Looking forward to a big summer on BBC Radio Cymru
BBC Radio Cymru is sure to make a big impact across Wales over the summer this year as the station's presenters visit various events and shows. Along with a unique radio set - the station’s Giant Radio - it’s sure to grab people’s attention.

I'm looking forward to the Big Day - meeting some of the listeners and, hopefully, getting new people to listen too.
The Giant Radio has already made an impression in new TV trailers running currently on BBC One and Two in Wales, with presenters Tommo in Carmarthen, Tudur Owen in Aberffraw on Anglesey, and Dylan Jones and Shân Cothi on the Maes in Caernarfon.
To give listeners a preview of the stories, events and festivals Radio Cymru will be covering over the Big Summer, the station has also planned a very special day - the Big Day of Summer - this Friday, 20 June, with a full day of programmes broadcast live from various locations.
BBC Radio Cymru’s Big Day of Summer schedule:
8am - Dylan Jones’s programme from Caffi Contessa in Llanrwst
10am - Bore Cothi with Shân Cothi at Caffi’r Hedyn Mwstard, Lampeter
12pm - O’r Bae with Vaughan Roderick at the Senedd in Cardiff Bay
1pm - Taro’r Post with Garry Owen, National Waterfront Museum, Swansea
2pm - Tudur Owen at Y Gell, Blaenau Ffestiniog
6.45pm - C2: Geth a Ger also at Y Gell, Blaenau Ffestiniog
A host of special guests and interviews will be featured on the programmes throughout the day, including performances by Gwibdaith Hen Frân and Ywain Gwynedd from Blaenau Ffestiniog. Tommo will be in Porthmadog during the day before joining Tudur Owen on air, and Geraint Lloyd will be joining Shân Cothi in Lampeter in the morning, before traveling north, gathering interviews along the way, and closing the day with his programme from the studio in Bangor.
A special competition will be held on the day, with a Digital/FM radio set (normal sized) as a prize to one lucky winner who follows the clues on air and on social media websites and manages to name the location where the big radio visits that day.
Shân Cothi, one of the day’s presenters, says: “I'm looking forward to the Big Day - meeting some of the listeners and, hopefully, getting new people to listen too. It is a great opportunity for everyone to get a flavour of Radio Cymru’s programmes, and when could be better to look forward to the summer than the day before the Summer Solstice? There’ll be a warm welcome for everyone to come and join us in Lampeter and to share in the summer fun on Radio Cymru!”
During the Big Summer, Radio Cymru will be travelling to venues and events across Wales, including the Top of Town Festival in Ruthin, Tafwyl in Cardiff, the Royal Welsh Show in Llanelwedd, the Machynlleth Carnival, Llanelli for the National Eisteddfod in Carmarthenshire, the Anglesey Show and many others. The Giant Radio will also be on the road, of course, giving people an opportunity to listen to Radio Cymru, to take selfies and join in the fun on-line on social media sites using the hashtags #RadioFAWR and #HafMAWR.
For more information about the season, visit the BBC Radio Cymru website - bbc.co.uk/radiocymru - or follow BBC Radio Cymru on Facebook and Twitter (@BBCRadioCymru).
MCR
Welsh-language version
EDRYCH YMLAEN AT HAF MAWR BBC RADIO CYMRU
Bydd BBC Radio Cymru yn siwr o wneud argraff fawr ar hyd a lled Cymru dros fisoedd yr Haf eleni wrth i gyflwynwyr yr orsaf ymweld â digwyddiadau a sioeau di-ri - ac yn gefn iddyn nhw bydd set radio unigryw - y Radio Fawr - fydd yn siwr o ddenu sylw i’r orsaf genedlaethol.
Mae’r Radio Fawr eisoes wedi denu sylw mewn ffilmiau hyrwyddo newydd sydd i’w gweld ar hyn o bryd ar sianelau teledu’r BBC yng Nghymru, gan ddangos y cyflwynwyr Tommo yng Nghaerfyrddin, Tudur Owen yn Aberffraw, Ynys Môn, a Dylan Jones a Shân Cothi ar y Maes yng Nghaernarfon.
Er mwyn rhoi rhagflas i wrandawyr o’r straeon, digwyddiadau a’r gwyliau y bydd Radio Cymru’n eu hadlewyrchu dros yr Haf Mawr, bydd yr orsaf yn cynnal diwrnod arbennig iawn - Diwrnod Mawr yr Haf - ddydd Gwener, Mehefin 20fed, gyda rhaglenni o fore gwyn tan nos yn cael eu darlledu’n fyw o leoliadau amrywiol.
Amserlen Diwrnod Mawr yr Haf, BBC Radio Cymru:
8am - Rhaglen Dylan Jones yng Nghaffi Contessa, Llanrwst
10am - Bore Cothi gyda Shân Cothi yng Nghaffi’r Hedyn Mwstard, Llanbedr Pont Steffan
12pm - O’r Bae gyda Vaughan Roderick ar y Balconi yn y Cynulliad, Bae Caerdydd
1pm - Taro’r Post gyda Garry Owen yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
2pm - Tudur Owen yn Y Gell, Blaenau Ffestiniog
6.45pm - C2: Geth a Ger hefyd yn Y Gell, Blaenau Ffestiniog
Bydd llu o eitemau difyr a gwesteion arbennig ar y rhaglenni drwy gydol y dydd, gan gynnwys perfformiadau gan Gwibdaith Hen Frân ac Yws Gwynedd yn y rhaglenni o Flaenau Ffestiniog. Ym Mhorthmadog bydd Tommo yn treulio’r diwrnod, cyn ymuno â’r criw ar raglen Tudur Owen, a bydd Geraint Lloyd yn ymuno gyda Shân Cothi yn Llambed yn y bore, cyn teithio i fyny i’r gogledd, gan gasglu cyfweliadau ar y ffordd, a chloi darlledu’r Diwrnod Mawr gyda’i raglen o’r stiwdio ym Mangor.
Bydd cystadleuaeth arbennig yn cael ei chynnal ar y diwrnod, gyda set radio FM a digidol (o faint arferol) yn wobr i un enillydd lwcus sy’n dilyn y cliwiau ar yr awyr, ar y we ac ar wefannau cymdeithasol ac yn llwyddo i enwi’r lleoliad lle bydd y radio fawr y diwrnod hwnnw.
Dywedodd Shân Cothi: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y Diwrnod Mawr ac i gwrdd â rhai o’r gwrandawyr a, gobeithio hefyd, denu pobl newydd i wrando. Mae’n gyfle gwych i bawb gael blas ar raglenni Radio Cymru a pha bryd sy’n well i gyflwyno’r Haf Mawr na’r diwrnod cyn hirddydd haf? Mae croeso mawr i bawb ddod atom ni yn Llambed i rannu yn hwyl yr haf ar Radio Cymru!”
Yn ystod yr Haf Mawr fe fydd Radio Cymru yn teithio i leoliadau a digwyddiadau dros Gymru gan gynnwys Gŵyl Top Dre yn Rhuthun, Tafwyl yng Nghaerdydd, y Sioe Fawr yn Llanelwedd, Carnifal Machynlleth, Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn Llanelli, Sioe Môn ac eraill. Bydd y Radio Fawr yn teithio o gwmpas hefyd wrth gwrs, yn rhoi cyfle i bobl i wrando ar Radio Cymru ac i dynnu lluniau ohonyn nhw eu hunain ac ymuno yn yr hwyl ar-lein trwy ddefnyddio’r hashnod #HafMAWR a #RadioFAWR ar gyfryngau cymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth am y tymor, ewch i safle BBC Radio Cymru - bbc.co.uk/radiocymru - neu dilynwch BBC Radio Cymru ar Facebook a Twitter (@BBCRadioCymru).
MCR