Pop-up station trial part of BBC Radio Cymru's new digital developments

BBC Radio Cymru has announced it’s to trial a ‘pop-up radio station’ during the autumn, offering even more choice for listeners.

Published: 17 May 2016

BBC Radio Cymru has announced it’s to trial a ‘pop-up radio station’ during the autumn, offering even more choice for listeners.

The innovative trial service - bursting with music and conversation - will be launched ahead of the station’s 40th anniversary in 2017, as part of Radio Cymru’s wider digital plans. It will be available every weekday morning during the pilot period to listeners online, on Radio Cymru’s website, on the iPlayer Radio app and on DAB radio in South East Wales. The station’s main schedule on FM and DAB is unaffected by the trial service.

Betsan Powys, ’s Editor, says: “We’re very excited about Radio Cymru’s big 40th birthday next year. And as digital platforms develop, it’s important that Radio Cymru exploits all the opportunities they present. The pop-up station will be a three-month trial - enabling listeners to enjoy, discover and take advantage of new technological developments – without alienating Radio Cymru’s faithful listeners. One national service – two choices.

“After three months, we’ll consider the next steps in light of the trial results, technological developments and the reality of the BBC’s financial position.”

As part of the innovative digital developments, Radio Cymru will also offer a new online digital space for its youth audiences, using the C2 brand; a collaboration with partners to find new voices; and utilise the new BBC Music app, which allows users to select their favourite music, including Welsh artists.

Betsan Powys adds: “Other plans include experimenting with a number of new ideas, including partnerships with ‘Prosiect 15’ and ‘Coleg Cymraeg Cenedlaethol’ to attract fresh new voices to the station; as well as developing our collaboration with S4C’s Cyw, in light of the success of Stori Tic Toc for young children. It’s going to be a really busy, exciting and challenging period, which I hope will give our listeners even more compelling content”.

More information about Radio Cymru’s digital plans, including the pop-up station, will be announced over the coming months.

Notes to Editors

The series of digital initiatives includes:

  • A three-month pop-up station during the autumn, offering even more programme choice for listeners
  • For technical reasons, the additional DAB provision is limited to South East Wales
  • Creating new partnerships which build on the existing Radio Cymru school tours
  • Utilising the new BBC Music app, which enables listeners to select their favourite music, including Welsh artists
  • Collaborating with Prosiect 15 (‘one night, five speakers, 15 minutes each') and Coleg Cymraeg Cenedlaethol to attract fresh new voices, to bring a new dimension to the station
  • Experimentation with ‘Unnos’ sessions
  • Streamed events and gigs live on C2’s website and YouTube channel
  • Collaboration with S4C’s Cyw to encourage young children to create a new character for the Stori Tic Toc series on Sunday evenings

SM2

Welsh-language version

BBC RADIO CYMRU I ARBROFI GYDA GORSAF DROS DRO
FEL RHAN O DDATBLYGIADAU DIGIDOL

Ar drothwy cyfnod cyffrous o ddathliadau pen-blwydd, mae BBC Radio Cymru am greu pecyn o ddatblygiadau digidol, gan gynnwys gorsaf dros dro yn ystod tymor yr hydref, fydd yn cynnig hyd yn oed mwy o ddewis rhaglenni i wrandawyr.

Bydd y gwasanaeth arloesol dros dro – yn llawn cerddoriaeth a sgwrs - yn cael ei lansio ar drothwy pen-blwydd Radio Cymru yn ddeugain oed yn 2017, ac yn rhan o gynlluniau ehangach gan yr orsaf i fanteisio ar lwyfannau digidol. Fel rhan o’r cyfnod peilot, bydd yr orsaf dros dro yn darlledu yn ystod bore’r wythnos waith - arlein, ar wefan Radio Cymru, ar yr ap iPlayer Radio drwy Gymru gyfan - ac fel dewis arall ar radio DAB yn y de ddwyrain. Bydd amserlen y brif orsaf yn aros fel ag y mae ar FM a DAB.

Dywed Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Does dim dwywaith fod ’na gyffro ar drothwy’r pen-blwydd mawr yn ddeugain oed. Ac wrth i’r platfformau digidol ddatblygu, mae’n bwysig fod Radio Cymru yn manteisio ac arloesi. Arbrawf tri mis fydd yr orsaf dros dro – i wrandawyr gael mwynhau ac i ni gael dysgu a thrio pethau technegol a chlyfar ond heb ddieithrio gwrandawyr ffyddlon Radio Cymru. Y nod yw cael un gwasanaeth cenedlaethol gyda mwy nag un dewis.

“Wedi’r tri mis, fe fyddwn yn ystyried y camau nesaf yng ngoleuni’r peilot, datblygiadau technegol a realiti ariannol BBC Cymru”.

Fel rhan o’r cynlluniau digidol arloesol bydd Radio Cymru hefyd yn creu gofod newydd arlein sy’n cynnig deunydd Cymraeg i gynulleidfa C2, cydweithio gyda phartneriaid i feithrin lleisiau newydd a manteisio ar ap cerddoriaeth newydd y BBC, sy’n rhoi’r gallu i ddefnyddwyr ddewis eu hoff gerddoriaeth, gan gynnwys artistiaid Cymraeg.

Ategodd Betsan Powys, “Mae’n fwriad gennym hefyd i arbrofi gyda nifer o syniadau yn ystod y cyfnod yma gan gynnwys creu partneriaethau newydd gyda Prosiect 15 a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i feithrin lleisiau all gyflwyno safbwyntiau newydd i’r orsaf yn ogystal ag adeiladu ar ein perthynas gyda chriw Cyw S4C yn sgîl llwyddiant Stori Tic Toc. Felly mae hi’n mynd i fod yn gyfnod prysur a heriol ond un a fydd, gobeithio yn dod â mwy o gynnwys diddorol i’r gwrandawyr.”

Bydd Radio Cymru yn datgelu mwy o fanylion am y cynlluniau digidol gan gynnwys yr orsaf dros dro yn ystod y misoedd nesaf.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r pecyn o ddigwyddiadau digidol yn cynnwys:

  • Arbrawf tri mis i greu gorsaf radio dros dro yn ystod tymor yr hydref, fydd yn cynnig mwy o ddewis rhaglenni i wrandawyr
  • Bydd y dewis DAB ar gael yn y de ddwyrain yn unig am resymau technegol
  • Gweithio ar gynlluniau i greu gofod newydd arlein sy’n cynnig deunydd Cymraeg i gynulleidfa C2
  • Sefydlu partneriaethau newydd sy’n adeiladu ar daith ysgolion Radio Cymru
  • Gwneud yn fawr o ap cerddoriaeth newydd y BBC, sy’n rhoi’r gallu i ddefnyddwyr ddewis eu hoff gerddoriaeth, yn cynnwys artistiaid Cymraeg
  • Cyd-weithio gyda Prosiect 15 (‘1 noson, 5 siaradwr, 15 munud yr un’) a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i feithrin lleisiau all gyflwyno pynciau newydd i’r orsaf
  • Arbrofi gyda’r sesiynau Unnos
  • Ffrydio, neu we-lifo digwyddiadau a chyngherddau’n fyw ar y wefan ac ar Sianel YouTube C2
  • Cydweithio â chriw Cyw S4C i annog gwrandawyr ifanc i greu cymeriad newydd i serennu yn Stori Tic Toc ar nos Sul

SM2