BBC Cardiff Singer of the World 2015 Nadine Koutcher returns to Wales
As the search begins for BBC Cardiff Singer of the World 2017, the winner of 2015's competition returns to St. David’s Hall, Cardiff on 17 June with a world premiere performance.

BBC Cardiff Singer is more than a competition - it’s a celebration of world-class singing. We are proud of the opportunities BBC Cardiff Singer affords.
English language version
Singing with BBC National Orchestra of Wales and Principal Conductor Thomas Søndergård, Nadine Koutcher will perform a new composition by Downton Abbey composer John Lunn. The work has been specially commissioned by BBC Radio 3 for the winner of BBC Cardiff Singer of the World 2015.
Soprano Nadine Koutcher says: “I was speechless when I found out I had won. It was such an honour to be part of last year’s Cardiff Singer of the World, performing amongst such fine singers from around the world. Since the competition, I’ve received much attention both at home in Belarus, and across Europe. I am looking forward to performing once again in Cardiff.”
Ahead of Nadine’s performance, applications have opened for BBC Cardiff Singer of the World 2017. Across its 32 years, the competition has helped launch the careers of high-profile singers including Karita Mattila, Dmitri Hvorostovsky and Bryn Terfel, and has become the premier showcase for opera and concert singers.
Artistic Director for BBC Cardiff Singer of the World, David Jackson says: “BBC Cardiff Singer is more than a competition - it’s a celebration of world-class singing. Broadcast on BBC television and radio in the UK and streamed online across the world for the first time last year, it gives young artists access to the world stage. Last year's winner, Nadine Koutcher, has gone on to sing La Traviata with Daniel Barenboim in Berlin, Nico Darmanin sings in Welsh National Opera’s Barber of Seville this month and Ilker Arkayurek has become one of BBC Radio 3’s New Generation Artists. We are proud of the opportunities BBC Cardiff Singer affords, alongside the benefits from working with great accompanists, conductors and orchestras, coaches, and the competition’s patron Dame Kiri Te Kanawa.”
Dame Kiri Te Kanawa will be joined by Ingrid Surgenor, Lyndon Jones and Nicholas Payne for the first phase of the 2017 application process. Live auditions will take place across the globe in the latter half of 2016, with Angela Livingstone, Isabel Murphy and Jeremy Caulton, continuing the search for the next winner.
The 20 finalists, to be announced early in 2017, will compete in Cardiff accompanied by two world-class orchestras, BBC National Orchestra of Wales and Welsh National Opera Orchestra, and two brilliant pianists, Llyr Williams and Simon Lepper in front of a distinguished jury.
The competition begins on Sunday 18 June 2017, taking place in venues across Cardiff culminating at St David’s Hall on Sunday 25 June 2017.
Applications are now open for BBC Cardiff Singer of the World. For further information on how to apply visit: bbc.co.uk/cardiffsinger
For more information and tickets for BBC National Orchestra of Wales, visit bbc.co.uk/bbcnow
JM6
Welsh language version
Nadine Koutcher, enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd 2015 yn dychwelyd i Gymru wrth i gystadleuaeth 2017 gael ei lansio
Wrth i’r gwaith o chwilio am gystadleuwyr ar gyfer cystadleuaeth 2017 gychwyn, bydd enillydd cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2015 yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 17 Mehefin gyda pherfformiad fydd yn cael ei llwyfannu am y tro cyntaf erioed.
Gan ganu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'r Prif Arweinydd Thomas Søndergård, bydd Nadine Koutcher yn perfformio comisiwn newydd gan John Lunn, cyfansoddwr cerddoriaeth y gyfres Downton Abbey. Mae’r gwaith wedi’i gomisiynu’n arbennig gan BBC Radio 3 ar gyfer enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd 2015.
Dywedodd y Soprano Nadine Koutcher: “Roeddwn yn gwbl fud pan glywais fy mod wedi ennill. Roedd yn anrhydedd bod yn rhan o gystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd y llynedd, a pherfformio gyda chantorion mor wych o bob rhan o’r byd. Ers y gystadleuaeth, rwyf wedi cael llawer o sylw, gartref yn Belarus a ledled Ewrop. Rwy’n edrych ymlaen unwaith eto at gael perfformio yng Nghaerdydd.”
Cyn perfformiad Nadine, mae'r broses ymgeisio wedi agor ar gyfer BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017. Yn ystod 32 blynedd y gystadleuaeth, mae wedi lansio gyrfaoedd cantorion uchel eu proffil megis Karita Mattila, Dmitri Hvorostovsky a Bryn Terfel, ac mae wedi dod yn un o’r prif lwyfannau ar gyfer cantorion opera a chyngerdd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd Caerdydd, David Jackson “Mae BBC Canwr y Byd Caerdydd yn fwy na chystadleuaeth - mae’n ddathliad o ganu o’r safon orau. Fe’i darlledir ar deledu a radio'r BBC yn y DU ac, y llynedd, cafodd ei ffrydio ar-lein ar draws y byd am y tro cyntaf, ac mae’n rhoi mynediad i artistiaid ifanc at lwyfan fyd-eang. Mae enillydd y llynedd, Nadine Koutcher, wedi mynd yn ei blaen i ganu Traviata gyda Daniel Barenboim yn Berlin, mae Nico Darmanin yn canu yng nghynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Barbwr Seville y mis hwn ac mae Ilker Arkayurek bellach yn un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3.
Rydym yn falch o’r cyfleoedd y mae BBC Canwr y Byd Caerdydd yn eu cynnig, ochr yn ochr â’r manteision a geir o weithio gyda chyfeilyddion, arweinwyr a cherddorfeydd gwych, hyfforddwyr a noddwr y gystadleuaeth, y Fonesig Kiri Te Kanawa.”
Yn ymuno â'r Fonesig Kiri Te Kanawa fydd Ingrid Surgenor, Lyndon Jones a Nicholas Payne ar gyfer rhan gyntaf proses ymgeisio 2017. Bydd clyweliadau byw yn cael eu cynnal ledled y byd yn ail hanner 2016, gydag Angela Livingstone, Isabel Murphy a Jeremy Caulton yn parhau â’r gwaith o chwilio am yr enillydd nesaf.
Bydd yr 20 a ddewisir, gyda’r enwau’n cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2017, yn cystadlu yng Nghaerdydd gyda dwy gerddorfa flaenllaw; Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru mewn pedwar cyngerdd, gerbron panel arbennig o feirniaid.
Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ddydd Sul 18 Mehefin 2017. Bydd yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ar draws Caerdydd, gyda’r uchafbwynt yn Neuadd Dewi Sant ddydd Sul 25 Mehefin 2017.
Mae ceisiadau gyfer BBC Canwr y Byd Caerdydd yn awr ar agor. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch i: bbc.co.uk/cardiffsinger
I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
JM6