Tickets selling fast for BBC Proms in the Park in Colwyn Bay
There are just a few days left to take advantage of ‘early bird’ prices for BBC Proms in the Park, to be held in Colwyn Bay this year for the first time.

Parc Eirias is an established venue for events of the highest calibre, and I’m pleased that we are able to bring BBC Proms in the Park to the town.
English Language Version
BBC Wales announced in April that the annual outdoor September spectacular, featuring the BBC National Orchestra and Chorus of Wales, will be coming to Parc Eirias on Saturday 10 September, and over 2,000 tickets have already been sold - with seated tickets almost sold out.
‘Early Bird’ general admission tickets cost £12.50 and seated tickets are priced at £15. After June 30, advance tickets will cost £16 and seated tickets £18.50, and on the day they will cost £17.50 and £20 respectively.
Tickets are available from the Venue Cymru box office (venuecymru.co.uk, telephone 01492 872000) and the BBC NOW Audience Line (bbc.co.uk/now, telephone 0800 052 1812), and more information is available on bbc.co.uk/promsinthepark
This popular family occasion, which is being held in collaboration with Conwy County Borough Council, will welcome crowds to bring their picnics and flags to enjoy an evening of music, fireworks and fun. The feast of live music will be broadcast on BBC services and is part of a UK-wide celebration of the Last Night of the Proms 2016.
Gareth Davies, BBC Wales’s Head of Marketing and Events, who is from Colwyn Bay, says: “I’m thrilled that ticket sales so far have been so encouraging. Parc Eirias is an established venue for events of the highest calibre, and I’m pleased that we are able to bring BBC Proms in the Park to the town. It should be a memorable evening in September.”
The first special guest confirmed for the line-up is 17 year-old cellist and BBC Young Musician 2016, Sheku Kanneh-Mason (pictured).
Following a standing ovation for his family orchestra on last year’s Britain’s Got Talent semi-final, Sheku, from Nottingham, won BBC Young Musician 2016 in May. Sheku, who began learning the cello aged six, has performed on BBC Radio 3’s In Tune, and featured on Front Row on BBC Radio 4.
Sheku Kanneh-Mason said: “I am very fond of Wales, having visited regularly with my family over the years, so it is really exciting to have the opportunity to perform at the BBC Proms in the Park in Colwyn Bay. There’s something very special about open air performances and I know just how beautiful this part of Wales is. With the BBC National Orchestra and Chorus of Wales, it should be an event to remember.”
MCR
Welsh Language Version
TOCYNNAU YN GWERTHU’N SYDYN AR GYFER BBC PROMS YN Y PARC YM MAE COLWYN
Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl i fanteisio ar brisiau cynnar gostyngedig ar gyfer BBC Proms yn y Parc sydd i'w gynnal ym Mae Colwyn eleni am y tro cyntaf.
Cyhoeddodd BBC Cymru ym mis Ebrill fod y digwyddiad awyr agored blynyddol ym mis Medi, gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol y BBC, yn dod i Barc Eirias ddydd Sadwrn, Medi’r 10fed, ac mae dros 2,000 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu - gyda thocynnau eistedd bron wedi gwerthu allan.
Mae tocynnau cynnar gostyngedig ar gyfer mynediad cyffredinol yn costio £12.50 a thocynnau eistedd yn £15. Ar ôl Mehefin 30 hyd at y diwrnod cyn y digwyddiad, bydd tocynnau mynediad cyffredinol yn £16 a thocynnau eistedd yn £18.50, ac ar y diwrnod ei hun byddant yn costio £17.50 a £20 yn y drefn honno. Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau Venue Cymru (venuecymru.co.uk, ffôn 01492 872000) a Llinell Cynulleidfaoedd BBC NOW (bbc.co.uk/now, ffoniwch 0800 052 1812), ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar bbc.co.uk/promsinthepark
Bydd yr achlysur teuluol poblogaidd, sy’n cael ei gynnal ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn croesawu torfeydd i ddod â phicnic a baneri gyda nhw i fwynhau noson o gerddoriaeth, tân gwyllt a hwyl. Bydd y wledd o gerddoriaeth fyw yn cael ei darlledu ar wasanaethau’r BBC, ac mae’n rhan o ddathliad Noson Olaf y Proms 2016 ledled y DU.
Dywedodd Gareth Davies, Pennaeth Marchnata a Digwyddiadau BBC Cymru, sy’n dod o Fae Colwyn: “Rydw i wrth fy modd bod gwerthiant tocynnau hyd yma mor galonogol. Mae Parc Eirias wedi sefydlu ei hun fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau o’r radd flaenaf, ac rydw i’n falch ein bod yn gallu dod â BBC Proms yn y Parc i’r dref. Dylai fod yn noson gofiadwy ym mis Medi.”
Y gwestai arbennig cyntaf i gael ei gadarnhau ar gyfer y noson yw’r sielydd 17 mlwydd-oed, a Cherddor Ifanc y BBC 2016, Sheku Kanneh-Mason.
Ar ôl i gynulleidfa rownd gyn-derfynol Britain’s Got Talent y llynedd godi ar eu traed i gymeradwyo perfformiad ei gerddorfa deuluol, enillodd Sheku, o Nottingham, gystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC 2016 ym mis Mai. Dechreuodd ddysgu’r soddgrwth yn chwech oed, ac mae Sheku hefyd wedi perfformio ar In Tune ar BBC Radio 3, a Front Row ar BBC Radio 4.
Dywedodd Sheku Kanneh-Mason: “Rwy’n hoff iawn o Gymru, ar ôl ymweld yn rheolaidd gyda fy nheulu dros y blynyddoedd, felly mae wirioneddol yn gyffrous i mi gael y cyfle hwn i berfformio yn BBC Proms yn y Parc ym Mae Colwyn. Mae rhywbeth arbennig iawn am berfformiadau awyr agored ac rydw i’n gwybod pa mor hardd ydy’r rhan hon o Gymru. Gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol y BBC, dylai fod yn ddigwyddiad i'w gofio.”
MCR
