthwyo pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
- Mae angen o hyd am fwy o arwyr tawel mewn chwaraeon yng Nghymru ac ar draws y DU. I gael mwy o ysbrydoliaeth a gwybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan, ewch i bbc.co.uk/getinspired
AC3
