Chris Coleman to receive special honour at Wales Sport Awards 2016

The man who guided Wales to the semi-finals of the European football championships will be honoured this evening (Monday 5 December) with a Special Recognition Award at the Wales Sport Awards 2016.

Published: 5 December 2016
None of us will ever forget how special it felt to follow the brilliant Wales team that Chris Coleman put together at Euro 2016.
— Rhodri Talfan Davies, Director, BBC Wales

Wales manager Chris Coleman will receive the award for his outstanding achievements in charge of the national team, at the glittering ceremony at Hoddinott Hall in Cardiff Bay.

The 46 year-old, originally from Swansea, become a national hero after leading Wales to Euro 2016 - their first major championship in 58 years.

At the tournament in France this summer, Coleman’s team reached the last four, beating Belgium, Northern Ireland, Russia and Slovakia on the way.

Under his management, Wales are also unbeaten so far in their World Cup qualifying campaign, ending the year in 12th place in the FIFA world rankings.

Rhodri Talfan Davies, Director, BBC Wales, says: “This special award is a fitting accolade for a man who brought the nation together this summer. None of us will ever forget how special it felt to follow the brilliant Wales team that Chris Coleman put together at Euro 2016. It will be a thrilling moment tonight to see his exceptional achievements celebrated in style.”

Sarah Powell, Chief Executive of Sport Wales, adds: “Chris has provided inspiration to the people of Wales that has even transcended his team’s sporting achievements. His fist-pumping passion, combined with his encouragement to dream, learn and strive for success, have touched people across the nation. We will all remember the summer of 2016 for a long time to come. I am delighted we are able to recognise his contribution with this Special Recognition award.”

Fans can watch the Wales Sport Awards 2016 live on the BBC Wales Sport website, the BBC Sport app, BBC iPlayer and the Red Button from 7.30pm tonight. The event is also live on BBC Radio Wales.

Fourteen awards will be presented at the ceremony including Team of the Year, Coach of the Year, Lifetime Achievement and the prestigious BBC Cymru Wales Sports Personality of the Year Award.

The Wales Sport Awards is an event, organised in partnership by BBC Wales and Sport Wales. It aims to recognise the best achievements at elite and community level in Welsh sport.

AC

Chris Coleman i dderbyn anrhydedd arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2016

Bydd y gŵr a arweiniodd Cymru i rownd gynderfynol pencampwriaeth pêl-droed Ewrop yn cael ei anrhydeddu heno (dydd Llun 5 Rhagfyr) â Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2016.

Bydd rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn derbyn y wobr am ei gyflawniadau arbennig yn gofalu am y tîm cenedlaethol, yn y seremoni fawreddog yn Neuadd Hoddinott, Bae Caerdydd.

Daeth y gŵr 46 oed, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn arwr cenedlaethol ar ôl arwain Cymru i bencampwriaeth Ewro 2016, eu pencampwriaeth fawr gyntaf ers 58 o flynyddoedd.

Yn y twrnamaint yn Ffrainc yn ystod yr haf eleni, cyrhaeddodd tîm Coleman y pedwar olaf, gan guro Gwlad Belg, Gogledd Iwerddon, Rwsia a Slofacia ar y ffordd.

O dan ei reolaeth, nid yw Cymru ychwaith wedi colli’r un gêm yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd gan orffen y flwyddyn yn y 12fed safle yn rhestr byd FIFA.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae’r wobr arbennig hon yn anrhydedd priodol i ŵr a ddaeth â'r wlad at ei gilydd yr haf hwn. Ni fydd yr un ohonom yn anghofio’r wefr arbennig o ddilyn tîm anhygoel Cymru dan arweiniad Chris Coleman yng ngemau Ewro 2016. Bydd yn wych heno gweld ei gyflawniadau eithriadol yn cael eu dathlu mewn steil.”

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru: “Mae Chris wedi bod yn ysbrydoliaeth i bobl Cymru sydd hyd yn oed wedi rhagori ar gyflawniadau chwaraeon ei dîm. Mae ei frwdfrydedd egnïol, ynghyd â’i anogaeth i freuddwydio, i ddysgu ac i lwyddo wedi cyffwrdd pobl ar draws y wlad. Bydd pob un ohonom yn cofio haf 2016 yn hir iawn. Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cydnabod ei gyfraniad drwy'r Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig hon.”

Gall cefnogwyr wylio Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 yn fyw ar wefan BBC Wales Sport, BBC iPlayer a’r Botwm Coch o 7.30 ymlaen heno. Mae'r digwyddiad hefyd yn fyw ar BBC Radio Wales.

Bydd pedair ar ddeg o wobrau yn cael eu cyflwyno yn y seremoni, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Hyfforddwr y Flwyddyn, Cyflawniad Oes a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales.

Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn ddigwyddiad sy’n cael ei drefnu mewn partneriaeth gan BBC Cymru a Chwaraeon Cymru. Mae’n anelu at gydnabod y cyflawniadau chwaraeon gorau ar lefel elît a chymunedol yng Nghymru.

AC