Yn adlewyrchu’r Brifwyl ers canrif – o unawd ffidil yn 1923 i dros 180 awr o ddarlledu o Foduan yn 2023

Eisteddfod Genedlaethol yw darllediad allanol mwyaf y flwyddyn i BBC Cymru, ac eleni, bydd y cynnwys yn adlewyrchu holl amrywiaeth a chyffro’r wythnos ym Moduan

Cyhoeddedig: 12:01 yb, 4 Awst 2023
Eisteddfod in big letters at the festival
Os fyddwch chi ym Moduan neu beidio, bydd holl hwyl yr ŵyl i’w weld a’i glywed ar hyd a lled ein gwasanaethau. Yr Eisteddfod yw digwyddiad darlledu allanol mwya’ BBC Cymru gyda rhaglenni a darllediadau ar ein gorsafoedd radio, ar-lein, BBC One Wales yn ogystal â’n rhaglenni dyddiol i S4C.
— Dywed Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru

Wrth i Eisteddfodwyr droi eu golygon at Brifwyl Llŷn ac Eifionydd 2023, does dim rhaid colli eiliad o’r ŵyl wrth i BBC Cymru gynhyrchu dros 180 awr o gynnwys radio a theledu, ynghyd ag adroddiadau ar-lein. Yn ogystal â rhaglenni uchafbwyntiau gyda Sian Eleri ar BBC One a Two Wales, bydd BBC Radio Cymru yn darlledu’n ddyddiol a Jennifer Jones yn adrodd o’r Maes ar BBC Wales Today. Fe fydd y bartneriaeth gref gyda S4C yn yr Eisteddfod yn parhau wrth i BBC Cymru gynhyrchu’r rhaglenni dyddiol o’r Maes i’w darlledu ar y sianel a’i llwyfannau digidol.

Mae’r Gorfforaeth wedi dathlu canrif o ddarlledu yng Nghymru eleni gyda’r darllediad cyntaf o Stryd y Castell, Caerdydd ar 13 Chwefror 1923. Mae cofnodion yr archif yn dangos fod y BBC wedi darlledu perfformiad enillydd yr Unawd Ffidil Eisteddfod 1923 ar y tonfeddi. Master Willie Foxhall daeth i’r brig y flwyddyn honno gyda’i ddehongliad o ‘Sonatina in G’.

Erbyn heddiw yr Eisteddfod Genedlaethol yw darllediad allanol mwyaf y flwyddyn i BBC Cymru, ac eleni, bydd y cynnwys yn adlewyrchu holl amrywiaeth a chyffro’r wythnos ym Moduan, gyda dros 90 awr o raglenni teledu, bron i 90 o oriau darlledu radio, a sylw sylweddol ar draws gwasanaethau newyddion, digidol a chymdeithasol.

Dywed Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Os fyddwch chi ym Moduan neu beidio, bydd holl hwyl yr ŵyl i’w weld a’i glywed ar hyd a lled ein gwasanaethau. Yr Eisteddfod yw digwyddiad darlledu allanol mwya’ BBC Cymru gyda rhaglenni a darllediadau ar ein gorsafoedd radio, ar-lein, BBC One Wales yn ogystal â’n rhaglenni dyddiol i S4C.

“Mae’n fuddsoddiad sylweddol o dros filiwn o bunnau gan y BBC yn y Gymraeg a’n diwylliant, gan sicrhau fod yr Eisteddfod nid yn unig ar y Maes ond hefyd ei bod yn cael ei gweld a’i chlywed yn ein cartrefi, gweithleoedd a’n cymunedau. Hoffwn ddymuno’n dda iawn i bawb sy’n rhan o’r digwyddiad eleni. Rydym yn hynod falch o’n partneriaeth gyda’r Eisteddfod ac edrychwn ymlaen at wythnos arbennig.”

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr i’r Maes eleni ac ar draws pob platfform darlledu, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r oriau o gystadlu ac arlwy artistig sydd gennym ni ar eich cyfer eleni yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

“Mae ‘na gyffro ar hyd a lled y dalgylch ein bod ni ar drothwy’r wythnos fawr o’r diwedd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r BBC a’n partneriaid i gyd er mwyn sicrhau Eisteddfod i’w chofio, boed ar y Maes neu o’r gadair gartref.”

BBC Radio Cymru

Bob bore, Aled Hughes fydd yn fyw o’r Maes gan grwydro i bob cwr o’r Eisteddfod gan gynnwys y Maes Carafanau. Tîm cyflwyno O’r Maes eleni fydd Shan Cothi, Steffan Rhys Hughes a Ffion Emyr, a bydden nhw’n darlledu o’r Sadwrn cyntaf i’r Sadwrn olaf. Ar Bore Sul yn fyw o’r Maes, bydd Iwan Griffiths yn cael cwmni gwesteion Eisteddfodol. Yn eu mysg, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, Dylan Iorwerth, Liz Saville Roberts AS, Rhys Tudur, Llyr Titus a Sian Teifi. Iwan Griffiths hefyd fydd yn dod â holl hanes y dydd ar Tocyn Wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd Dros Frecwast yn fyw o'r Maes gydaol yr wythnos gyda Kate Crockett dydd Llun a Mawrth, Dylan Ebenezer dydd Mercher ac Iau a Gwenllian Grigg ddydd Gwener. Bydd Dros Ginio yn fyw gyda Jennifer Jones ddydd Mawrth ac Iau; Dewi Llwyd fydd wrth y llyw ddydd Gwener.

Bydd Radio Cymru hefyd yn darlledu’r Oedfa bore Sul yma, Gig y Pafiliwn yn fyw nos Iau a’r Gymanfa Ganu dydd Sul nesaf. Bydd Rownd Derfynol Talwrn y Beirdd yn rhan or arlwy, a bydd cyfle i fwynhau uchafbwyntiau Llwyfan y Maes a’r Tŷ Gwerin ar raglenni hwyr yr orsaf yr wythnos ganlynol, yn ogystal â Brwydr y Bandiau.

S4C

Ar S4C ac S4C Clic, gydol yr wythnos bydd camerâu BBC Cymru ar hyd a lled y Maes – yn y Pafiliynau, y Babell Lên, Llwyfan y Maes a’r Tŷ Gwerin. Tudur Owen, Heledd Cynwal a Nia Roberts fydd yn arwain y gynulleidfa drwy ddigwyddiadau’r dydd a’r prif seremonïau a’r cystadlu. Sage Todz ac Eleri Sion fydd yn crwydro o amgylch y maes yn adlewyrchu’r ŵyl. Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis Morris yn ymuno â Tudur Owen gyda’r nos gan gyfleu uchafbwyntiau’r dydd.

Newyddion S4C

Bydd Bethan Rhys Roberts a Rhodri Llywelyn yn cyflwyno Newyddion S4C yn fyw o Foduan gydag amrywiaeth o straeon o’r Maes a’r ardal gyfagos, cyfweliadau byw, ac yn ymateb i straeon mawr y dydd yng Nghymru a thu hwnt.

BBC iPlayer

Bydd ffrwd arbennig Sedd o’r Pafiliwn Mawr yn ddyddiol ar BBC iPlayer – gall y gynulleidfa ei gyrraedd trwy fynd i gategori ‘Cymru’ ar iPlayer.

BBC One Wales a BBC Two Wales

Cyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri fydd yn dod ag uchafbwyntiau a straeon yr wythnos i BBC One Wales a BBC Two Wales yn ogystal â BBC Four. Yn y rhaglen gyntaf bydd Sian yn clustfeinio ar gyngerdd Pedair a Chôr Gwerin yr Eisteddfod, yn cwrdd â gwneuthurwyr y Goron a’r Gadair eleni, ac yn profi perfformiadau cerddorol amrywiol yr ŵyl.

Wales Today

Ar Wales Today, Jennifer Jones fydd yn dod â’r straeon diweddaraf o’r Maes yn fyw bob dydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn y bwletinau amser cinio a min nos.

BBC Cymru Fyw

Ar Cymru Fyw bydd holl straeon a hwyl y maes pob dydd. A gydol yr wythnos bydd clipiau fideo o uchafbwyntiau cystadlu’r Pafiliwn.

BBC Radio Wales

Bydd Radio Wales yn edrych mlaen at y Brifwyl yn The Arts Show ddydd Gwener, 4 Awst gydag Aneurin Karadog, Ceri Wyn Jones a Betsan Moses yn westeion, ac yn edrych yn ôl ar Y Lle Celf mewn rhaglen arbennig nos Wener 11 Awst. Bydd Huw Stephens yn darlledu’n fyw o’r Maes ar ei raglen nos Fercher, a bydd James Williams ar y Maes ar gyfer Radio Wales Breakfast ar gychwyn yr wythnos.

BBC Wales News Online

Bydd BBC Wales News Online yn rhoi sylw dyddiol gydol yr wythnos i straeon o’r Maes.

Gorwelion

Mae prosiect Horizons/Gorwelion, sy’n cael ei ariannu gan BBC Cymru ar y cyd â Chyngor y Celfyddydau, yn creu cyfres o Sesiynau Gwyllt o gwmpas ardal yr Eisteddfod, gyda sesiynau yn cynnwys Tara Bandito, Alffa a Pys Melyn. Bydd hefyd wythnos o sesiynau byw yn stiwdio Sain, a bydd y prosiect hefyd yn adlewyrchu’r ystod eang o gerddoriaeth fydd ar y Maes ac yn yr ardal leol yn ystod yr wythnos.

Ar y Maes

Ar y Maes, yn ogystal â’r darlledu dyddiol, bydd cyflwynwyr Radio Cymru ac S4C yn tywys y torfeydd drwy nosweithiau cerddorol Llwyfan y Maes.

Bydd Ffion Dafis yn cael cwmni Hywel Gwynfryn mewn sesiwn yn y Babell Lên nos Lun.

Bydd Cadeirydd Dros Dro y BBC, Y Fonesig Elan Closs Stephens yn ymuno â Dewi Llwyd ym Mhabell y Cymdeithasau ddydd Mawrth fel rhan o ddigwyddiadau’r BBC yng Nghymru i nodi can mlynedd o ddarlledu. Bydd Dewi yn holi’r Fonesig Closs Stephens am ei chyfraniad i’r byd darlledu dros y blynyddoedd yn ogystal ag am ei her ddiweddara’ fel Cadeirydd dros dro'r Gorfforaeth.

SG

Latest from the Media Centre

All news

Search by Tag:

Newid iaith: