Tony Hadley announced for BBC Proms in the Park in Colwyn Bay

Tony Hadley will perform with full orchestral backing at BBC Proms in the Park on Saturday, September 10 at Parc Eirias in Colwyn Bay. The news comes as the full line-up for the evening is announced.

Published: 31 July 2016
I love performing with orchestras and it will be a real honour singing with the BBC National Orchestra and Chorus of Wales.
— Tony Hadley

As lead singer of Spandau Ballet, Tony Hadley became one of pop music’s best-known vocalists, thanks to hits including Gold, True and Only When You Leave. With one of pop’s most recognisable voices, he is a solo artist in his own right, and has spent the past 20 years entertaining audiences all over the world.

Tony Hadley said: “I love performing with orchestras and it will be a real honour singing with the BBC National Orchestra and Chorus of Wales. BBC Proms in the Park in Colwyn Bay will be my first orchestral show in Wales and it’s been a while since I’ve played there on my own.”

Wales-based Grammy award-winning Amy Wadge, one of the UK’s most prolific contemporary songwriters, is also confirmed for the line-up.

Amy’s most notable success to date comes from her long-established writing partnership with Ed Sheeran. Thinking Out Loud went to number one in the UK chart in November 2014. The first track ever to remain in the top 40 for a whole year, it subsequently became a multi-platinum-selling global hit. In December 2015, the track was nominated for three Grammys and won Song of the Year.

Also confirmed is Welsh tenor Wynne Evans. As well as being a popular presenter on BBC Radio Wales, Wynne is also well-known to his fans as the inimitable spoof opera star on a well-known TV advertising campaign.

Wynne studied at the Guildhall School of Music and the National Opera Studio. Over the last 20 years, he has sung major principal roles at many of the world’s leading opera houses including The Royal Opera House, Welsh National Opera, Teatro La Fenice, Opera De Lyon and Glyndebourne.

His debut album A Song in My Heart went to Number 1 in the classical charts. Apart from his operatic and concert work he sang the role of Piangi in the 25 year anniversary performance of The Phantom of the Opera, which was broadcast live from the Royal Albert Hall to cinemas worldwide.

Wynne is also the Wales ambassador for the BBC’s Get Playing campaign, which encourages music lovers to be a part of the Last Night of the Proms celebrations by joining the BBC Get Playing virtual orchestra. Amateur musicians and lapsed players are urged to visit bbc.co.uk/getplaying for the chance to feature in a unique digital performance which will be shown on big screen at BBC Proms in the Park in Colwyn Bay and around the UK.

As already announced, completing the line-up in Colwyn Bay is the 17-year-old cellist and BBC Young Musician 2016, Sheku Kanneh-Mason.

The event in Colwyn Bay is being held in collaboration with Conwy County Borough Council and is part of the UK-wide celebration of the Last Night of the Proms 2016. The popular family occasion welcomes crowds to bring their picnics and flags to enjoy an evening of music, fireworks and fun. The main concert will be preceded by a showcase of local community talents, including Old Colwyn group Ghostbuskers - a 40-strong band that’s been developed as a musical performance project for people of all ages and abilities at TAPE Community Music and Film, as well as Anglesey-based band Cordia, local baritone John Ieuan Jones and the Colwyn Male Voice Choir.

Advance tickets are £16 and any left on the day will be £17.50. Tickets are available from the Venue Cymru box office (venuecymru.co.uk, telephone 01492 872000) and the BBC NOW Audience Line (bbc.co.uk/now, telephone 0800 052 1812), and more information is available on bbc.co.uk/promsinthepark.

MCR

 

TONY HADLEY I BERFFORMIO YN BBC PROMS YN Y PARC YM MAE COLWYN

Bydd Tony Hadley yn perfformio gyda chefnogaeth cerddorfa lawn yng nghyngerdd BBC Proms yn y Parc nos Sadwrn, Medi 10 ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Daw’r newyddion wrth i restr o berfformwyr y noson gael ei chyhoeddi.

Fel prif leisydd Spandau Ballet, daeth Tony Hadley yn un o gantorion mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth bop, diolch i ganeuon poblogaidd fel Gold, True ac Only When You Leave. Mae’n artist unigol cydnabyddedig gydag un o leisiau mwyaf adnabyddus y byd pop ac wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd.

Dywedodd Tony Hadley: “Rwyf wrth fy modd yn perfformio gyda cherddorfeydd, a bydd yn anrhydedd mawr i ganu gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Cyngerdd Proms yn y Parc Bae Colwyn fydd fy sioe gerddorfaol gyntaf yng Nghymru, ac mae wedi bod yn dipyn o amser ers i mi berfformio yno fel unigolyn.”

Mae Amy Wadge, yr enillydd gwobr Grammy sy’n byw yng Nghymru - un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf cynhyrchiol y DU - hefyd wedi’i chadarnhau fel un o artistiaid y noson.

Daeth llwyddiant mwyaf nodedig Amy hyd yma yn sgîl ei phartneriaeth cyfansoddi hir-dymor gydag Ed Sheeran. Aeth Thinking Out Loud i rif un siart y DU ym mis Tachwedd 2014. Dyma oedd y gân gyntaf erioed i aros yn y 40 Uchaf am flwyddyn gyfan, cyn cael llwyddiant “aml-blatinwm” byd-eang. Ym mis Rhagfyr 2015, cafodd y gân ei henwebu am dair gwobr Grammy ac fe’i henwyd yn Gân y Flwyddyn.

Cafwyd cadarnhad hefyd y bydd y tenor Wynne Evans yn perfformio ar y noson. Yn ogystal â bod yn gyflwynydd poblogaidd ar BBC Radio Wales, mae Wynne yn adnabyddus fel seren opera barodi unigryw mewn ymgyrch hysbysebu adnabyddus ar y teledu.

Astudiodd Wynne yn Ysgol Gerdd y Guildhall a’r Stiwdio Opera Genedlaethol. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi canu prif rannau pwysig yn rhai o dai opera mwyaf blaenllaw y byd gan gynnwys y Royal Opera House, Opera Cenedlaethol Cymru, Teatro La Fenice, Opera De Lyon a Glyndebourne.

Aeth ei albwm cyntaf A Song in My Heart i rif un yn y siartiau clasurol. Ar wahân i’w waith operatig a chyngerdd, canodd rôl Piangi ym mherfformiad pen-blwydd 25 mlynedd The Phantom of the Opera, gafodd ei ddarlledu’n fyw o Neuadd Albert i sinemâu ledled y byd.

Wynne yw llysgennad Cymru ar gyfer ymgyrch Get Playing y BBC, sy’n annog pobl sy’n caru cerddoriaeth i fod yn rhan o ddathliadau Noson Olaf y Proms drwy ymuno â cherddorfa rithwir Get Playing. Anogir cerddorion amatur a chyn-chwaraewyr i ymweld â bbc.co.uk/getplaying am y cyfle i fod yn rhan o berfformiad digidol unigryw a fydd yn cael ei ddangos ar y sgrîn fawr yn BBC Proms yn y Parc ym Mae Colwyn ac o gwmpas y DU.

Fel y cyhoeddwyd eisoes, yn cwblhau’r rhestr o berfformwyr ym Mae Colwyn fydd y sielydd 17-mlwydd-oed, a Cherddor Ifanc y BBC 2016, Sheku Kanneh-Mason.

Mae’r digwyddiad ym Mae Colwyn yn cael ei gynnal ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’n rhan o ddathliad Noson Olaf y Proms 2016 ledled y DU.

Mae’r achlysur teuluol poblogaidd yn croesawu torfeydd i ddod â phicnic a baneri gyda nhw i fwynhau noson o gerddoriaeth, tân gwyllt a hwyl. Bydd y cyngerdd yn cael ei ragflaenu gan berfformiadau arbennig gan dalentau cymunedol lleol, gan gynnwys y grŵp Ghostbuskers o Hen Golwyn - band o 40 o bobl sydd wedi cael ei ddatblygu fel prosiect perfformio cerddorol ar gyfer pobl o bob oedran a gallu fel rhan o fenter Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE, yn ogystal â’r band o Ynys Môn - Cordia, y bariton lleol John Ieuan Jones a Chôr Meibion Colwyn.

Mae tocynnau o flaen llaw yn costio £16 a bydd unrhyw docynnau sydd ar ôl ar y diwrnod yn £17.50. Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau Venue Cymru (venuecymru.co.uk, ffôn 01492 872000) a Llinell Cynulleidfaoedd BBC NOW (bbc.co.uk/now, ffoniwch 0800 052 1812), ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar bbc.co.uk/promsinthepark.

MCR