Presenters recognise BBC Radio Cymru's contribution ahead of the station's 40th anniversary

BBC Radio Cymru, the UK’s longest running non-English radio station, celebrates 40 years of broadcasting on January 3. Forty years after presenting the news on Radio Cymru’s first morning, journalist Gwyn Llewelyn returns to the station, for the morning, to read the news bulletins. This marks a year of celebrations on the national station.

Published: 29 December 2016

Also, on the station’s birthday, Hywel Gwynfryn, who presented Helo Bobol during Radio Cymru’s first morning in 1977, joins the celebrations on the Aled Hughes programme at 8.30am. Dei Tomos and Richard Rees will also be guests – and both joined the station from the beginning.

Broadcaster Huw Edwards says: “I can remember Radio Cymru’s launch in 1977; it was a momentous occasion in our house in Llangennech! Dad refused to switch off the radio for hours on end, every day! But I remember listening to news programmes of a very high standard and enjoying the service created for us, Welsh speakers. Welsh-language television wasn’t as it is now and Radio Cymru has played a vital part in supporting and promoting the Welsh language. I feel the changes made over the last few years have strengthened the service. Here’s to the next 40 at least!”

Huw Stephens, a familiar voice on Radio Cymru and Radio 1 says: “Radio Cymru has played an important part in the Welsh music scene, supporting musicians and uncovering emerging talent and new songs for the listeners – whether it’s for folk music fans, middle of the road or classical. It’s a pleasure to be part of the station which reflects Wales, and attracts listeners all over the world.”

During the past 40 years, Radio Cymru – the only national Welsh-language station, has produced programmes which appeal to a wide range of Welsh speakers.

Among the highlights, it appears that Gareth Glyn, who presented the Post Prynhawn news programme, was the first in the UK to hear that the Malvinas Islands or Falklands had been invaded in 1982. He answered a telephone call made by a radio ham on the islands, before the story became public.

Gareth Glyn says, “As unlikely as it sounds, I can remember answering one of the phones in the office – minutes before Post Prynhawn went on air – and heard the voice on the line, saying he was a radio ham. He declared that military planes had landed on the island. Given that I had to rush to the studio for the programme, I immediately transferred the call to someone else in the newsroom – without thinking any more about it, at the time. I’ve often wondered whether it was the first time news about the attack reached the UK.”

Radio Cymru showcases many genres of Welsh music. The first ever recording of the Super Furry Animals – Dim Brys: Dim Chwys - was made for a session on Radio Cymru in 1994.

Welsh singer Ywain Gwynedd was inspired by Radio Cymru’s music. He says: “I remember my brothers, years ago, listening to Y Lein Hwyr request show on Radio Cymru. I heard Gwefus Melys Glwyfus for the first time on the station and I remember thinking at the time - Welsh music is so cool! And I wanted to do something similar myself. Radio Cymru has made a massive contribution and I’m grateful for all the support I’ve received.”

Then in 2015, a new world record was set on Radio Cymru with a duet by singers 7,000 miles apart! Radio Cymru presenter and musician Shân Cothi, who sang at Hoddinott Hall, Cardiff, joined Andrew Evans, the other side of the world in Gaiman, Patagonia. The pair sang Calon Lân live, accompanied by the BBC National Orchestra of Wales.

Ahead of Radio Cymru’s 40th anniversary, a digital pop-up pilot station was launched - BBC Radio Cymru Mwy - as part of the national station’s digital developments. This was the first pop-up station for BBC Wales, running for a period of 15 weeks. Listeners were offered more music and fun as Radio Cymru Mwy was broadcast during the working week. And as new voices and talent were discovered, BBC Radio Cymru has announced that elements of Radio Cymru Mwy will continue on the national service during the celebratory year.

Radio Cymru’s Editor, Betsan Powys says: “I’d like to thank everyone who has contributed to Radio Cymru’s success over the last 40 years. The station’s anniversary is an important milestone for Welsh broadcasting. We’re now looking forward to a special year, as we look back and celebrate the talent and loyalty of the past. But the focus, of course, will be on the future, as we continue to innovate, entertain and provide the best programmes for our audiences.”

Looking back at 40 years of broadcasting, Hywel Gwynfryn, one of Radio Cymru’s first presenters says, “Although the technology has changed over the years, our aim remains the same – entertaining our audiences. And Radio Cymru offers that variety. It’s like the menu in a restaurant, you won’t like everything on the radio – but there’s something on the menu for everyone.”

Notes to Editors

  • On January 3, in a special edition of the Aled Hughes programme at 8.30am, Aled and his guests will share the celebrations with Welsh band Plu, who will be singing contemporary versions of three songs from 1977.
  • The celebrations will continue on Bore Cothi, as Shân Cothi looks back at 40 years of Radio Cymru with some of the station’s most familiar voices. Delwyn Siôn, who sang the very first song on Radio Cymru, returns to perform a session.
  • The Tommo programme will feature music from 1977 and 2017 – and Geraint Lloyd will introduce Iestyn Tyne, Poet of the Month, who will present a special poem to celebrate Radio Cymru’s anniversary. Presenter Ger will also be talking to someone celebrating their 40th birthday, on the same day as Radio Cymru.
  • The first broadcast on Radio Cymru was at 6.45am on Monday, January 3, 1977.
  • Gwyn Llewelyn presented the news during the first morning of Radio Cymru, between 7am and 9am. The 15-minute news bulletins were featured every hour during the first programme, Helo Bobol, presented by Hywel Gwynfryn, who has been with the station since the beginning.
  • Programmes were broadcast initially in the mornings but today, Radio Cymru starts at 5.30am and is on air until midnight.
  • A year of celebrations will start on Radio Cymru’s birthday, January 3.

SM2

Cyflwynwyr yn cydnabod cyfraniad BBC Radio Cymru ar drothwy ei phen-blwydd yn 40

Mae BBC Radio Cymru yn dathlu 40 mlynedd o ddarlledu ar Ionawr 3. Ddeugain mlynedd ar ôl cyflwyno’r newyddion ar fore cyntaf Radio Cymru, mae’r newyddiadurwr Gwyn Llewelyn yn dychwelyd i’r orsaf, am y bore, i ddarllen y newyddion. Mae’n ddechrau ar flwyddyn o ddathlu ac arloesi i’r gwasanaeth cenedlaethol.

Hefyd, ar ddiwrnod pen-blwydd yr orsaf, bydd Hywel Gwynfryn, a gyflwynodd y rhaglen Helo Bobol ar ddiwrnod cyntaf Radio Cymru, yn ymuno yn y dathliadau ar raglen Aled Hughes am 8.30am. Bydd Dei Tomos a Richard Rees hefyd yn westeion – dau arall a fu’n rhan o’r gwasanaeth ers y dechrau.

Mae rhai o enwogion y byd darlledu wedi bod yn edrych yn ôl ar gyfraniad yr orsaf.

Dywedodd y darlledwr Huw Edwards: “Mae gen i gof clir iawn o lansiad Radio Cymru yn 1977, digwyddiad o bwys mawr yn ein tŷ ni yn Llangennech! Roedd Dad yn gwrthod diffodd y radio am oriau maith bob dydd! Ond rwy’n cofio’r pleser o glywed y rhaglenni newyddion safonol iawn, a mwynhau gwasanaeth a grewyd ar ein cyfer ni’r Cymry Cymraeg. Cofiwch mai tameidiog iawn oedd y ddarpariaeth i ni ar y teledu bryd hynny. Bu Radio Cymru yn wirioneddol hanfodol o ran cefnogi a hybu’r Gymraeg, ac rwy'n teimlo bod y newidiadau a wnaed yn y blynyddoedd diweddar wedi cryfhau'r gwasanaeth. Ymlaen am 40 arall o leiaf!”

Dywedodd Huw Stephens, un o leisiau mwyaf cyfarwydd Radio Cymru a Radio 1: “Mae Radio Cymru wedi bod yn rhan bwysig o'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru, yn gefnogol i'r cerddorion ac yn dod â’r talent a’r caneuon o bob math i’r gwrandawyr - yn ffans bands a gwerin, canol y ffordd a chlasurol. Mae'n bleser bod yn rhan o'r orsaf sydd yn adlewyrchu Cymru, ac hefyd yn denu gwrandawyr dros y byd.”

Dros y ddeugain mlynedd mae Radio Cymru - yr unig orsaf radio Gymraeg genedlaethol - wedi cynhyrchu rhaglenni sy'n apelio at groesdoriad eang o siaradwyr Cymraeg.

Ymhlith rhai o’r uchafbwyntiau, mae’n ymddangos mai Gareth Glyn, cyn gyflwynydd y Post Prynhawn oedd y cyntaf yng Ngwledydd Prydain i glywed fod Ynysoedd y Malvinas neu’r Falklands wedi eu goresgyn yn 1982. Derbyniodd alwad ffôn o’r ynysoedd cyn i’r stori fod yn gyhoeddus.

Meddai Gareth Glyn: “Er mor annhebygol y mae’n swnio, mae gen i atgof o ateb un o ffonau’r swyddfa - funudau cyn i’r Post Prynhawn fynd ar yr awyr - a chlywed llais ar y pen arall yn dweud ei fod yn ddarlledwr radio amatur – radio ham – gyda newyddion bod hofrenyddion milwrol wedi glanio ar yr ynysoedd. Gan fod yn rhaid i mi ruthro i’r stiwdio ar gyfer y rhaglen, mi wnes i drosglwyddo’r alwad yn syth i rywun arall yn yr ystafell newyddion - heb feddwl, ar y pryd, ymhellach am y peth. Rydw i wedi pendroni byth ers hynny ai dyma’r tro cynta i newyddion am y cyrch gyrraedd unrhyw wlad yn y Deyrnas Gyfunol.”

Mae Radio Cymru yn llwyfan i bob math o gerddoriaeth o Gymru. Roedd y recordiad cyntaf erioed o’r Super Furry Animals – Dim Brys: Dim Chwys ar gyfer y rhaglen Heno Bydd Yr Adar Yn Canu - ar Radio Cymru yn 1994.

Dywedodd y canwr Ywain Gwynedd, a gafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth Radio Cymru: “Dwi’n cofio fy mrodyr yn gwrando ar Y Lein Hwyr ar Radio Cymru flynyddoedd yn ôl, yn gwneud ceisiadau am ganeuon. Wnes i glywed Gwefus Melys Glwyfus am y tro cyntaf ar Radio Cymru a chofio meddwl ar y pryd fod cerddoriaeth Gymraeg yn cŵl – a bo fi eisiau gwneud yr un peth. Mae Radio Cymru wedi gwneud cyfraniad anferth ac wedi meithrin fy nhalent i”.

Yna yn 2015, fe gafodd record byd newydd ei gosod ar Radio Cymru, wrth i ddeuawd gael ei chanu gan gantorion oedd 7,000 o filltiroedd ar wahȃn. Y cantorion oedd cyflwynwraig Radio Cymru a'r gantores Shân Cothi, oedd yn canu yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd, gydag Andres Evans, ym mhen draw’r byd yn y Gaiman ym Mhatagonia. Bu’r ddau yn cyd-ganu Calon Lân yn fyw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

I arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40, lansiwyd cynllun peilot - BBC Radio Cymru Mwy - fel rhan o gyfres o ddatblygiadau digidol gan y gwasanaeth cenedlaethol. Hon oedd gorsaf dros dro gyntaf BBC Cymru, a dros gyfnod o bymtheg wythnos, bu cyfle gan wrandawyr gael mwy o gerddoriaeth a hwyl wrth i Radio Cymru Mwy ddarlledu yn ystod bore’r wythnos waith. Ac wrth ddod o hyd i dalent a lleisiau newydd mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd elfennau o Radio Cymru Mwy yn parhau ar y prif wasanaeth yn ystod blwyddyn o ddathlu pen-blwydd yr orsaf.

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Radio Cymru dros y ddeugain mlynedd ddiwethaf. Mae pen-blwydd yr orsaf yn garreg filltir bwysig i ddarlledu Cymraeg. Ry’n ni’n edrych ymlaen at flwyddyn arbennig, i ddathlu talentau a theyrngarwch y gorffennol. Ond mae’r pwyslais, wrth gwrs, ar edrych ymlaen, wrth i ni barhau i arloesi, i ddiddanu ac i fod yn gwmni da i’n cynulleidfaoedd.”

Wrth edrych yn ôl ar ddeunaw mlynedd o ddarlledu, dywedodd Hywel Gwynfryn, un o gyflwynwyr cyntaf Radio Cymru: “Mae’r dechnoleg wedi newid erbyn hyn, ond mae’r nod yr un fath heddiw - diddori eich cynulleidfa mewn amrywiol ffyrdd. Ac mae Radio Cymru yn cynnig yr amrywiaeth hwnnw. Fel bwydlen mewn tŷ bwyta - ’newch chi ddim mwynhau popeth sy’n cael ei gynnig ar y gwasanaeth, ond mae ’na rywbeth ar y fwydlen i bawb.”

Nodiadau i Olygyddion

  • Ar Ionawr 3, mewn rhifyn arbennig o raglen Aled Hughes, bydd Aled a’i westeion am 8.30am yn rhannu’r dathliadau gyda’r grŵp Plu, fydd yn canu fersiynau cyfoes o dair cân o 1977.
  • Bydd y dathlu’n parhau ar Bore Cothi, wrth i Shân Cothi ddwyn atgofion gyda rai o leisiau cyfarwydd Radio Cymru dros y blynyddoedd. Mae Delwyn Siôn, a ganodd y gân gyntaf erioed ar yr orsaf, yn mynd i ddychwelyd i’r stiwdio i berfformio sesiwn.
  • Cerddoriaeth o 1977 a 2017 fydd ar raglen Tommo a bydd Geraint Lloyd yn cael cwmni Bardd y Mis, Iestyn Tyne, i gyflwyno cerdd arbennig i ddathlu’r pen-blwydd. Bydd Ger hefyd yn sgwrsio â rhywun sy’n dathlu pen-blwydd yn 40 ar yr un diwrnod â Radio Cymru.
  • Darlledodd yr orsaf genedlaethol Gymraeg ar donfedd uchel iawn am 6.45am ddydd Llun, Ionawr 3, 1977.
  • Gwyn Llewelyn ddarllenodd y newyddion yn ystod oriau cyntaf darlledu Cymraeg rhwng 7 a 9 y bore. Roedd y bwletinau newyddion am 15 munud bob awr yn ystod rhaglen Helo Bobol oedd yn cael ei chyflwyno gan Hywel Gwynfryn, sydd wedi bod yn gyflwynydd gyda’r orsaf ers y dechrau.
  • Dim ond yn ystod y bore y darlledwyd rhaglenni yn y cyfnod cynnar, ond erbyn heddiw mae rhaglenni Cymraeg yn dechrau am 5.30am ac yn dod i ben am hanner nos.
  • Bydd blwyddyn gyfan o ddathlu yn dechrau ar ddiwrnod pen-blwydd Radio Cymru, Ionawr 3.

SM2