Search for new wave of Horizons talent
BBC Cymru Wales and the Arts Council of Wales today begin the search for new talent to join the Horizons Scheme.

We've loved every minute of Horizons! It's given us the chance to play in some pretty unique places - Laugharne Castle springs to mind - as well as gaining new fans and friends along the way.
Following on from the success of last year’s Horizons project, set up to support and encourage new Welsh musical talent, BBC Cymru Wales and the Arts Council of Wales are looking for 12 new artists to support over the coming year. They’ll be offered a platform at events across Wales and through BBC Wales’ national radio services - BBC Radio Cymru and BBC Radio Wales.
The scheme will showcase the most exciting unsigned acts with the potential to make a real breakthrough in Wales and beyond.
Musicians and bands who want to be considered should send in a recording of their original work, and fill in a form online. Horizons acts will be selected via a panel of music industry and radio music experts.
In 2014, the Horizons scheme helped 12 artists from around Wales in many different ways – from mentoring to showcasing at festivals.
Matthew Frederick, one of the lead vocalists from indie band Climbing Trees - one of the 12 artists to take part in the 2014 Horizons scheme, says: “We've loved every minute of Horizons! It's given us the chance to play in some pretty unique places - Laugharne Castle springs to mind - as well as gaining new fans and friends along the way. It's been great to share the experience with the 11 other artists over the last year, and we really feel like we've grown as a band. In April, it'll be like leaving school when we all go off in our separate directions, but there's always a new crop of bands waiting in the wings - so it's an exciting time to be a part of Horizons, and the Welsh music scene as a whole!”
Steve Austins, Editor of BBC Radio Wales, says: “We’ve seen the Horizons artists grow and develop through the year. We’ve closely followed artists like Houdini Dax in India, Kizzy Crawford at Glastonbury, and heard all 12 in session at Maida Vale, and many more special moments. One of the highlights for me was seeing many of the Horizons 12 steal the show at last year's Dim Sŵn festival. We're looking forward to meeting the next 12 artists.”
Lisa Matthews, Portfolio Manager at the Arts Council of Wales, says: “Horizons has had a significant impact in its first year, and in partnership with BBC Wales we look forward to building on our shared desire to develop the best new music in Wales.”
Betsan Powys, BBC Radio Cymru Editor of Programmes, says: “New music is at the heart of BBC Radio Cymru’s programmes every day, with presenters Huw Stephens, Lisa Gwilym and Georgia Ruth also playing an integral part in the new music scene. I hope that in 2015, the Horizons project will be an opportunity for us to see more Welsh artists, with our support, succeed in Wales and internationally.”
The Horizons acts of 2015 will benefit from,
- specially programmed BBC Radio events, sessions and playlists
- direct contact with a BBC producer overseeing the project
- BBC Maida Vale recording session (the BBC’s legendary London recording studios since 1946)
- promotional tools, including a produced video and a professional photo-shoot
- bespoke mentoring via tailored courses
- national and international musical opportunities
- opportunities to play BBC Cymru Wales events through the year
- nominations through BBC Introducing to play at major events across the UK
The closing date for receiving applications is 9 February, 2015.
The final 12 successful bands will be announced from 6 April 2015 on BBC Radio Wales and BBC Radio Cymru
Notes to Editors
To apply, acts will need to send their music to BBC Wales via the BBC Introducing Uploader at bbc.co.uk/introducing with an accompanying form, available on the Horizons website bbc.co.uk/horizons to horizons@bbc.co.uk
Horizons is a two-year partnership between BBC Cymru Wales and the Arts Council of Wales to develop new music talent and give it a platform to reach audiences.
For information, two Horizons programmes looking back at the highlights of 2014 will be aired on BBC Two Wales on 21 and 28 January at 11:25pm.
CS4
Welsh-language version
CYNLLUN GORWELION YN CHWILIO AM DALENT CERDDOROL NEWYDD
Heddiw, mae BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cychwyn chwilio am dalent newydd ymuno â chynllun Gorwelion.
Yn dilyn llwyddiant cynllun Gorwelion y llynedd, mae BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am 12 artist newydd i’w cefnogi dros y flwyddyn nesaf. Byddant yn cael cyfle i berfformio mewn digwyddiadau ar draws Cymru ac ar orsafoedd radio cenedlaethol BBC Cymru - BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Fe fydd y cynllun yn cefnogi’r artistiaid mwyaf cyffrous, sydd heb arwyddo i label recordio, sydd â’r potensial i dorri tir newydd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae gofyn i gerddorion a grwpiau sydd am gael eu hystyried ddanfon recordiad o’u gwaith gwreiddiol, llun a bywgraffiad byr. Bydd artistiaid Gorwelion yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth radio.
Yn 2014, wnaeth y cynllun Gorwelion helpu 12 artist ar draws Cymru mewn ffyrdd gwahanol – o fentora i berfformio mewn gŵyliau.
Dywedodd Matthew Frederick, un o aelodau’r band indie Climbing Trees wnaeth elwa o’r cynllun yn 2014:
“Ry’n ni wedi caru bob munud o Gorwelion. Mae’r cynllun wedi rhoi’r cyfle i ni chwarae mewn llefydd unigryw iawn – fel Castell Talycharn – ac ennill cefnogwyr a ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae rhannu’r profiad gyda’r un ar ddeg artist arall dros y flwyddyn diwethaf wedi bod yn gret, a ry’n ni wir y teimlo ein bod ni wedi tyfu fel band. Ym mis Ebrill, pan aiff artistiaid Gorwelion eu ffordd eu hunain, bydd yn debyg i adael yr ysgol.Ond, mae yna wastad fandiau newydd yn aros am eu tro nhw – felly mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o Gorwelion, a’r sîn gerddoriaeth.”
Dywedodd Golygydd BBC Radio Wales, Steve Austins:
“Ry’n ni wedi gweld artistiaid Gorwelion yn tyfu ac yn datblygu trwy gydol y flwyddyn. Dilynom ni artistiaid fel Houdini Dax yn India, Kizzy Crawford yn Glastonbury, a chlywed bob un mewn sesiwn yn Maida Vale, a llawer mwy o fomentau arbennig. I mi, un o’r uchafbwyntiau oedd gweld llawer o’r 12 artist o gynllun Gorwelion yn rhagori yng Ngŵyl Dim Sŵn llynedd. ”
Dywedodd Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Yn ei flwyddyn gyntaf, mae cynllun Gorwelion wedi cael effaith sylweddol, ac rydym yn edrych ymlaen i weithio mewn partneriaeth gyda BBC Cymru ar ein gweledigaeth i ddatblygu y gerddoriaeth newydd gorau yng Nghymru.”
Dywedodd Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru, Betsan Powys:
“Mae cerddoriaeth newydd wrth galon rhaglenni BBC Radio Cymru bob dydd, gyda chyflwynwyr fel Huw Stephens, Lisa Gwilym a Georgia Ruth hefyd yn chwarae rhan greiddiol yn y sîn gerddoriaeth gyfoes. Gobeithio bydd prosiect Gorwelion 2015 yn gyfle i ni weld mwy o artistiaid Cymraeg, gyda’n cefnogaeth ni, yn llwyddo yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”
Fe fydd artistiaid Gorwelion yn 2014 yn elwa o:
- gynllun arbennig o weithgareddau radio ar y BBC, fel sesiynau, a rhestrau chwarae;
- cyswllt uniongyrchol gyda chynhyrchydd BBC sy’n goruchwylio’r cynllun;
- sesiwn recordio yn BBC Maida Vale (stiwdio recordio’r BBC yn Llundain ers 1946);
- offer hyrwyddo gan gynnwys cynhyrchu fideo a lluniau proffesiynol;
- cynllun mentora arbennig a chyrsiau hyfforddi;
- cyfleoedd cerddorol cenedlaethol a rhyngwladol;
- cyfle i chwarae yn nigwyddiadau BBC Cymru drwy gydol y flwyddyn,
- enwebiadau trwy BBC Introducing i chwarae mewn digwyddiadau mawr ledled Prydain.
Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 9 Chwefror, 2015.
Fe fydd y 12 llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar 6 Ebrill, 2015 ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.
Nodyn i Olygyddion
I wneud cais, mae gofyn i’r cerddorion anfon eu cerddoriaeth at BBC Cymru trwy’r BBC Introducing Uploader bbc.co.uk/introducing gydag e-bost, llun a bywgraffiad at gorwelion@bbc.co.uk yn dweud pam y dylen nhw gael eu hystyried ar gyfer Gorwelion.
Mae Gorwelion yn bartneriaeth newydd dwy flynedd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu talent cerddorol newydd ac i roi llwyfan i gyrraedd cynulleidfaoedd.
Er gwybodaeth, bydd dau rhaglen Gorwelion, a fydd yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau 2014 yn cael eu darlledu ar BBC Two Wales ar y 21 a’r 28 Ionawr am 11.25pm.
CS4