BBC Wales Sports Unsung Hero 2014 winner announced
Bill Marlow has won the BBC Wales Sports Unsung Hero 2014 this year for his work with Mid Wales Orienteering Club.

Bill, a former teacher living in Newtown, has been involved with the club for 24 years. His work involves all aspects of organising, promoting and planning orienteering events at club and school level. Bill liaises with Community Sport Development Officers and local schools and last year saw 1,200 pupils taking part in his activities. The hours he spends at the club are all voluntary and over the years he has taken on many different responsibilities. Working with 42 schools in the area, Bill’s main focus is giving children and other members of the community the option of taking part in a competitive and low cost sport.
Mid Wales Orienteering Club is an organisation that provides access to orienteering to people of all ages and levels of ability. Established in 1989, the club covers the areas of North Ceredigion and Powys and provides events and activities throughout the year.
Gabriella Walsh, Mid Wales Orienteering Club Chairperson says:
“It’s lovely to see Bill recognised. He’s one of those people who work hard behind the scenes, giving hours and hours of his time voluntarily. Bill has put in so much effort over the years and done so many different roles at the club. Orienteering wouldn’t work without a team, but Bill has been at the forefront of developing the club and has successfully applied for a number of grants that have been essential to the provision of orienteering opportunities. ”
Bill himself was shocked to win, or even be nominated:
"I had no idea I’d won but it’s awesome, it really is. Orienteering is a family sport open to anyone from five year olds to 80 year olds! And it’s a sport that’s as competitive as you want to make it. It’s just lovely for this lesser known sport and our club be recognised like this. I love orienteering and want others to enjoy it."
Geoff Williams, Head of Sport, BBC Wales says:
“Bill is an inspirational example of how individuals can, through sport and physical activity, change and influence people’s lives for the better.”
Bill will be recognised at the 2014 Wales Sport Awards on Monday, December 8, at the Sport Wales National Centre in Cardiff. He will then compete against other Unsung Heroes from Northern Ireland, Scotland and English regions for the BBC Sports Unsung Hero at the BBC Sports Personality of the Year event in Glasgow on December 14.
Last year’s overall winners were Joe and Maggie Forbers from Greater Manchester Community Basketball Club who were awarded for their work promoting basketball in the city.
The BBC Sports Unsung Hero Award recognises and rewards outstanding contribution by individuals at the grassroots level of local sport, who give up their time on a voluntary basis so that sport can be played and enjoyed by people throughout the UK. Over 150 Unsung Heroes have been honoured over the last decade.
SG
CYHOEDDI ENILLYDD ARWR TAWEL CHWARAEON BBC CYMRU 2014
Mae Bill Marlow wedi ennill gwobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru eleni am ei waith gyda Chlwb Cyfeiriannu Canolbarth Cymru.
Mae Bill, cyn-athro sy’n byw yn Y Drenewydd, wedi bod yn rhan o’r clwb ers 24 mlynedd. Ef sy’n gyfrifol am drefnu, cynllunio a hyrwyddo’r holl ddigwyddiadau cyfeiriannu ar lefel clwb ac ysgol. Mae Bill yn cysylltu ag ysgolion lleol a Swyddogion Datblygu Chwaraeon Cymunedol, a’r llynedd fe welwyd 1,200 o ddisgyblion yn chwarae rhan yn ei weithgareddau. Mae ei gyfrifoldebau wedi ehangu dros y blynyddoedd ac mae’r oriau y mae yn eu treulio yn y clwb i gyd yn wirfoddol. Tra’n gweithio gyda 42 ysgol yn yr ardal, prif ffocws Bill yw rhoi’r opsiwn i blant a phobl eraill yn y gymuned gymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n rhad ac yn gystadleuol.
Mae Clwb Cyfeiriannu Canolbarth Cymru yn darparu mynediad i bobl o bob oed a lefel i gyfeiriannu. Sefydlwyd ym 1989, ac mae’r clwb yn darparu digwyddiadau a gweithgareddau drwy’r flwyddyn yn ardaloedd gogledd Ceredigion a Phowys.
Dywedodd Gabrielle Walsh, Cadeirydd Clwb Cyfeiriannu Canolbarth Cymru:
“Mae’n hyfryd gweld Bill yn cael ei gydnabod. Mae o’n un o’r bobl yna sy’n gweithio’n galed tu ôl i’r llenni, gan roi oriau ac oriau o’i amser yn wirfoddol. Mae Bill wedi gwneud cymaint o ymdrech dros y blynyddoedd ac wedi cyflawni llawer o ddyletswyddau gwahanol yn y clwb.Byddai cyfeiriannu ddim yn gweithio heb dîm, ond mae Bill wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu’r clwb ac wedi gwneud nifer o geisiadau llwyddiannus am grantiau sydd wedi bod yn allweddol wrth ddarparu cyfleoedd i gyfeiriannu.”
Roedd Bill ei hun wedi syfrdanu pan gafodd wybod ei fod wedi ennill:
“Doedd gen i ddim syniad fy mod i wedi ennill, mae o’n anhygoel, yn wir. Mae cyfeiriannu yn weithgaredd chwaraeon i’r teulu oll ac yn agored i unrhyw un o bump oed i 80 oed! Ac mae o mor gystadleuol ag yr hoffai pobl iddo fod. Mae’n hyfryd bod y clwb a’r gamp, sydd ddim yn adnabyddus iawn, yn cael cydnabyddiaeth fel hyn. Dwi’n caru cyfeiriannu ac eisiau i eraill ei fwynhau.”
Meddai Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru:
“Mae Bill yn enghraifft ysbrydoledig o sut y gall unigolion, drwy chwaraeon a gweithgareddau corfforol, newid a dylanwadu er gwell ar fywydau pobl.”
Bydd Bill yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2014 ddydd Llun, Rhagfyr 8, yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Bydd wedyn yn cystadlu yn erbyn enillwyr eraill gwobr Arwyr Tawel o Ogledd Iwerddon, yr Alban a rhanbarthau Lloegr am wobr Arwr Tawel Chwaraeon y BBC yn nigwyddiad BBC Sports Personality of the Year yn Glasgow ar Ragfyr 14.
Prif enillwyr y llynedd oedd Joe a Maggie Forbers o’r Greater Manchester Community Basketball Club am eu gwaith yn hyrwyddo pêl-fasged yn y ddinas.
Mae Gwobr Arwr Tawel Chwaraeon y BBC yn cydnabod ac yn gwobrwyo cyfraniad neilltuol gan unigolion at chwaraeon lleol ar lawr gwlad, sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol fel y gall chwaraeon gael eu chwarae a’u mwynhau gan bobl ym mhob rhan o’r DU. Mae dros 150 o Arwyr Tawel wedi cael eu hanrhydeddu yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
SG