Radio Cymru announces new developments
BBC Radio Cymru announces new developments, starting April 2, which build on the strong foundations of the station. Radio Cymru’s familiar voices and a commitment to Welsh music will continue to be the cornerstones of the service.
Published: 17 March 2016

These changes will give our listeners an opportunity to enjoy more of what they like and value on Radio Cymru.
English Language Version
- Aled Hughes presents new morning programme at 8.30am
- Early breakfast with John Hardy at 5.30am
- New programme for Rhys Mwyn
- Lively Saturdays and laid-back Sundays
Mornings
John Hardy will start the mornings with a new programme at 5.30am with music, a look at the papers, as well as sport, weather and travel news.
Post Cyntaf follows at 7am with 90 minutes of the day’s news, presented by Dylan Jones, Kate Crockett and Gwenllian Grigg.
Aled Hughes welcomes Wales at 8.30am with his new programme, offering a mix of music and chat.
Bore Cothi and the daytime programmes follow as usual.
Evenings
At 7pm every evening, listeners can enjoy the familiar voices in new slots.
Recordiau Rhys Mwyn – A new programme, every Monday with Rhys Mwyn, the lead singer from Yr Anhrefn. He’ll be bringing his eclectic collection of music into the studio. An opportunity to listen to some classic tunes in the company of guests with memories of the 80s and 90s.
Sesiwn Georgia Ruth - a new slot every Tuesday with Georgia Ruth including folk and world music.
Lisa Gwilym yn cyflwyno – The new music from Wales in one place every Wednesday. Sessions, conversations and every genre of live music.
Byd Huw Stephens – The one-and-only DJ who presents us to his wonderful world of music every Thursday.
Penwythnos Geth a Ger – Start the weekend with three hours full of music, every Friday.
Saturdays
Tudur Owen – New slot, Saturday morning at 9 o’clock for Tudur and his crew.
Ifan Evans – following Tudur, Ifan will bring his dose of humour to Saturday mornings at 11 o’clock.
Sundays
Two of the weekend’s popular programmes – Richard Rees and Cofio – celebrate their 10th anniversary. They will both move to Sunday, as part of Radio Cymru’s laid-back Sundays.
Richard Rees - Music from the 60s, 70s and 80s with Richard, Sunday morning at 10 o’clock.
Yr Oedfa - The Sunday Service will start at the earlier time of 11.30am.
Beti a’i Phobol - Beti George interviews some of Wales’s characters at midday.
Cofio - John Hardy takes a trip down memory lane in a new slot every Sunday at 1 o’clock.
Hywel Gwynfryn – An opportunity to spend the afternoon in the company of Hywel Gwynfryn at 2 o’clock with a mix of greetings and music.
While discussing the developments, Betsan Powys, Editor of Radio Cymru says: “These changes will give our listeners an opportunity to enjoy more of what they like and value on Radio Cymru.
“It’s always been my intention, from the start, to open Radio Cymru’s doors every morning with a live programme. John’s programme will give us a chance, in an extremely busy year for politics and sports, to bring Post Cyntaf on air at 7 o’clock.
“Then at 7am, Dylan, Kate and Gwenllian Grigg will provide the best journalistic content. With Dylan concentrating on the big stories coming our way this year, Aled Hughes will host an hour-and-a-half of music and chat until 10am. He’s looking forward to putting his own stamp on the mornings.
"On Monday nights, it’s fantastic to be able to introduce Rhys Mwyn to the fold. We all know what we’re going to get with Rhys – interesting music, a strong opinion and plenty to think about. His programmes are certainly going to make some noise.”
SM2
Welsh Language Version
Radio Cymru yn cyhoeddi datblygiadau newdd
- Aled Hughes yn cyflwyno’r rhaglen foreol am 8.30am
- Brecwast cynnar gyda John Hardy am 5.30am
- Rhaglen newydd i Rhys Mwyn
- Sadyrnau bywiog a Suliau hamddenol a meddylgar
Mae BBC Radio Cymru yn cyhoeddi datblygiadau newydd sy’n dechrau ar Ebrill 2, gan adeiladu ar seiliau cadarn yr orsaf. Bydd lleisiau cyfarwydd yr orsaf a’r ymroddiad i gerddoriaeth Gymraeg yn parhau i fod yn rhan ganolog o’r gwasanaeth.
Y BOREAU
Bydd John Hardy yn agor drysau Radio Cymru gyda rhaglen newydd am 5.30am gyda cherddoriaeth, golwg ar y papurau, yn ogystal â’r penawdau chwaraeon, tywydd a’r traffig.
Y Post Cyntaf sy’n dilyn am 7 o’r gloch gyda 90 munud o newyddion y dydd yng nghwmni Dylan Jones, Kate Crockett a Gwenllian Grigg.
Aled Hughes fydd yn croesawu Cymru am 8.30am gyda’i raglen newydd sy’n cynnig cymysgedd o gerddoriaeth a sgyrsiau.
Bydd Bore Cothi a’r rhaglenni dyddiol yn dilyn fel arfer.
GYDA’R HWYR
Am 7 o’r gloch bob nos, bydd cyfle i wrandawyr fwynhau’r lleisiau mwyaf cyfarwydd, mewn slotiau newydd.
Recordiau Rhys Mwyn - Rhaglen newydd bob nos Lun gyda phrif leisydd Yr Anhrefn fydd yn dod â’i gasgliad recordiau a chasetiau personol i’r stiwdio. Cyfle i wrando ar rai o glasuron y gorffennol yng nghwmni gwesteion fydd yn hel atgofion am yr 80au a’r 90au.
Sesiwn Georgia Ruth - Slot newydd bob nos Fawrth gyda Georgia Ruth fydd yn cynnwys cerddoriaeth byd a gwerin.
Lisa Gwilym yn cyflwyno – Y gerddoriaeth newydd o Gymru mewn un lle bob nos Fercher. Sesiynau, sgyrsiau a cherddoriaeth fyw o bob math.
Byd Huw Stephens - Y DJ arbennig sy’n ein cyflwyno i’w fyd cerddorol rhyfeddol bob nos Iau.
Penwythnos Geth a Ger – Dechrau’r penwythnos gyda thair awr llawn o gerddoriaeth, bob nos Wener.
SADYRNAU
Tudur Owen - Slot newydd, fore Sadwrn am 9 o’r gloch i Tudur a’i griw.
Ifan Evans – yn dilyn Tudur, bydd Ifan yn dod â’i hiwmor i’r tonfeddi fore Sadwrn am 11 o’r gloch.
SULIAU
Mae dwy o raglenni poblogaidd y penwythnos - Richard Rees a Cofio - yn dathlu deng mlynedd. Bydd y ddwy yn symud i ddydd Sul, ac yn rhan o Suliau hamddenol ar Radio Cymru.
Richard Rees – Cerddoriaeth y 60au, 70au a’r 80au gyda Richard, fore Sul am 10 o’r gloch.
Yr Oedfa - Y Gwasanaeth ar y Sul yn dechrau yn gynt am 11.30am.
Beti a’i Phobol – Beti George sy’n holi rhai o gymeriadau Cymru am hanner dydd.
Cofio – John Hardy sy’n procio’r cof a’r meddyliau mewn slot newydd ddydd Sul am 1 o’r gloch.
Hywel Gwynfryn – Cyfle i dreulio’r prynhawn yng nghwmni Hywel Gwynfryn am 2 o’r gloch gyda chymysgedd o gyfarchion, hysbys a cherddoriaeth.
Wrth drafod y datblygiadau, dywed Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Mae’r newidiadau hyn yn rhoi cyfle i’n gwrandawyr fwynhau mwy o’r hyn maent yn ei hoffi ac yn ei werthfawrogi ar Radio Cymru.
“Mae hi wedi bod yn nod gen i ers y dechrau i gael rhaglen fyw i agor drysau’r orsaf i’r gwrandawyr. Fe fydd rhaglen John yn rhoi cyfle i ni, mewn blwyddyn brysur eithriadol yn wleidyddol ac o ran chwaraeon, i ddod â'r Post Cyntaf ar yr awyr am 7 o’r gloch. Yna am 7am y bydd Dylan, Kate a Gwenllian Grigg yn darparu’r cynnwys newyddiadurol gorau. Gyda Dylan yn canolbwyntio ar y straeon mawr sydd i ddod eleni, Aled Hughes fydd yn gyrru’r awr a hanner o gerddoriaeth a sgyrsiau tan 10am. Mae'n edrych ymlaen i gael y cyfle i roi'i stamp ei hun ar ddarlledu'r bore.
“Ar nos Lun, mae’n wych gallu croesawu Rhys Mwyn i’n plith. Ry'n ni i gyd yn gwybod be gewn ni gan Rhys – cerddoriaeth ddiddorol, barn gref a digon i gnoi cil arno. Fydd ei raglenni yn bownd o greu sŵn!”
SM2
