Colwyn Bay to host BBC Proms in the Park
BBC Proms in the Park will be held in Colwyn Bay this year for the first time, BBC Cymru Wales has announced. The annual outdoor September spectacular - which features the BBC National Orchestra and Chorus of Wales and special guests - will be broadcast live on BBC services.

I’m delighted that we’re able to stage the event in Colwyn Bay this year, in a first for north Wales.
English Language Version
On Saturday September 10, BBC Wales, in collaboration with Conwy County Borough Council, will bring a feast of live music to the town’s Parc Eirias as part of a UK-wide celebration of the Last Night of the Proms 2016. This popular family occasion welcomes crowds bringing their picnics and flags to enjoy an evening of music, fireworks and fun.
BBC Cymru Wales Director, Rhodri Talfan Davies says: “BBC Proms in the Park is so well-loved here in Wales by both audiences and performers. Every year it draws thousands to enjoy a feast of music in the open air, and I’m delighted that we’re able to stage the event in Colwyn Bay this year, in a first for north Wales.”
Councillor Graham Rees, Conwy County Borough Council Cabinet Member for Tourism, Marketing & Leisure says: “We’re thrilled to welcome BBC Proms in the Park to Colwyn Bay and I’m excited to see yet another major event secured at Parc Eirias. Events are extremely important to Conwy County as they provide significant economic value for our many small businesses. Those who have experienced Proms before will need no encouragement to come along, but I urge those who haven’t to join us - you won’t be disappointed!”
Concluding a Proms season which includes five performances at the Royal Albert Hall by the BBC National Orchestra and Chorus of Wales, BBC Proms in the Park will see them going alfresco in a part of the country they’re very familiar with.
Michael Garvey, Director of BBC National Orchestra and Chorus of Wales, says: “We perform regularly locally in Llandudno, as well as nearby in Bangor, so we know we have great support across north Wales. We can’t wait to bring the Proms in the Park experience to Colwyn Bay, it’s a great way to experience the orchestra and the perfect finale to our summer of music.”
Early Bird tickets priced from £12.50 will be available from Friday, May 6, from the Venue Cymru box office (venuecymru.co.uk, telephone 01492 872000) and the BBC NOW Audience Line (bbc.co.uk/now, telephone 0800 052 1812), and more information is available on bbc.co.uk/promsinthepark.
Notes to Editors
BBC Proms
As the world’s biggest classical music festival, the BBC Proms offers eight weeks of world-class music-making from a vast array of leading orchestras, conductors and soloists from the UK and around the world. Across more than 90 concerts - and a similar number of free events designed to extend and further enrich the audience’s Proms experience - the festival aims to offer a summer of music that allows for the most diverse and exciting musical journeys. Over 120 years since it was founded, the driving factor in building a festival of this scale is to offer exceptional music-making at the lowest possible prices, continuing founder-conductor Henry Wood’s original ambition of bringing the best classical music to the widest possible audience. With every Prom broadcast live on BBC Radio 3 and many televised on the BBC, the Proms reaches far and beyond the Royal Albert Hall. Full details can be found at bbc.co.uk/proms
Pictured: Neil Shewan (French Horn) John Hall (Flute) and Emilie Godden (Violin) of the BBC National Orchestra of Wales in Colwyn Bay to announce the location.
MCR
Welsh Language Version
BAE COLWYN I GYNNAL PROMS YN Y PARC Y BBC
Digwyddiad ysblennydd mis Medi yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd Proms yn y Parc y BBC yn cael eu cynnal ym Mae Colwyn eleni am y tro cyntaf. Bydd y digwyddiad ysblennydd, sy’n cael ei gynnal bob mis Medi yn yr awyr agored ac yn cynnwys Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a gwestai arbennig, yn cael ei ddarlledu’n fyw ar wasanaethau’r BBC.
Ddydd Sadwrn, Medi 10, fe fydd BBC Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn dod â gwledd o gerddoriaeth fyw i Barc Eirias yn y dref fel rhan o ddathliad Noson Olaf y Proms 2016 ledled y DU. Mae hwn yn achlysur teuluol poblogaidd sy’n annog y gynulleidfa i ddod â’u picnic a’u baneri gyda nhw i fwynhau noson o hwyl, cerddoriaeth a thân gwyllt.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Mae BBC Proms yn y Parc yn cael croeso cynnes iawn yma yng Nghymru gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr fel ei gilydd. Bob blwyddyn mae’n denu miloedd i fwynhau gwledd o gerddoriaeth yn yr awyr agored, ac rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu llwyfannu’r digwyddiad ym Mae Colwyn eleni, ac am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Graham Rees, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Hamdden: “Rydym wrth ein boddau i groesawu Proms yn y Parc y BBC i Fae Colwyn ac mae’n gyffrous i weld digwyddiad mawr arall eto wedi’i sicrhau ar gyfer Parc Eirias. Mae digwyddiadau yn hynod o bwysig i Sir Conwy gan eu bod yn darparu gwerth economaidd sylweddol ar gyfer ein llu o fusnesau bach. Ni fydd angen unrhyw anogaeth ar y rhai sydd wedi profi’r Proms o’r blaen i ddod draw, ond rwyf yn erfyn ar y rhai sydd heb gael y profiad hwnnw eto i ymuno â ni - chewch chi mo’ch siomi!”
Yn ddiweddglo ar dymor Proms sy’n cynnwys pump o berfformiadau yn Neuadd Albert yn Llundain gan Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, bydd Proms yn y Parc y BBC yn rhoi’r cyfle iddyn fwynhau noson yn yr awyr agored mewn rhan o’r wlad y maen nhw’n gyfarwydd iawn ag ef.
Dywedodd Michael Garvey, Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: “Rydym yn perfformio’n rheolaidd yn lleol yn Llandudno, ac i lawr y lôn ym Mangor hefyd, felly fe wyddwn bod gennym gefnogaeth wych ar draws y gogledd. Fedrwn ni ddim disgwyl i ddod â phrofiad Proms yn y Parc i Fae Colwyn, mae’n ffordd wych i fwynhau’r gerddorfa a bydd yn ddiweddglo perffaith ar ein haf o gerddoriaeth.”
Bydd tocynnau ar gael am brisiau gostyngedig yn dechrau o £12.50 o ddydd Gwener, Mai 6, o swyddfa docynnau Venue Cymru (venuecymru.co.uk, ffôn 01492 872000) a Llinell Cynulleidfaoedd BBC NOW (bbc.co.uk/now, ffôn 0800 052 1812), ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar bbc.co.uk/promsinthepark.
Proms y BBC
Fel gŵyl gerddoriaeth glasurol fwyaf y byd, mae Proms y BBC yn cynnig wyth wythnos o gerddoriaeth o’r radd flaenaf gan amryw eang o’r cerddorfeydd, arweinwyr ac unawdwyr blaenaf o’r DU ac o amgylch y byd. Ar draws dros 90 o gyngherddau - a nifer tebyg o ddigwyddiadau am ddim a gynlluniwyd i ymestyn a chyfoethogi ymhellach profiad Proms y gynulleidfa - mae’r ŵyl yn anelu i gynnig haf o gerddoriaeth sy’n galluogi’r profiadau cerddorol mwyaf amrywiol a chyffrous. Dros 120 o flynyddoedd ers ei sefydlu, y ffactor sy’n ysgogi adeiladu gŵyl ar y raddfa hon yw cynnig perfformiadau cerddorol am y prisiau isaf posibl, gan barhau uchelgais gwreiddiol yr arweinydd a’r sylfaenydd Henry Wood i ddod â'r gerddoriaeth glasurol orau i’r gynulleidfa ehangaf posibl. Gyda phob Prom yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio 3 a llawer ar deledu’r BBC, mae’r Proms yn cyrraedd ymhell tu hwnt i Neuadd Albert. Mae manylion llawn ar gael yn bbc.co.uk/proms
MCR