BBC NOW appoints Xian Zhang as Principal Guest Conductor
BBC National Orchestra & Chorus of Wales today announce that the conductor Xian Zhang has been appointed as Principal Guest Conductor, with effect from 1 September 2016, for an initial three year period.

I’m so excited to be working with BBC National Orchestra of Wales; they are a fantastic group of musicians who genuinely love making music
English Language Version
Xian Zhang says: “I’m so excited to be working with BBC National Orchestra of Wales; they are a fantastic group of musicians who genuinely love making music, and are a natural team. They have some exceptional qualities that have really impressed me. The first thing we ever worked on together was Ravel’s Bolero, it was so precise, with the right colour and texture - I was really speechless after the first reading! Under the strong leadership of Lesley Hatfield, the musicians rehearse in such a disciplined manner that is not often seen. It's a great pleasure to make music with them and I very much look forward to further developing our relationship in my new role with BBC NOW.”
Michael Garvey, Director, BBC NOW comments: ‘“I am thrilled to be welcoming Xian Zhang to the BBC NOW family as Principal Guest Conductor - bringing yet another exceptional artist to work with us, continuing our commitment to artistic excellence across Wales and further afield. Our recent concerts with her, in Swansea and the BBC Proms, were so energised, balanced and refined; we knew that an appointment would be the perfect fit. We look forward to seeing her back in Cardiff in September.”
During Zhang’s three-year appointment, she will conduct the orchestra in annual concerts at BBC Hoddinott Hall, St David’s Hall and Brangwyn Hall, with repertoire featuring Tchaikovsky, Shostakovich, Rimsky Korsakov and Berlioz in her first season. BBC NOW will also perform at the BBC Proms under Zhang’s baton during her tenure and embark on an ‘On the road’ tour around Wales.
On 27 Sept 2016 Zhang conducts her inaugural concert at BBC Hoddinott Hall in Cardiff, with a programme featuring Tchaikovsky’s Symphony No 4 and Barber’s Violin Concerto, with Chloë Hanslip as soloist. Further highlights of Zhang’s 2016-2017 season include a performance at a prominent welsh music festival and a collaboration with Chinese composer Qigang Chen.
Proms history was made when Marin Alsop became the first woman to conduct the world famous Last Night of the Proms in 2013, and there is a growing wealth of female conductors regularly performing at the BBC Proms and working with the BBC’s orchestras. Xian Zhang will be the first female conductor to have a titled role with a BBC orchestra when she becomes BBC NOW’s Principal Guest Conductor next year.
Rhodri Talfan Davies, Director, BBC Wales, comments: ‘“BBC NOW have had an incredible year, and to top it off we are now announcing this exciting appointment. I’m confident that alongside Principal Conductor Thomas Søndergård, and our dedicated musicians, Xian’s creative input will ensure many more memorable moments in the coming seasons.”
Alan Davey, Controller, BBC Radio 3 says: “Following her stunning performance at this year’s BBC Proms in July, I’m delighted we have booked Xian Zhang for BBC NOW. She is a talented conductor who can bring her passion to bear at an artistically exciting time for the orchestra. The BBC Performing groups are in rude health and their role in the BBC Radio 3 family is essential, where they form the backbone of our concert broadcasts. I’d like to welcome Xian Zhang, and look forward to hearing her first BBC NOW concerts with us.”
Born in Dandong, China, Xian Zhang made her professional debut conducting The Marriage of Figaro at the Central Opera House in Beijing at the age of 20. She trained at Beijing’s Central Conservatory, earning both Bachelor and Master of Music degrees before moving to the United States in 1998. She was appointed the New York Philharmonic’s Assistant Conductor in 2002, subsequently becoming their Associate Conductor and the first holder of the Arturo Toscanini Chair. Zhang has served as Music Director of the Orchestra Sinfonica di Milano Giuseppe Verdi since September 2009 and has recently been announced as the next Music Director of New Jersey Symphony Orchestra.
A regular conductor with the London Symphony and Royal Concertgebouw orchestras, Zhang’s recent highlights include her return to the BBC Proms with BBC NOW, as well as performances with the Rotterdam Philharmonic and Gothenburg Symphony orchestras. This season, she debuts with the Orchestre Philharmonique de Strasbourg and Orquesta y Coro Nacionales de España, and she returns to the Netherlands Radio Philharmonic and Orchestre National de Belgique. Zhang continues to work frequently in North America; recent performances have included a week of Chinese New Year concerts with the Los Angeles Philharmonic.
This season’s operatic performances include a return to English National Opera for La bohème and her debut with Den Norske Opera conducting La traviata in January. Following Zhang’s hugely successful production of Nabucco with Welsh National Opera in June 2014, which subsequently transferred to the Savonlinna Festival, she returns to the festival in summer 2016 to conduct Otello, marking her debut with the opera company itself.
Zhang frequently returns to her native China, where she is a regular conductor with the China Philharmonic, Beijing Symphony and Guangzhou Symphony and is a champion for Chinese composers. Working with young talented musicians continues to play a major part in Zhang’s life. She has held the position of Artistic Director of the NJO, Dutch Orchestra and Ensemble Academy since 2011, and this summer, she made a hugely successful debut with the European Union Youth Orchestra, conducting them in Grafenegg, Amsterdam, Berlin, Rheingau and Bolzano.
jo.marriott@bbc.co.uk
Welsh Language Version
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn penodi Xian Zhang fel Prif Arweinydd Gwadd
Heddiw, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi cyhoeddi bod yr arweinydd Xian Zhang wedi cael ei phenodi’n Brif Arweinydd Gwadd, a bydd yn dechrau ar y gwaith o 1 Medi 2016 ymlaen am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.
Dywedodd Xian Zhang: “Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; maen nhw’n griw o gerddorion anhygoel sydd wir yn mwynhau creu cerddoriaeth ac maen nhw’n dîm naturiol. Mae ganddyn nhw nodweddion rhagorol sydd wedi creu argraff arnaf i. Y darn cyntaf erioed i ni weithio arno gyda’n gilydd oedd Bolero Ravel, roedd eu perfformiad mor gywrain, gyda’r lliw a’r gwead cywir - roeddwn i’n gegrwth ar ôl y darlleniad cyntaf! Dan arweiniad cadarn Lesley Hatfield, mae’r cerddorion yn ymarfer gyda’r fath ddisgyblaeth na welir yn aml. Mae’n bleser creu cerddoriaeth gyda nhw ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu ein perthynas ymhellach yn fy rôl newydd gyda BBC NOW.”
Dywedodd Michael Garvey, Cyfarwyddwr BBC NOW: “Rydw i’n falch iawn o gael croesawu Xian Zhang i deulu BBC NOW fel y Prif Arweinydd Gwadd – a fydd yn golygu ein bod yn dod ag artist eithriadol arall i gydweithio â ni, gan barhau â’n hymrwymiad i sicrhau rhagoriaeth artistig yng Nghymru a thu hwnt. Roedd ein cyngherddau diweddar gyda hi, yn Abertawe ac ym Mhroms y BBC, mor egnïol a chytbwys a choeth; roedden ni’n gwybod y byddai’n arweinydd perffaith i’w phenodi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ei chroesawu’n ôl i Gaerdydd fis Medi.”
Yn ystod penodiad tair blynedd Zhang, bydd yn arwain y gerddorfa mewn cyngherddau blynyddol yn Neuadd Hoddinott y BBC, yn Neuadd Dewi Sant ac yn Neuadd Brangwyn, gyda repertoire a fydd yn cynnwys gweithiau gan Tchaikovsky, Shostakovich, Rimsky Korsakov a Berlioz yn ei thymor cyntaf. Hefyd, bydd BBC NOW yn perfformio dan arweiniad Zhang ym Mhroms y BBC yn ystod ei deiliadaeth, ac yn mynd ar daith ‘Ar y ffordd’ o amgylch Cymru.
Ar 27 Medi 2016, bydd Zhang yn arwain ei chyngerdd agoriadol yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghaerdydd gyda rhaglen yn cynnwys Symffoni Rhif 4 Tchaikovsky a Choncerto i’r Ffidil Barber, gyda Chloë Hanslip fel unawdydd. Bydd uchafbwyntiau eraill Zhang yn nhymor 2016-2017 yn cynnwys perfformiad mewn gŵyl gerddoriaeth enwog yng Nghymru a gweithio ar y cyd gyda’r cyfansoddwr o Tsieina, Qigang Chen.
Cafwyd achlysur hanesyddol yn 2013 pan arweiniwyd y cyngerdd byd-enwog, Noson Olaf y Proms, gan Marin Alsop, sef y fenyw gyntaf erioed i wneud hynny, ac mae ei phenodiad wedi esgor ar gynnydd yn y cyfoeth o arweinyddion benywaidd sy’n perfformio’n rheolaidd ym Mhroms y BBC ac yn gweithio gyda Cherddorfeydd y BBC. Zhang fydd yr arweinydd benywaidd cyntaf i gael rôl â theitl arni gyda Cherddorfa’r BBC pan fydd yn cychwyn fel Prif Arweinydd Gwadd BBC NOW y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Wales: “Mae BBC NOW wedi cael blwyddyn ardderchog ac, yn goron ar y cyfan, rydyn ni’n cyhoeddi’r penodiad cyffrous hwn. Rydw i’n hyderus y bydd mewnbwn creadigol Xian, ochr yn ochr â’r Prif Arweinydd Thomas Søndergård a’n cerddorion ymroddedig, yn sicr o greu llawer mwy o ddigwyddiadau cofiadwy yn y tymhorau sydd i ddod.”
Dywedodd Alan Davey, Rheolydd, BBC Radio 3: “Yn dilyn ei pherfformiad trawiadol ym Mhroms y BBC fis Gorffennaf eleni, rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi penodi Xian Zhang ar gyfer BBC NOW. Mae’n arweinydd talentog sy’n gallu defnyddio ei hangerdd i greu cyfnod cyffrous o ran celfyddyd i’r gerddorfa. Mae Grwpiau Perfformio’r BBC yn gadarn ac mae eu rôl yn nheulu BBC Radio 3 yn hanfodol, gan mai nhw yw asgwrn cefn ein darllediadau o gyngherddau. Hoffwn groesawu Xian Zhang, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed ei chyngherddau cyntaf gyda ni yn BBC NOW.”
Ganwyd Xing Zhang yn Dandong, Tsieina, ac arweiniodd yn broffesiynol am y tro cyntaf yn arwain The Marriage of Figaro yn y Tŷ Opera Canolog yn Beijing pan oedd hi’n 20 oed. Cafodd ei hyfforddi yn y Central Conservatory yn Beijing, ac enillodd radd Baglor a Gradd Meistr mewn cerddoriaeth cyn symud ymlaen i’r Unol Daleithiau yn 1998. Cafodd ei phenodi’n Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn 2002, a daeth yn Gyd-arweinydd arni ar ôl hynny, ac yn ddeilydd cyntaf Cadair Arturo Toscanini. Mae Zhang wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth gydag Orchestra Sinfonica di Milano Giuseppe Verdi ers mis Medi 2009 a chyhoeddwyd yn ddiweddar mai hi fydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth nesaf Cerddorfa Symffonig New Jersey.
Mae Zhang wedi arwain Cerddorfa Symffonig Llundain a Cherddorfa Frenhinol Concertgebouw yn rheolaidd, ac mae ei huchafbwyntiau diweddaraf yn cynnwys dychwelyd i Broms y BBC gyda BBC NOW, yn ogystal â pherfformiadau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Rotterdam a Cherddorfa Symffonig Gothenburg. Y tymor hwn, bydd yn arwain am y tro cyntaf gydag Orchestre Philharmonique de Strasbourg ac Orquesta y Coro Nacionales de España, a bydd yn dychwelyd at Gerddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd ac Orchestre National de Belgique. Mae Zhang yn dal i weithio yng Ngogledd America yn gyson; yn ddiweddar mae hi wedi arwain perfformiadau sy’n cynnwys wythnos o gyngherddau’r Flwyddyn Newydd Tsieinïaidd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles. Bydd perfformiadau operatig Zhang y tymor hwn yn cynnwys dychweliad Opera Genedlaethol Lloegr i berfformio La bohème a’i hymddangosiad cyntaf gyda Den Norske Opera yn arwain La traviata fis Ionawr. Yn dilyn cynhyrchiad llwyddiannus Zhang o Nabucco gydag Opera Genedlaethol Cymru fis Mehefin 2014, a gafodd ei pherfformio yng Ngŵyl Savonlinna ar ôl hynny, bydd hi’n dychwelyd i’r ŵyl yn ystod tymor yr haf 2016 i arwain Otello, yn ei hymddangosiad cyntaf gyda’r cwmni opera ei hun.
Mae Zhang yn dychwelyd i’w mamwlad yn Tsieina yn aml, lle mae’n arwain Cerddorfa Ffilharmonig Tsieina, Cerddorfa Symffonig Beijing a Cherddorfa Symffonig Guangzhou yn rheolaidd ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr o Tsieina. Mae cydweithio â cherddorion ifanc talentog yn rhan fawr o fywyd Zhang o hyd. Mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig yr NJO, Academi Cerddorfa ac Ensemble yr Iseldiroedd, ers 2011, ac yn ystod yr haf hwn bu’n arwain Cerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd am y tro cyntaf. Roedd ei pherfformiadau gyda nhw yn Grafenegg, Amsterdam, Berlin, Rheingau a Bolzano yn llwyddiant ysgubol.
jo.marriott@bbc.co.uk