New Welsh music project to continue into 2018

BBC Wales and Arts Council of Wales have confirmed that their partnership new music project Horizons/Gorwelion will continue for an extra year.

Published: 1 December 2016

English Language version

Now entering its fourth year, Horizons will take a new and fresh approach to developing Welsh talent, while consolidating its successes so far. Continuing to support previous Horizons and Launchpad artists, the project will partner more closely with BBC Music Introducing to cast the net even wider. The popular Launchpad fund will also return in 2017.

In previous years, 12 artists have been supported for the year. 2017 will see the project showcase Horizons artists from the past three years, while seeking out Welsh artists who are sending new releases into the BBC Music Introducing Uploader, as well as performing artists showing momentum through touring, releasing and promotion.

It will also bring a range of music and industry experts together to select the most promising artists who will then benefit from Horizons’ festival platforms, including Truck Festival, Liverpool Sound City and Festival No6.

“The selection for 2017 is a fair way to open the door to more opportunities for more artists,” says Bethan Elfyn, who has led Horizons since its inception in 2014.

“Next year, we’re consolidating our work to date by focusing on further developing the first Horizons 36, while also seeking out the best new talent. Horizons has always offered as many ‘guest’ slots as we can to Welsh artists, alongside the 12 selected artists, and we’ll be casting the net as wide as possible to showcase Welsh music at its best at the festivals of 2017.”

Bethan will be taking time out from Horizons with the arrival of her second child. A Project Producer will be appointed to develop Horizons while she’s away.

“It’s great that we’ve been able to double the lifespan of the project from two years to four years,” she says. “We’ve had an overwhelming response, from artists, festival organisers and industry creatives wanting to work with us, and people wanting to hear the music - there’s certainly no shortage of enthusiasm for Horizons. I’d like to thank all the artists we’ve worked with so far, and to the hard working team who have such a passion for music. It’s been a really exciting project to be part of and I’m looking forward to seeing it develop over the next 12 months - albeit from the sidelines!”

Sian Tomos, Director of Enterprise and Regeneration for the Arts Council of Wales adds: “We’re proud to support this amazing programme that seems to find the best of emerging Welsh talent. Every year, Horizons showcases some brilliant artists and assists in the creation of a diverse mix of new music. Watch out for these incredibly talented musicians performing at major events across the UK and beyond.”

Horizons has identified and supported 36 artists to date, through broadcasting from a broad range of events and festivals in Wales and beyond, as well as valuable air time on BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru and network stations BBC Radio 1, 1 Xtra, 6Music and BBC Radio 2. Almost 100 more artists have benefited from the Launchpad Fund, giving them the confidence to take important first steps in their music careers.

The project - which supports and promotes emerging, independent Welsh music talent to new and wider audiences - was originally designed to run for two years from April 2014. It was extended for a third year in 2016, and this extra 12 months will take it to 2018.

EK2

Welsh Language version

PROSIECT CERDDORIAETH GYMREIG NEWYDD I BARHAU YN 2018

Mae BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cadarnhau y bydd y prosiect partneriaeth ar gyfer cerddoriaeth newydd, Gorwelion/Horizons, yn parhau am flwyddyn arall.

A'r prosiect bellach yn bedair oed, bydd Gorwelion yn mynd ati o'r newydd i ddatblygu talentau Cymru, gan atgyfnerthu ei lwyddiannau hyd yma. Bydd y prosiect yn parhau i gefnogi cyn artistiaid Gorwelion a’r Gronfa Lansio, a bydd hefyd yn gweithio’n agosach gyda BBC Music Introducing i fwrw'r rhwyd yn ehangach byth. Bydd y Gronfa Lansio hefyd yn parhau.

Yn flaenorol, mae 12 o artistiaid wedi derbyn cefnogaeth am flwyddyn. Yn 2017, bydd y prosiect yn atgyfnerthu drwy roi sylw i artistiaid Gorwelion o'r tair blynedd diwethaf yn ogystal â chwilio am artistiaid o Gymru sy’n anfon gwaith newydd i Uwchlwythwr BBC Music Introducing ac artistiaid sy’n perfformio, dangos momentwm drwy deithio, rhyddhau a hyrwyddo.

Bydd hefyd yn dod â nifer o arbenigwyr cerddoriaeth a diwydiant at ei gilydd i ddewis yr artistiaid mwyaf addawol. Bydd y rhain wedyn yn elwa o lwyfannau Gorwelion mewn gwyliau gan gynnwys Gŵyl Truck, Liverpool Sound City a Gŵyl Rhif 6.

“Mae’r dewis ar gyfer 2017 yn ffordd deg o agor y drws i ragor o gyfleoedd ar gyfer mwy o artistiaid,” meddai Bethan Elfyn, sydd wedi arwain Gorwelion ers iddo gael ei sefydlu yn 2014.

“Flwyddyn nesaf, byddwn yn atgyfnerthu’r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud hyd yma gan ganolbwyntio ar ddatblygu rhagor ar y 36 artist cyntaf dan brosiect Gorwelion, ond gan barhau i chwilio am y talentau newydd gorau. Mae Gorwelion wedi cynnig cynifer â phosibl o slotiau ‘gwadd’ i artistiaid o Gymru, ochr yn ochr â'r 12 artist sydd wedi cael eu dewis, a byddwn yn bwrw’r rhwyd mor eang â phosibl i ddangos talent gerddorol Cymru ar ei gorau yng ngwyliau 2017.”

Bydd Bethan yn gadael Gorwelion am gyfnod gan yn dilyn genedigaeth ei hail blentyn. Bydd Cynhyrchydd Prosiect yn cael ei benodi i ddatblygu Gorwelion yn y cyfamser.

“Mae’n wych ein bod wedi gallu dyblu oes y prosiect o ddwy flynedd i bedair blynedd,” meddai. “Rydym wedi cael ymateb anhygoel, gan artistiaid, trefnwyr gwyliau a phobl greadigol y diwydiant sy’n awyddus i weithio gyda ni, a phobl sydd am glywed y gerddoriaeth - yn sicr does dim prinder o frwdfrydedd tuag at Gorwelion. Hoffwn ddiolch i'r holl artistiaid rydym wedi gweithio gyda nhw hyd yma, ac i'r tîm hynod weithgar sydd â'r fath angerdd at gerddoriaeth. Mae wedi bod yn brosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn datblygu dros y 12 mis nesaf - er y bydd hynny o’r cyrion!”

Ychwanegodd Sian Tomos, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydym yn falch o gefnogi’r rhaglen anhygoel hwn, sydd yn canfod y gorau o dalent newydd Cymreig. Yn flynyddol, mae Gorwelion yn arddangos artistiaid gwych ac yn cynorthwyo i greu ystod amrywiol o gerddoriaeth newydd. Mae’n werth cadw llygaid ar y cerddorion hynod dalentog yma fydd yn perfformio mewn digwyddiadau ar draws y DU a thu hwnt.”

Mae Gorwelion wedi cefnogi 36 o artistiaid hyd yma, drwy ddarlledu o amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gwyliau yng Nghymru a thu hwnt, yn ogystal ag amser gwerthfawr ar yr awyr ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac ar orsafoedd rhwydwaith BBC Radio 1, 1 Xtra, 6Music a BBC Radio 2. Mae bron i 100 o artistiaid eraill wedi cael budd o’r Gronfa Lansio, gan roi’r hyder iddynt i gymryd y camau cyntaf pwysig hynny yn eu gyrfaoedd cerddoriaeth.

Mae’r prosiect yn cefnogi ac yn hyrwyddo talent cerddoriaeth newydd ac annibynnol o Gymru ymysg cynulleidfaoedd newydd ac ehangach. Y bwriad oedd i'r prosiect redeg am ddwy flynedd o fis Ebrill 2014. Cafodd ei ymestyn am flwyddyn arall yn 2016 a bydd y 12 mis ychwanegol yma yn mynd â ni i 2018.

EK2