
Mae hwn yn ddigwyddiad mor bwysig i’n cynulleidfaoedd yng Nghymru a dyna pam rydym yn parhau i ddarlledu dros 40 awr o gynnwys o’r sioe drwy gydol yr wythnos, yn ogystal â sicrhau digonedd o gynnwys ar-lein. Mae’n ddigwyddiad gwerthfawr o ran cyfleu hanfod bywyd gwledig yng Nghymru, yn ogystal â datblygiadau yn ein sector cynhyrchu bwyd critigol.
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer ei digwyddiad amaethyddol mwyaf – Sioe Frenhinol Cymru – bydd BBC Cymru Wales yn darlledu dros 40 awr o sylw ar yr awyr o’r sioe, yn ogystal â digon o gynnwys ar-lein.
Bydd y digwyddiad pedwar diwrnod blynyddol, a gynhelir eleni rhwng dydd Llun 22 Gorffennaf a dydd Iau 25 Gorffennaf yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, yn gweld BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, BBC Wales News Online a BBC Cymru Fyw yn rhoi blas ar weithgareddau’r wythnos. Bydd gweithgareddau ychwanegol hefyd ar gyfer ymwelwyr â maes y sioe ym Mhafiliwn y BBC, gyferbyn â’r brif gylch, ac ar Lwyfan Gwledd ym Mhentref Bwyd Cymru.
c Bydd ein gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein yn darparu llwyfan ar gyfer trafod a myfyrio, yn ogystal â dathlu goreuon byd amaeth Cymru. Ynghyd â gweithgareddau o Bafiliwn y BBC, gyferbyn â’r brif gylch, bydd y BBC yn cynnig digon i ymwelwyr y sioe ei fwynhau.”
Newyddion
Bydd BBC Wales Today yn darlledu o Lanelwedd bob nos, gyda rhaglen arbennig Wales Today o Sioe Frenhinol Cymru hefyd yn darlledu am 8pm ddydd Iau 25 Gorffennaf.
Bydd BBC Wales News ar-lein a BBC Cymru Fyw hefyd yn darparu darllediadau o gae’r sioe drwy gydol yr wythnos.
Radio
Bydd BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn darlledu’n fyw o’r digwyddiad yn ystod yr wythnos.
Bydd BBC Radio Wales Breakfast (7-9am) yn cynnwys clipiau o faes y sioe bob bore, gyda Sesiwn Ffonio i Mewn Radio Wales (12-2pm) hefyd yn dod yn fyw o’r sioe ddydd Llun. Bydd cynnwys ychwanegol yn rhaglen Radio Wales Drive bob nos o’r sioe.
Bydd Dros Frecwast BBC Radio Cymru yn darlledu’n fyw bob bore (7-9am), ac yna bydd Shân Cothi yn crwydro’r maes gyda'i rhaglen Bore Cothi bob dydd rhwng 11am ac 1pm. Hefyd yn cael ei gyflwyno o Lanelwedd fydd Post Prynhawn (5-6pm) ddydd Llun, Dros Ginio (1-2pm) ddydd Mawrth a Troi’r Tir (6-7pm) o ddydd Llun i ddydd Mercher.
Bydd y ddwy orsaf hefyd yn bresennol ar y Llwyfan Gwledd ym Mhentref Bwyd Cymru. Bydd Wynne Evans yn cyflwyno ei sioe Radio Wales (9am-12pm) drwy’r wythnos, gyda chyflwynydd Saturday Kitchen, Matt Tebbutt, yn ymuno fel gohebydd gwadd arbennig ar y dydd Llun. Rhwng 2 a 5pm bob dydd, bydd Tudur Owen o Radio Cymru yn cyflwyno ei sioe ei hun o'r Llwyfan Gwledd.
Gall cefnogwyr Plotcast Terry Walton ar BBC Sounds gael cipolwg ar yr arbenigwr garddio ar gyfer sesiwn unigryw yn y Geo Dome ym Mhentref Garddwriaethol newydd y Sioe ddydd Iau o 1pm.
Ac o’r Geo Dome ddydd Mercher (2-3pm), bydd rhaglen BBC Radio 4 Farming Today yn cynnal recordiad arbennig o’u sioe.
Pafiliwn y BBC
Bydd Pafiliwn y BBC, gyferbyn â’r brif gylch, yn agored i’r cyhoedd ac yn cynnwys nifer o weithgareddau i’r rheini sy’n ymweld â Sioe Frenhinol Cymru gymryd rhan ynddynt. Gall aelodau o’r cyhoedd ddod yn gydymaith i'r Doctor, mewn bwth fideo a sgrin werdd, lle byddant yn ymgeisio i helpu’r Teithiwr Amser i achub y byd. Bydd perfformiad pob person yn cael ei recordio, a bydd y fideo’n cael ei anfon atynt drwy e-bost neu neges destun.
Gall ymwelwyr hefyd ymgolli yn un o ystafelloedd BBC Sounds sy’n dangos podlediadau, cyflwynwyr a chod QR i lwytho ap BBC Sounds i lawr. Bydd yr un ystafell yn cynnwys disgo distaw gydag amrywiaeth o restrau chwarae i ddewis ohonynt. Gall ymwelwyr hefyd ddysgu am yr uchafbwyntiau ffeithiol a drama diweddaraf ar iPlayer a dysgu mwy am brosiectau elusennol BBC Plant Mewn Angen yn eu hardal.
Gorwelion
Bydd Gorwelion/Horizons, y prosiect sy’n cael ei ariannu gan BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn cyflwyno sesiynau bob dydd gan amrywiaeth o artistiaid, yn fyw o Lwyfan Gwledd ym Mhentref Bwyd Cymru, gan gynnwys perfformiadau gan y band tir glas Taff Rapids Stringsband, set unigol gan Mared, sef enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021, y grŵp gwerin Lo-fi Jones, a'r grŵp indie o'r Felinheli, sef Achlysurol.
LD3
Latest from the Media Centre
All newsSearch by Tag:
- Tagged with WalesWales